2021’s shortlisted films explore the breadth of British LGBT+ experience, with stories ranging from the dark depths of drug addiction and workplace bullying to the joyous highs of tender first love and releasing your inner drag king. Featuring diverse characters ranging from a transgender teenager to Mr Gay Wales, this year’s shorts highlight the wealth of talent working in short film in the UK. The selection includes Baba - only the second film in the Festival’s history to win both its main award the Iris Prize and the Best British Short award - and the two films highly commended by this year’s jury, Cwch Deilen and Pop. The list also includes three films from Wales.

“Our partnership with the Iris Festival continues to showcase the sheer diversity of talent we have in UK short filmmaking and its success on All 4 proves there is an audience wanting to watch unique stories from new talent. We are delighted to continue presenting these short films on All 4 to as wide an audience as possible.”
Berwyn Rowlands, Festival Director said:
“We knew that working with Channel 4 and All 4 would be amazing, and we were looking at a game changer in how we could reach a new audience for the Iris Prize short films. I did start dreaming about audience numbers, but it soon became apparent that this was the gift that kept giving. Never in a million years did I ever think we would reach so many people, introducing an audience to new and exciting LGBT+ stories. I’m delighted for the film makers and grateful to the talented people at Channel 4 who took a chance with Iris. I’m speechless!”
More information on and images of the shortlisted films and directors are available at:
A trailer for the 2021 Iris Prize Best British Short Films is available here:
Goreuon Ffilmiau Byrion Gorau Ym Mhrydain Gwobr Iris yn mynd i All 4
- Bydd y 15 ffilm LHDT+ ar restr fer 2021 Gwobr Ffilm Fer Orau Ym Mhrydain Gwobr Iris a Gefnogir Gan Film4 yn cael eu darlledu ar Channel 4 a'u ffrydio ar All 4, gan ddechrau ddydd Llun 29 Tachwedd.
Mae ffilmiau ar restr fer 2021 yn archwilio ehangder profiad LHDT+ Prydain, gyda straeon yn amrywio o ddyfnderoedd tywyll bod yn gaeth i gyffuriau a bwlio yn y gweithle i uchafbwyntiau llawen cariad cyntaf tyner a rhyddhau eich brenin drag mewnol. Yn cynnwys cymeriadau amrywiol megis person trawsryweddol yn ei arddegau i Mr Gay Wales, mae ffilmiau byrion eleni yn tynnu sylw at y cyfoeth o dalent sy'n gweithio yn y maes ffilmiau byrion yn y DU. Mae'r detholiad yn cynnwys Baba - dim ond yr ail ffilm yn hanes yr Ŵyl i ennill ei phrif wobr Gwobr Iris a gwobr Ffilm Fer Gorau Ym Mhrydain - a'r ddwy ffilm a ganmolwyd yn fawr gan reithgor eleni, Cwch Deilen a Pop. Mae'r rhestr hefyd yn cynnwys tair ffilm o Gymru.

“Mae ein partneriaeth â Gŵyl Iris yn parhau i arddangos yr amrywiaeth enfawr o dalent sydd gennym ym maes gwneud ffilmiau byrion yn y DU ac mae’r llwyddiant ar All 4 yn profi bod cynulleidfa eisiau gwylio straeon unigryw gan dalent newydd. Rydym yn falch iawn o barhau i gyflwyno'r ffilmiau byrion hyn ar All 4 i gynulleidfa mor eang â phosib.”
Dywed Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr yr Ŵyl:
“Roeddem yn gwybod y byddai gweithio gyda Channel 4 ac All 4 yn anhygoel, ac roeddem yn edrych ar newidiwr gêm o ran sut y gallem gyrraedd cynulleidfa newydd ar gyfer ffilmiau byrion Gwobr Iris. Dechreuais freuddwydio am niferoedd y gynulleidfa, ond daeth yn amlwg yn fuan mai hwn oedd y rhodd sy'n dal i roi. Ni feddyliais erioed y byddem yn cyrraedd cymaint o bobl, gan gyflwyno cynulleidfa i straeon LHDT+ newydd a chyffrous. Rwy'n falch iawn o'r gwneuthurwyr ffilm ac yn ddiolchgar i'r bobl dalentog yn Channel 4 a gymerodd gyfle gydag Iris. Fedra i ddweud dim!”
Mae mwy o wybodaeth am y ffilmiau a'r cyfarwyddwyr ar y rhestr fer, ynghyd â delweddau, ar gael yma:
Mae trelar ar gyfer Ffilmiau Byrion Gorau Ym Mhrydain Gwobr Iris 2021 ar gael yma: