Heather Small is confirmed as new Patron for the Iris Prize

“There are certain things you do that put joy in your heart and make you smile from the inside out: that, for me, is the Iris Prize”
“I want to bring something a little extra that is part of me, in the sense of more people hearing about the Iris Prize”

Organisers of the Cardiff based Iris Prize LGBT+ Film Festival are delighted to confirm the appointment of Heather Small as a patron of the organisation.  The world-famous soul singer achieved huge success in the 90s with the group M People, selling over 10 million albums worldwide, before embarking on a solo career, with hits including Proud. Heather has been a supporter of the Iris Prize for many years, performing during the festival’s awards show in 2017 and returning in 2018 as a member of the International Jury.    Heather Small, Singer and Iris Patron commented:  “There are certain things you do that put joy in your heart and make you smile from the inside out: that, for me, is the Iris Prize” “I have to say, it feels amazing. I am truly committed to the Iris Prize and I am truly committed to my new role. I want to bring something a little extra that is part of me, in the sense of more people hearing about the Iris Prize and more people seeing those films. They definitely have to be seen. These stories have to be told.”      Berwyn Rowlands, Director and Founder of the Iris Prize commented:   “I’ve always been a massive fan of Heather and I’m happy to admit I was a little starstruck when she agreed to support Iris by performing at the awards show. They say “don’t meet your heroes”, but I’m glad I did!  “She was amazing and a very popular jury member who took the job seriously. She took an active part in the decision-making process which awards one film maker with the £30,000 Iris Prize -- still the world’s largest single prize for a short film.  What’s super cool about Heather is she’s got the gift of reaching out to people. There was a lovely incident in a Cardiff restaurant during the 2018 festival. It was late and the jury were tired having been watching and discussing films all day. Heather had other ideas, suddenly she befriended the guy who had been entertaining the diners with his guitar. Next thing, they were singing Stand By Me together. It was one of those magic moments, which happen often when you are in the company of this special person.” Andrew Pierce, Festival Chair, commented:  You just know when somebody is genuine and interested in your work. Heather has been unbelievably generous with her time supporting Iris and our work in sharing LGBT+ stories to as wide an audience as possible.  In our 15th anniversary year we are in a strong position to take Iris to another level. Unexpectedly we reached audiences in the 80,000 in 2020 as we took Iris online. I’m sure with Heather joining us formally as a patron we should be able to sustain those numbers in 2021 and I hope increase them.”  There are a lot of unknowns about how 2021 will pan out, primarily because of the continued impact of the pandemic. But I am reassured that with Heather joining our other patrons, including Lord Glendonbrook, Christopher Racster, Sara Sugarman, Katie White and myself, we have enough stability to see our work continue and increase in impact as we share more LGBT+ stories with new audiences.” 
To celebrate her appointment as an Iris Prize patron, Heather appears on the cover of DIVA Magazine (February 2021), which also features a full 7-page interview between Heather and DIVA publisher Linda Riley. The following is a small extract from the interview:   This year Iris celebrates its 15th anniversary. Why do you think it’s been such a success?  I think it’s the passion, dedication and commitment of all involved – Berwyn Rowlands, festival director and his team. I’ve met them several times over the years. It was so wonderful that even with Covid they made it work and involved more people than ever before.” “There’s no incentive like being told “no” to make you turn it into a “yes”. I understand that more than a lot of people. When you belong to the LGBTQI community, when you belong to the Black Lives Matter movement, you understand being marginalised, you understand people telling you “no”. The word “no” followed me around like a bad odour in my youth. Somebody saying, “It’s going to be a challenge”, “It’s going to be difficult”, “It’s going to be hard”. All that does is fuel your ambition and you press forward.”  The full story in DIVA is available at divadirect.info
   

