Mae Kate Herron yn agor Gwobr Iris 2024 gyda’r sesiwn holi ac ateb unigryw hon. O Loki (Marvel), Doctor Who, Sex Education, a Five by Five, mae Kate wedi gwneud marc annileadwy ar ein hanes gwylio. Mae’r awdur-gyfarwyddwr, sy’n gweithio ar draws ffilm, teledu a llyfrau comig, wedi cipio cynulleidfaoedd byd-eang gyda’i storïau, gyda phennod o The Last of Us yn dal ar y gorwel. Dydych chi ddim eisiau colli hwn!
