Director’s bio
Vicky Morton is a Welsh documentary filmmaker and co-founder of Red Mountain Films. Their visually driven work explores identity, community and underrepresented voices. Their latest documentary, Wear I Am, was supported by the Iris Prize LGBTQ+ Documentary Film Fund. Recently, Vicky was also selected for the 2026 Sheffield DocFest Filmmaker Challenge and the 2025 Ffilm Cymru Wales delegation to IDFA.
Pan fydd cais am ddillad sy’n cadarnhau rhywedd yn cyrraedd yr elusen lawr gwlad TIN Wardrobe, mae parsel a roddwyd yn cychwyn taith ar draws Môr Iwerddon. Mae Wear I Am yn dilyn ei lwybr, gan archwilio hunaniaeth, gwydnwch a theulu dewisol wrth ddathlu ewfforia rhywedd ac undod lawr gwlad o fewn y gymuned draws, anneuaidd a rhyngrywiol.
Bywgraffiad y cyfarwyddwr
Mae Vicky Morton yn wneuthurwr ffilmiau dogfen o Gymru ac yn gyd-sylfaenydd Red Mountain Films. Mae eu gwaith sy’n cael ei ysgogi’n weledol yn archwilio hunaniaeth, cymuned a lleisiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Cefnogwyd eu ffilm ddogfen ddiweddaraf, Wear I Am, gan Gronfa Ffilm Ddogfen LHDTQ+ Gwobr Iris. Yn ddiweddar, dewiswyd Vicky hefyd ar gyfer Her Gwneuthurwyr Ffilmiau Sheffield DocFest 2026 a dirprwyaeth Ffilm Cymru Wales i IDFA 2025.
