Iris on the Move: Llandudno Junction takes a celebration of LGBT film to North Wales

· 2017 Iris Prize winner Mikael Bundsen from Sweden to attend the Llandudno Junction based LGBT film festival
· Love theme adopted to celebrate Dydd Santes Dwynwen with stories about loving a bald man, the animated reality of loving a bear and a reminder of darker times in 1950s Yorkshire.
· 13 short films in the running for gold at the 2nd Iris Community & Education Short Film Awards
  Organisers of the Iris Prize have today confirmed programme details for the 2018 Iris on the Move event in Cineworld, Llandudno Junction. Highlights of the January celebration of LGBT film include the screening of 2017 Iris Prize Winner Mother Knows Best by Mikael Bundsen from Sweden and Iris Prize Best British winner We Love Moses by Dionne Edwards. Both film makers will be in Llandudno Junction to introduce their films. The festival also includes a programme of “love” short films to celebrate Dydd Santes Dwynwen, the Patron Saint of Welsh Lovers and the Welsh equivalent of Valentine’s Day. The international mix of stories includes a musical from Norway about a young man who comes out to his parents and confides in them that he is in love with a bald man; a silent train journey in India across a crowded carriage, the dark days of Britain in 1950s Yorkshire and the animated tale of a gay man who’s into bears, literally! The three-day festival will also include a chance to see the popular and award-winning feature God’s Own Country, which many describe as the UK version of Brokeback Mountain, and the International comedy Signature Move which focuses on the life of a thirty-something Muslim lawyer who’s also a lesbian and has started training as a Mexican wrestler! The films and events all take place in Cineworld, Llandudno Junction on the 24, 25 and 26 of January 2018. The organisers have also confirmed the names of the short films competing for the second Iris Community & Education Short Film Awards. Six secondary schools are competing for the Education Award. They are: Ysgol Dyffryn Aman, Ammanford; Ysgol Stanwell School, Penarth; Ysgol Tryfan, Bangor; Eastern High School, Cardiff; Lewis School Pengam, Bargoed and Ysgol Gyfun Emlyn, Castell Newydd Emlyn. The films will be judged by:
  • Rhiannon Hughes – Director of Wicked Cymru, Youth Film Festival
  • Graham Cantwell – Lily Director, Winner of Iris Prize Youth Jury Award
  • Paula Johnson – North Wales Police Enfys
  • Alex Polanski - Bangor University LGBT+ Society
There are seven short films competing for the Iris Community Short Film Award, the groups responsible for the films are: Office of National Statistics, Wales Audit Office, RainbowBiz, Shelter Cymru, South Wales Gay Men’s Chorus, Swansea People First, Glitter Cymru. The films will be judged by:
  • Mike Jones - Changing Attitude
  • Jenny-Anne Bishop – Unique Transgender Network
  • David Holloway – Bearable Director
  • Dionne Edwards – We Love Moses Director, Best British Winner
Andrew Pierce, Iris Prize Chair, commented: “We were delighted to confirm details for the 2018 programme as we make final arrangements to return to North Wales. The three-day programme includes film screenings, education sessions for schools and the second Iris Community & Education short film awards.” “It is important that Iris engages with audiences across the UK and this commitment to North Wales is the beginning of an ambitious plan to share LGBT stories with communities across the UK. I’m delighted that during 2018 Iris on the Move will be visiting: Newcastle, Manchester and Brighton.” The full Iris on the Move: Llandudno Junction programme and box office is available here All screenings are open to the public.                      
  • Enillydd Gwobr Iris 2017 Mikael Bundsen o Sweden i fod yn bresennol mewn gŵyl ffilmiau LHDT yng Nghyffordd Llandudno
  • Mabwysiadu thema cariad er mwyn dathlu Dydd Santes Dwynwen, gyda straeon am garu dyn moel, animeiddiad am realiti byw gydag arth a ffilm i'n hatgoffa am gyfnod mwy tywyll yn Swydd Efrog y pumdegau.
