Iris Prize calls for applications for prestigious storytelling workshops

• A new series of storytelling workshops to be delivered by Iris Prize is supported by Screen Alliance Wales and Duck Soup

• “What we’ve done with this new workshop series is to bring together experts we know and produce a six-week structure which allows us to offer this amazing opportunity for future storytellers.”
Speakers - Storytelling
Organisers of the world’s largest LGBTQ+ short film festival have today (24 March, 2023) announced a brand-new training initiative to help develop excellence in storytelling with moving image. If you’ve never made a film before but might have had ‘that’ story in your head for a while, are a filmmaker in need of encouragement to tell more stories or just want to try something new - The Iris Guide to Storytelling is for you!
The Cardiff-based Iris Prize LGBTQ+ Film Festival is excited to call for applications for the new in-person Guide to Storytelling workshop series, supported by Duck Soup and Screen Alliance Wales. The workshops will begin on 15 April and take place every Saturday for six weeks, except for 6 May.  They will take place at Iris HQ in the centre of Cardiff. The Iris Guide to Storytelling workshop series is an introduction for anybody over 18 who is interested in understanding more about excellence in storytelling. During the workshops you will learn new practical skills and gain valuable advice about how to take stories to the next step on screen.
Berwyn Rowlands, Iris Prize Film Festival Director said: “In our day-to-day work with the Iris Prize, we have access to so much film talent and specifically storytellers. What we’ve done with this new workshop series is to bring together experts we know and produce a six-week structure which allows us to offer this amazing opportunity for future storytellers. “Our vision has been welcomed by Screen Alliance Wales and Duck Soup, who are supporting this inaugural workshop series. Potential applicants have until Monday 3 April at 11am to register their interest. The first workshop takes place on Saturday 15 April in Cardiff.”
The workshops will be delivered by Team Iris who have 35 years’ worth of experience alongside our industry friends, Iris Prize winners, and film makers from across the UK, including Darius Shu, producer of Queer Parivaar (winner of the Iris Prize Best British Award 2022); Thomas McDonald, producer of Jim (winner of the Iris Prize Co-op Audience Award 2022); Dr Mena Fombo; Angela Clarke; and Bethan Evans.
During the workshops you will get to watch films, talk about the films and understand more about excellence in storytelling. Each Saturday will focus on one of the following themes:
  • Authentic Casting / Representation – 15 April
  • Documentaries – 22 April
  • Script to Screen – 29 April
  • Queer Youth 13 May
  • Making films in Wales / locations – 20 May
  • Dramatizing True Stories – 27 May
The 2023 Iris Podcast with Damian Kerlin will be recorded during the workshop series and will explore the above themes in more detail. Guests taking part in the podcast will include Iris Prize Best of British film makers from 2022 who will screen their short film and discuss the good and bad memories of getting them made, focusing on storytelling. Speakers on the podcast include the workshop leaders and speakers, in addition to members of the team behind Lost Boys and Fairies created, written and executive produced by Daf James. Lost Boys and Fairies is Daf’s first original screenplay for the BBC and filming starts this April. Daf developed the project with Duck Soup as part of BBC Writersroom’s TV Drama Writers’ Programme 2019.

   APPLY HERE


Based in Leeds and Cardiff, Duck Soup produces bold, authored content for Film and TV. Their projects aim to take audiences on an entertaining and thought-provoking journey exploring contemporary and resonant themes. Currently in production they have Lost Boys and Fairies for the BBC and Dance School for Channel 4  
Screen Alliance Wales (SAW) is the gateway between the industry and its workforce. It grows and promotes the talent, crew and services of the film and TV industry in Wales. SAW is unique and will become the industry standard in promoting the complete supply chain from one single place. SAW is a not-for-profit organisation that recognises the global potential of the film and TV industry in Wales.  
Gwobr Iris yn galw am geisiadau ar gyfer gweithdai adrodd straeon o fri
  • Cefnogir cyfres newydd o weithdai adrodd straeon a gyflwynir gan Iris Prize gan Screen Alliance Wales a Duck Soup
  • "Yr hyn rydyn ni wedi'i wneud gyda'r gyfres gweithdai newydd hon yw dod ag arbenigwyr yr ydym yn eu hadnabod ynghyd a chynhyrchu strwythur chwe wythnos sy'n ein galluogi i gynnig y cyfle anhygoel hwn i storïwyr y dyfodol."

