Talks

The rise of subtitles!

The rise of subtitles! From Young Royals to Squid Game, language is no longer a barrier to huge audiences enjoying great storytelling. Join us for our first ever all Welsh language discussion, as we explore the hopes and possibilities for the doors this will open next. Hosted by Adam Price. Translation facilities available.

THU, 10 Oct - 10:00 - @VUE, SCREEN 2

Cynnydd isdeitlau!

O Young Royals i Squid Game, nid yw iaith bellach yn rhwystr i gynulleidfaoedd enfawr rhag mwynhau adrodd straeon gwych. Ymunwch â ni ar gyfer ein trafodaeth gyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg, wrth i ni archwilio’r gobeithion a’r posibiliadau ar gyfer y drysau y bydd hyn yn eu hagor nesaf. Adam Price sy’n cadeirio. Cyfleusterau cyfieithu ar gael.


Y siaradwyr:

Adam Price

Adam Price
Aelod o’r Senedd

Mae Adam Price wedi bod yn Aelod o’r Senedd, Senedd Cymru, dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ers 2016 ac roedd cyn hynny yn Aelod o Dŷ’r Cyffredin rhwng 2001 a 2010. Ef oedd Arweinydd Plaid Cymru rhwng 2018 a 2023, y dyn hoyw cyntaf allan i arwain plaid wleidyddol yn y DU. Yn 2018 bu’n cadeirio rhaglen LHDT+ cyntaf Ma’s ar y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.


Berwyn Rowlands_Festival Director

Berwyn Rowlands
Cyfarwyddwr Gwobr Iris

Sylfaenydd Gwobr Iris, gwobr ffilm fer fwyaf y byd gwerth £30,000 sydd yn rhoi Cymru ar y map rhyngwladol. Mae Berwyn Rowlands yn gweithio y tu ôl i’r llenni i hyrwyddo cyfryngau LHDTQ+, nid yn unig yn meithrin gwneuthurwyr ffilm y dyfodol ond yn rhannu cyngor a chefnogaeth. Mae Gwobr Iris yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl LHDTC+ ledled Cymru, a’r byd, i deimlo eu bod yn cael eu gweld a’u cynrychioli. Yn 2023 derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am ei gyfraniad eithriadol i’r celfyddydau creadigol yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth.


Cai Morgan
Pennaeth Boom Social

Mae Cai Morgan yn Bennaeth adran digidol a chyfryngau cymdeithasol cwmni cynhyrchu Boom. Mae Boom Social yn dîm o gynhyrchwyr cynnwys digidol, sy’n gyfrifol am greu a dosbarthu dros 750 o ddarnau o gynnwys digidol yn flynyddol ar gyfer sianeli fel BBC Cymru, S4C, Hansh S4C ac ystod eang o gyhoeddwyr eraill gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Bêl Droed Cymru a Dŵr Cymru.


Siân Gale Rheolydd Sgiliau a Datblygiad

Bectu | CULT Cymru

Mae Siân yn gweithio i’r undeb cyfryngau ac adloniant Bectu ar y rhaglen ddysgu ar y cyd boblogaidd CULT Cymru sy’n cefnogi ac yn grymuso gweithwyr creadigol mewn Digwyddiadau Sgrin, Theatr a Byw.


Sion Morgan
Pennaeth Isdeitlo Cyfatebol

Mae Sion wedi bod yn gweithio ar draws pob agwedd o isdeitlo – isdeitlo yn y Gymraeg, isdeitlo yn Saesneg, isdeitlo byw, chwaraeon, dogfen, drama, ffilm, comedi – ers 1995. Mae wedi gweithio ar gynyrchiadau niferus megis Solomon a Gaenor ar gyfer y sinema yn 1999, a’r Clwb Rygbi i S4C. Sion oedd y ‘llais’ cyntaf i ddefnyddio meddalwedd adnabod llais ar gyfer isdeitlo byw ar S4C ar y Waw Ffactor nol yn 2003. Mae Sion yn gweithio i gwmni Cyfatebol, sy’n gyfrifol am y rhan helaeth o wasanaeth isdeitlo S4C ers 2019, gan gynnwys isdeitlau Cymraeg byw ar Prynhawn Da, Heno, a Newyddion am y tro cyntaf, ers 2023. Mae’r cwmni hefyd wedi darparu isdeitlau Cymraeg ar gyfer cyfres gyntaf Dal y Mellt ar Netflix.


The speakers:

Adam Price

Adam Price
Member of the Senedd

Adam Price has been the Member of the Senedd, the Welsh Parliament, for Carmarthen East and Dinefwr since 2016 and was before that a Member of the House of Commons between 2001 and 2010. He was Leader of Plaid Cymru between 2018 and 2023, the first out gay man to lead a political party in the UK. In 2018 he chaired the inaugural Mas ar y Maes LGBT+ programme at the National Eisteddfod in Cardiff.


Berwyn Rowlands_Festival DirectorBerwyn Rowlands
Director Iris Prize

Founder of the Iris Prize, the £30,000 film award is the world’s largest short film prize and puts Wales on the international map. Berwyn Rowlands works behind the scenes to promote LGBTQ+ media, not only nurturing up and coming filmmakers but lending advice and support. The Iris Prize plays a crucial role in helping LGBTQ+ people across Wales, and the world, to feel seen and represented. In 2023 he was presented with an Honorary Fellowship of the University of Wales Trinity Saint David for his outstanding contribution to the creative arts in Wales particularly in relation to equality and diversity.


Cai Morgan

Head of Boom Social

Cai Morgan is the Head of Boom’s digital and social media department, Boom Social. Boom Social are a team of digital content producers, responsible for the creation and distribution of over 750 pieces of digital content annually for channels such as BBC Wales, S4C, Hansh S4C and a wide range of businesses including Welsh Government, FAW and Dŵr Cymru/Welsh Water.


Siân Gale Skills & Development Manager

Bectu | CULT Cymru

Siân works for the media and entertainment union Bectu on the popular joint-union learning programme CULT Cymru that supports and empowers creative workers in Screen, Theatre and Live Events.


Sion Morgan
Head of Subtitling Cyfatebol

Sion has been working across all aspects of subtitling – subtitling in Welsh, subtitling in English, live subtitling, sport, documentary, drama, film, comedy – since 1995. He has worked on numerous productions such as Solomon and Gaenor for cinema in 1999, and Y Clwb Rygbi for S4C. Sion was the first ‘voice’ to use voice recognition software for live subtitling on S4C on the Waw Ffactor back in 2003. Sion works for Cyfatebol, which has been responsible for the bulk of S4C’s subtitling service since 2019, including live Welsh subtitles on Prynhawn Da, Heno, and Newyddion for the first time, since 2023. The company has also provided Welsh subtitles for the first series of Dal y Mellt on Netflix.

BUY TICKETS