Cadarnhau Heather Small fel Noddwr newydd Gwobr Iris

 
  • “Mae yna rai pethau rydych chi'n eu gwneud sy'n rhoi llawenydd yn eich calon ac yn gwneud i chi wenu o'r tu mewn: dyna, i mi, yw Gwobr Iris”
  • “Rydw i eisiau dod â rhywbeth ychydig yn ychwanegol sy'n rhan ohonof i, yn yr ystyr bod mwy o bobl yn clywed am Wobr Iris”
Mae'n bleser gan drefnwyr Gŵyl Ffilm LHDT+ Gwobr Iris yng Nghaerdydd gadarnhau penodiad Heather Small fel noddwr y sefydliad. Cafodd y gantores ‘soul’ fyd-enwog lwyddiant ysgubol yn y 90au gyda’r grŵp M People, gan werthu dros 10 miliwn o albymau ledled y byd, cyn cychwyn ar yrfa solo, gyda chaneuon megis Proud. Mae Heather wedi bod yn gefnogwr Gwobr Iris ers blynyddoedd lawer, yn perfformio yn ystod sioe wobrwyo’r ŵyl yn 2017 ac yn dychwelyd yn 2018 fel aelod o’r Rheithgor Rhyngwladol. Dywedodd Heather Small, Cantores a Noddwr Iris: “Mae yna rai pethau rydych chi'n eu gwneud sy'n rhoi llawenydd yn eich calon ac yn gwneud i chi wenu o'r tu mewn: dyna, i mi, yw Gwobr Iris. “Rhaid i mi ddweud, mae’n teimlo’n anhygoel. Rwy'n wirioneddol ymrwymedig i Wobr Iris ac rwy'n wirioneddol ymrwymedig i'm rôl newydd. Rydw i eisiau dod â rhywbeth ychydig yn ychwanegol sy'n rhan ohonof i, yn yr ystyr bod mwy o bobl yn clywed am Wobr Iris a mwy o bobl yn gweld y ffilmiau hynny. Yn bendant mae'n rhaid eu gweld. Rhaid adrodd y straeon hyn.” Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr a Sylfaenydd Gwobr Iris: “Rydw i wedi bod yn ffan enfawr o Heather ers oesoedd ac rydw i'n hapus i gyfaddef fy mod i ychydig yn starstruck pan gytunodd i gefnogi Iris trwy berfformio yn y sioe wobrwyo. Maen nhw'n dweud ‘peidiwch â chwrdd â'ch arwyr’, ond rwy'n falch fy mod i wedi gwneud hynny! “Roedd hi’n anhygoel ac yn aelod o’r rheithgor poblogaidd iawn a gymerodd y swydd o ddifrif. Cymerodd ran weithredol yn y broses benderfynu, sy'n dyfarnu Gwobr Iris gwerth £30,000 i un gwneuthurwr ffilm - y wobr fwyaf yn y byd, o hyd, ar gyfer ffilm fer. “Yr hyn sy’n hynod o cŵl am Heather yw bod ganddi’r ddawn o estyn allan at bobl. Cafwyd digwyddiad hyfryd mewn bwyty yng Nghaerdydd yn ystod gŵyl 2018. Roedd hi'n hwyr ac roedd y rheithgor wedi blino ar ôl bod yn gwylio a thrafod ffilmiau trwy'r dydd. Roedd gan Heather syniadau eraill, yn sydyn fe gyfeilliodd â’r boi a oedd wedi bod yn diddanu’r bytwyr gyda’i gitâr. Y peth nesaf, roedden nhw'n canu Stand By Me gyda'i gilydd. Roedd yn un o’r eiliadau hud hynny, sy’n digwydd yn aml pan fyddwch chi yng nghwmni’r person arbennig hwn." Dywedodd Andrew Pierce, Cadeirydd yr Ŵyl: “Rydych chi'n gwybod pan mae rhywun yn ddiffuant ac â diddordeb yn eich gwaith. Mae Heather wedi bod yn anhygoel o hael gyda'i hamser yn cefnogi Iris a'n gwaith yn rhannu straeon LHDT+ i gynulleidfa mor eang â phosib. “Yn ein 15fed blwyddyn, rydym mewn sefyllfa gref i fynd ag Iris i lefel arall. Yn annisgwyl fe gyrhaeddon ni gynulleidfaoedd yn yr 80,000 yn 2020 wrth i ni fynd ag Iris ar-lein. Rwy'n siŵr gyda Heather yn ymuno â ni'n ffurfiol fel noddwr y dylem allu cynnal y niferoedd hynny yn 2021 a gobeithio eu cynyddu. “Mae yna lawer o bethau dirgel ynglŷn â sut yr aiff 2021, yn bennaf oherwydd effaith barhaus y pandemig. Ond rwy’n dawel fy meddwl, gyda Heather yn ymuno â’n noddwyr eraill, gan gynnwys yr Arglwydd Glendonbrook, Christopher Racster, Sara Sugarman, Katie White a minnau, fod gennym ddigon o sefydlogrwydd i weld ein gwaith yn parhau a chynyddu ei effaith wrth i ni rannu mwy o straeon LHDT+ gyda chynulleidfaoedd newydd.”
I ddathlu ei phenodiad fel noddwr Gwobr Iris, mae Heather yn ymddangos ar glawr Cylchgrawn DIVA (Chwefror 2021), sydd hefyd yn cynnwys cyfweliad 7 tudalen llawn rhwng Heather a chyhoeddwr DIVA, Linda Riley. Mae'r canlynol yn ddyfyniad bach o'r cyfweliad: Eleni mae Iris yn dathlu ei ben-blwydd yn 15 oed. Pam ydych chi'n meddwl ei fod wedi bod yn gymaint o lwyddiant? “Rwy’n credu taw’r angerdd, ymroddiad ac ymrwymiad pawb sy’n cymryd rhan - Berwyn Rowlands, cyfarwyddwr yr ŵyl a’i dîm. Rwyf wedi cwrdd â nhw sawl gwaith dros y blynyddoedd. Roedd mor rhyfeddol eu bod wedi gwneud i’r Ŵyl weithio ac i gynnwys mwy o bobl nag erioed o'r blaen, hyd yn oedyn nyddiau Covid. “Nid oes unrhyw gymhelliant fel cael clywed ‘na’ i wneud i chi ei droi’n ‘ie’. Rwy'n deall hyn mwy na llawer o bobl. Pan rydych chi'n perthyn i'r gymuned LHDTQI, pan rydych chi'n perthyn i fudiad Black Lives Matter, rydych chi'n deall cael eich gwthio i'r cyrion, rydych chi'n deall pobl sy'n dweud ‘na’ wrthoch chi. Roedd y gair ‘na’ yn fy nilyn o gwmpas fel arogl drwg yn fy ieuenctid. Rhywun yn dweud, ‘Fe fydd yn her’, ‘Fe fydd yn anodd’, ‘Fe fydd yn galed’. Beth mae hyn yn ei wneud yw megino'ch uchelgais ac rydych chi'n cario ‘mlaen.” Mae stori lawn DIVA ar gael yma divadirect.info