Heddiw (24 Mawrth, 2023) cyhoeddodd trefnwyr gŵyl ffilm fer LHDTQ+ fwyaf y byd fenter hyfforddi newydd sbon i helpu datblygu rhagoriaeth mewn adrodd straeon gyda delwedd symudol. Os nad ydych chi erioed wedi gwneud ffilm o'r blaen ond efallai eich bod wedi cael stori yn eich pen am gyfnod, yn wneuthurwr ffilmiau sydd angen anogaeth i adrodd mwy o straeon neu m’ond eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd – mae Cyflwyniad Iris i Adrodd Straeon i chi!
Mae Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris yng Nghaerdydd yn gyffrous iawn i alw am geisiadau ar gyfer y gyfres o weithdai newydd wyneb yn wyneb Cyflwyniad Iris i Adrodd Straeon, a gefnogir gan Duck Soup a Screen Alliance Wales. Bydd y gweithdai yn dechrau ar 15 Ebrill ac yn cael eu cynnal bob dydd Sadwrn am chwe wythnos, heblaw am 6 Mai.  Byddant yn cael eu cynnal ym Mhencadlys Iris yng nghanol Caerdydd. Mae cyfres gweithdai Cyflwyniad Iris i Adrodd Straeon yn addas i unrhyw un dros 18 oed sydd â diddordeb mewn deall mwy am ragoriaeth mewn adrodd straeon. Yn ystod y gweithdai byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol newydd ac yn cael cyngor gwerthfawr am sut i fynd â straeon i'r cam nesaf ar y sgrin.
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Gwobr Iris: "Yn ein gwaith dydd-i-ddydd gyda Gwobr Iris, mae gennym fynediad at gymaint o dalent ffilm ac yn benodol adroddwyr straeon. Yr hyn rydyn ni wedi'i wneud gyda'r gyfres gweithdai newydd hon yw dod ag arbenigwyr yr ydym yn eu hadnabod ynghyd a chynhyrchu strwythur chwe wythnos sy'n ein galluogi i gynnig y cyfle anhygoel hwn i storïwyr y dyfodol. "Croesawyd ein gweledigaeth gan Screen Alliance Wales a Duck Soup, sy'n cefnogi’r gyfres gweithdai agoriadol hon. Mae gan ymgeiswyr posib tan ddydd Llun 3 Ebrill am 11am i gofrestru eu diddordeb. Cynhelir y gweithdy cyntaf ddydd Sadwrn 15 Ebrill yng Nghaerdydd."
Bydd y gweithdai yn cael eu cyflwyno gan Dîm Iris sydd â gwerth 35 mlynedd o brofiad, ochr yn ochr â'n ffrindiau yn y diwydiant, enillwyr Gwobr Iris, a gwneuthurwyr ffilm o bob cwr o'r DU, gan gynnwys Darius Shu, cynhyrchydd Queer Parivaar (enillydd Gwobr Gorau Ym Mhrydain Gwobr Iris 2022); Thomas McDonald, cynhyrchydd Jim (enillydd Gwobr Cynulleidfa Co-op Gwobr Iris 2022); Dr Mena Fombo; Angela Clarke; a Bethan Evans.
Yn ystod y gweithdai byddwch yn cael gwylio ffilmiau, siarad am y ffilmiau a deall mwy am ragoriaeth mewn adrodd straeon. Bydd pob dydd Sadwrn yn canolbwyntio ar un o'r themâu canlynol:
  • Castio dilys/ Cynrychiolaeth – 15 Ebrill
  • Rhaglenni dogfen – 22 Ebrill
  • Sgript i sgrin – 29 Ebrill
  • Ieuenctid Queer 13 Mai
  • Creu ffilmiau yng Nghymru / Lleoliadau – 20 Mai
  • Dramateiddio straeon go iawn – 27 Mai
Bydd Podlediad Iris 2023 gyda Damian Kerlin yn cael ei recordio yn ystod y gyfres gweithdai a bydd yn archwilio'r themâu uchod yn fanylach. Bydd y gwesteion sy'n cymryd rhan yn y podlediad yn cynnwys gwneuthurwur ffilm Gwobr Gorau Ym Mhrydain Gwobr Iris 2022 a fydd yn dangos eu ffilmiau byrion ac yn trafod yr atgofion da a drwg o'u gwneud, gan ganolbwyntio ar adrodd straeon.
Ymhlith y siaradwyr ar y podlediad mae arweinwyr y gweithdai a'r siaradwyr, yn ogystal ag aelodau'r tîm y tu ôl i Lost Boys and Fairies a grëwyd, ysgrifennwyd a gynhyrchwyd gan Daf James. Lost Boys and Fairies yw sgript ffilm wreiddiol gyntaf Daf ar gyfer y BBC ac mae'r ffilmio'n dechrau ym mis Ebrill eleni. Datblygodd Daf y prosiect gyda Duck Soup Films fel rhan o raglen awduron drama deledu BBC Writersroom 2019.
Gyda'i bencadlys yn Leeds a Chaerdydd, mae Duck Soup yn cynhyrchu cynnwys beiddgar sydd wedi'i ysgrifennu ar gyfer Ffilm a Theledu. Nod eu prosiectau yw mynd â chynulleidfaoedd ar daith ddifyr sy'n procio'r meddwl sy'n archwilio themâu cyfoes ac atseiniol. Yn cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd mae Lost Boys and Fairies i'r BBC a Dance School ar gyfer Channel 4.    
Screen Alliance Wales (SAW) yw'r porth rhwng y diwydiant a'i weithlu. Mae'n tyfu ac yn hyrwyddo talent, criw a gwasanaethau'r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru. Mae SAW yn unigryw a bydd yn dod yn safon y diwydiant wrth hyrwyddo'r gadwyn gyflenwi gyflawn o un lle. Mae SAW yn fudiad dielw sy'n cydnabod potensial byd-eang y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.