  • 13 o ffilmiau byrion yn cystadlu am yr aur, wrth i Wobrau Ffilmiau Byrion Addysg Iris ac Iris yn y Gymuned gael eu cynnal am yr eildro
Mae trefnwyr Gwobr Iris wedi cadarnhau manylion rhaglen digwyddiad Iris ar Grwydr 2018 yn Cineworld Cyffordd Llandudno mewn datganiad heddiw (29/11/2017). Mae uchafbwyntiau'r dathliad o ffilmiau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws (LHDT) ym mis Ionawr yn cynnwys dangosiad o Enillydd Gwobr Iris 2017, sef Mamma Vet Bäst (Mam Ŵyr Orau) gan Mikael Bundsen o Sweden, ac enillydd Gwobr y Ffilm Orau o Brydain Iris, We Love Moses gan Dionne Edwards. Bydd y ddau gyfarwyddwr yng Nghyffordd Llandudno i gyflwyno'u ffilmiau. Mae'r ŵyl hefyd yn cynnwys rhaglen o ffilmiau byrion ar thema cariad er mwyn dathlu Dydd Santes Dwynwen, nawddsant y cariadon, ar 25 Ionawr. Mae'r cymysgedd rhyngwladol o straeon yn cynnwys sioe gerdd o Norwy am ddyn ifanc sy'n dod allan wrth ei rieni ac yn cyfadde wrthyn nhw ei fod mewn cariad â dyn penfoel; taith ddi-sgwrs ar drên prysur yn India, cyfnod mwy tywyll yng ngwledydd Prydain gyda stori o Swydd Efrog y pumdegau, ac animeiddiad sy'n adrodd hanes dyn hoyw sy'n hoffi eirth, yn llythrennol! Bydd yr ŵyl dridiau hefyd yn cynnwys cyfle i weld ffilm nodwedd boblogaidd sydd wedi ennill sawl gwobr, sef God's Own Country, ffilm sydd wedi'i disgrifio gan lawer fel fersiwn Prydain o Brokeback Mountain, a'r gomedig ryngwladol Signature Move sy'n canolbwyntio ar fywyd cyfreithwraig Fwslemaidd yn ei thridegau sydd hefyd yn lesbiad ac sydd wedi dechrau hyfforddi fel reslwr Mecsicanaidd! Bydd y ffilmiau a'r digwyddiadau i gyd ymlaen yn Cineworld Cyffordd Llandudno ar 24, 25 a 26 Ionawr 2018. Mae'r trefnwyr wedi cadarnhau hefyd pa ffilmiau byrion fydd yn cystadlu am Wobrau Ffilmiau Byrion Addysg Iris ac Iris yn y Gymuned. Mae chwe ysgol uwchradd yn cystadlu am y Wobr Addysg, sef Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman; Ysgol Stanwell, Penarth; Ysgol Tryfan, Bangor; Ysgol Uwchradd Dwyrain Caerdydd; Ysgol Lewis Pengam, Caerdydd ac Ysgol Gyfun Emlyn, Castell Newydd Emlyn. Bydd y ffilmiau'n cael eu beirniadu gan:
  • Rhiannon Hughes – Cyfarwyddwr Wicked Cymru, Gŵyl Ffilmiau Ieuenctid
  • Graham Cantwell – Cyfarwyddwr Lily, Enillydd Gwobr Rheithgor Ieuenctid
  • Paula Johnson – Enfys Heddlu'r Gogledd
  • Alex Polanski – Cymdeithas LHDT+ Prifysgol Bangor
Mae saith ffilm fer yn cystadlu am Wobr Ffilm Fer Iris yn y Gymuned: y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Swyddfa Archwilio Cymru, RainbowBiz, Shelter Cymru, Côr Meibion Hoyw De Cymru, Pobl yn Gyntaf Abertawe, Glitter Cymru. Bydd y ffilmiau'n cael eu beirniadu gan:
  • Mike Jones – Trawsnewid Agwedd
  • Jenny Ann – Unique
  • David Holloway – Cyfarwyddwr Bearable
  • Dionne Edwards – Cyfarwyddwr We Love Moses, Enillydd y Ffilm Orau o Brydain
Meddai Andrew Pierce, Cadeirydd Gwobr Iris: "Roedden ni'n falch iawn o gael cadarnhau manylion rhaglen 2018 wrth i ni wneud y trefniadau terfynol i fynd yn ôl i'r gogledd. Mae'r rhaglen dridiau yn cynnwys dangosiadau ffilm, sesiynau addysg i ysgolion a gwobrwyo ffilmiau byrion Addysg Iris ac Iris yn y Gymuned am yr eildro." "Mae'n bwysig bod Iris yn ymwneud â chynulleidfaoedd ledled Prydain, ac mae'r ymrwymiad yma i'r gogledd yn ddechrau ar gynllun uchelgeisiol i rannu straeon lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws gyda chymunedau ledled gwledydd Prydain. Rydw i'n falch iawn y bydd Iris ar Grwydr yn mynd i Newcastle, Manceinion a Brighton yn ystod 2018." Mae rhaglen lawn Iris ar Grwydr: Cyffordd Llandudno a gwybodaeth am docynnau ar gael yma: Mae'r holl ddangosiadau'n agored i'r cyhoedd.