MY FAVOURITE FILM IS…
Thursday 16th February 2017, 6pm – 7pm
Cineworld, Junction Leisure Park, Llandudno Junction, Conwy.  LL31 9XX

With: Jeremy Miles AM (Welsh Labour), Adam Price AM (Plaid Cymru) and Suzy Davies AM (Welsh Conservative).

Three prominent Welsh based politicians share some of their favourite cinema moments as they reveal the good, the bad and the ugly! As this event takes place during LGBT History Month they will be asked specifically about LGBT cinema and encouraged to comment on films that had an impact (good or bad) on their own sexuality or their understanding of LGBT issues.

We are not going to reveal any of the choices before the event – but the full list of films will be available here after the event. TICKETS: HERE!

What’s your favourite LGBT film?
We asked Festival Director, Berwyn Rowlands to reveal his favourite film and why?

Berwyn Rowlands: It would have to be My Beautiful Laundrette, directed by Stephen Frears with Daniel Day-Lewis, Gordon Warnecke and Saeed Jaffrey. The film was released in 1985 when I was volunteering for Radio Ysbyty Gwynedd and I got to review the film for the evening programme. On the occasion of my 30th birthday I got to screen the film for friends at the Commodore Cinema in Aberystwyth and by the time I was 40 I had been lucky enough through work to have met the director Stephen Frears.

The film is still relevant today, and possibly more so? Thatcher’s divided Britain is the backdrop to a love story between Johnny, a skinhead and Omar a South London Pakistani man. It was not necessarily unusual because it was a gay love story, although films depicting gay romance at the time were very thin on the ground, but more so because of the cultural differences. Hanif Kureishi’s script is beautifully subversive and Frears’ direction is a colourful addition to social realism at a point when most people would agree he was leading Britain’s cinematic revival at the time.

 

 

 

 

 

 

FY HOFF FFILM I YW…
Nos Iau 16 Chwefror 2017, 6pm – 7pm
Cineworld, Parc Hamdden Cyffordd Llandudno, Conwy.  LL31 9XX

Gyda: Jeremy Miles AC (Llafur Cymru), Adam Price AC (Plaid Cymru) a Suzy Davies AC (Ceidwadwyr Cymru).

Bydd tri o wleidyddion blaenllaw Cymru yn rhannu rhai o’u hoff dameidiau o sinema wrth iddyn nhw ddatgelu’r da, y drwg a’r hyll! Gan fod y digwyddiad yma yn digwydd yn ystod Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws byddwn ni’n gofyn yn benodol i’r gwleidyddion am sinema lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws ac yn gofyn iddyn nhw wneud sylwadau ar ffilmiau sydd wedi cael effaith (dda neu ddrwg) ar eu rhywioldeb nhw eu hunain neu eu dealltwriaeth o faterion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws.

Wnawn ni ddim datgelu eu dewisiadau nhw cyn y digwyddiad – ond bydd y rhestr lawn o ffilmiau ar gael ar wefan Gwobr Iris ar ôl y digwyddiad.

Beth yw eich hoff ffilm lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thraws? Fe ofynnon ni i Gyfarwyddwr yr Ŵyl, Berwyn Rowlands, ddatgelu ei hoff ffilm a pham?

Berwyn Rowlands: Fyddai’n rhaid i fi ddewis My Beautiful Laundrette, wedi’i chyfarwyddo gan Stephen Frears efo Daniel Day-Lewis, Gordon Warnecke a Saeed Jaffrey. Gafodd y ffilm ei rhyddhau yn 1985 pan o’n i’n gwirfoddoli efo Radio Ysbyty Gwynedd, ac mi ges i adolygu’r ffilm ar gyfer eu rhaglen gyda’r nos nhw. Ar achlysur fy mhen-blwydd yn 30 oed mi ges i ddangos y ffilm i ffrindiau yn Sinema’r Commodore yn Aberystwyth, ac erbyn fy mhen-blwydd yn 40 oed ro’n i wedi bod yn ddigon ffodus, drwy’r gwaith, i gael cwrdd â’r cyfarwyddwr Stephen Frears.

Mae’r ffilm yn dal i fod yn berthnasol heddiw, a hyd yn oed yn fwy perthnasol o bosib? Mae Prydain wedi’i rhannu gan Thatcher yn gefndir i stori garu rhwng y llanc penfoel Johnny, ac Omar, dyn ifanc o dras Pacistanaidd sy’n byw yn Ne Llundain. Doedd hi ddim o reidrwydd yn anarferol achos y stori garu hoyw, er bod ffilmiau yn portreadu rhamant hoyw yn brin ar y pryd, ond yn fwy na hynny roedd hi’n trafod y gwahaniaethau diwylliannol. Mae sgript Hanif Kureishi yn hyfryd o danseiliol, ac mae cyfarwyddyd Frears yn ychwanegiad lliwgar at realiti cymdeithasol mewn cyfnod pan fyddai’r rhan fwya o bobl yn cytuno ei fod yn arwain adfywiad sinematig Prydain ar y pryd.