Iris Prize celebrates National Lottery award

· 10 community groups from across Wales will be involved in creating new short films
· Project also a reminder of campaigning tradition within the LGBT+ community
· 20th anniversary of the repeal of one of the most controversial pieces of legislation to impact on the lives of LGBTI+ people in the UK

Iris Prize celebrates national lottery award: Iris Prize have launched a Wales-wide, three-year project working with community groups to discuss issues faced by LGBT+ people. The Iris Prize successfully applied for £195,330 from The National Lottery Community Fund. Working with the LGBT+ community and their allies, the team are looking for community groups who will produce a film. The film will address issues faced by the LGBT+ community. Also, thanks to the support of National Lottery players during these challenging times. Furthermore, all of the completed films will be available to watch online. The Iris Prize intend to build on their previous Iris in the Community project. By creating more opportunities for community members to make films that relay a campaign for change. Therefore, Team Iris will be working with 10 community groups to discuss issues faced by the LGBT+ community and produce a film in response. Beneficiaries will have opportunities to take part in acting workshops, and gain skills in filmmaking and scriptwriting. The groups involved do not need to work within the LGBT+ community, but will be diverse in their membership. For example, welcoming people with learning disabilities.
Berwyn Rowlands, Festival Director, commented on winning the national lottery award:
“Without this funding from The National Lottery Community Fund we would not be able to run this project. We have been inundated by community groups across Wales asking if we could work with them. And today we can confirm, with a very BIG YES!” “2020 marks the 20th anniversary of the repeal of one of the most controversial pieces of legislation to impact on the lives of LGBTI+ people in the UK: Section 28 of the Local Government Act 1988. Undoubtadely, this is a fabulous opportunity for our community groups to take stock and reflect on where we are today as LGBT+ people. The fact that we will have 10 films produced at the end of this project is an added bonus. Film continues to be a very democratic way for people to share their ideas and to reach new audiences. Our community groups will I’m sure benefit from this amazing experience.” Community groups who are interested in discovering more should start with a visit to www.irisprize.org/community where they can complete a form to express an interest.
Derek Preston-Hughes, Funding Manager at The National Lottery Community Fund said:
“We are delighted to be able to support The Iris Prize with this project. They have already played an incredible role in addressing issues faced by the LGBT+ community over the years. And it’s great that they can now build on this, thanks to National Lottery players. Projects such as this are making a huge difference to people’s lives and to communities across Wales.” National Lottery players raise £30 million each week for good causes throughout the UK. To find out more about applying for a grant from The National Lottery Community Fund to help your community adapt, recover and thrive, visit www.tnlcommunityfund.org.uk/wales.  

Iris yn dathlu gwobr y Loteri Genedlaethol i gefnogi prosiect tair blynedd uchelgeisiol

  • 10 grŵp cymunedol o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan i greu ffilmiau byrion newydd
  • Mae'r prosiect hefyd yn ein hatgoffa o draddodiad ymgyrchu yn y gymuned LHDT+
  • 20 mlynedd ers diddymu un o'r darnau mwyaf dadleuol o ddeddfwriaeth i effeithio ar fywydau pobl LHDT+ yn y DU
  Mae trefnwyr Gwobr Iris wedi lansio prosiect tair blynedd ledled Cymru sy'n gweithio gyda grwpiau cymunedol o bob cwr o'r wlad i drafod materion sy'n wynebu pobl LHDT+. Gwnaeth Gwobr Iris gais llwyddiannus am £195,330 i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Gan weithio gyda'r gymuned LHDT+ a'u cynghreiriaid, mae'r tîm yn chwilio am grwpiau cymunedol a fydd, diolch i gefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn ystod yr amseroedd heriol hyn, yn cynhyrchu ffilm sy'n mynd i'r afael â materion sy'n wynebu'r gymuned LHDT+. Bydd pob un o'r ffilmiau gorffenedig ar gael i'w gwylio ar-lein. Mae Gwobr Iris yn bwriadu adeiladu ar eu prosiect Iris yn y Gymuned blaenorol, gan greu mwy o gyfleoedd i aelodau'r gymuned wneud ffilmiau sy'n hyrwyddo ymgyrch dros newid. Bydd Tîm Iris yn gweithio gyda 10 grŵp cymunedol i drafod materion sy'n wynebu'r gymuned LHDT+ a chynhyrchu ffilm mewn ymateb. Bydd buddiolwyr yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithdai actio, ac ennill sgiliau mewn gwneud ffilmiau ac ysgrifennu sgriptiau. Nid oes angen i'r grwpiau dan sylw weithio yn y gymuned LHDT+, ond byddant yn amrywiol yn eu haelodaeth, er enghraifft croesawu pobl ag anableddau dysgu. Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr yr Ŵyl: “Heb yr arian hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ni fyddem yn gallu cynnal y prosiect hwn. Rydyn ni wedi cael ein boddi gan grwpiau cymunedol ledled Cymru yn gofyn a allen ni weithio gyda nhw, a heddiw gallwn ni gadarnhau, gyda GALLWN MAWR iawn! “Mae 2020 yn nodi 20 mlynedd ers diddymu un o’r darnau mwyaf dadleuol o ddeddfwriaeth i effeithio ar fywydau pobl LHDTI+ yn y DU: Adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988. “Mae hwn yn gyfle gwych i’n grwpiau cymunedol ystyried a myfyrio ar ble rydyn ni heddiw fel pobl LHDT+. Mae'r ffaith y bydd gennym 10 ffilm wedi'u cynhyrchu ar ddiwedd y prosiect hwn yn fonws ychwanegol. Mae ffilm yn parhau i fod yn ffordd ddemocrataidd iawn i bobl rannu eu syniadau a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Rwy'n sicr y bydd ein grwpiau cymunedol yn elwa o'r profiad anhygoel hwn.” Dylai grwpiau cymunedol sydd â diddordeb mewn darganfod mwy ddechrau drwy ymweld â www.irisprize.org/community lle gallant lenwi ffurflen i fynegi diddordeb. Dywedodd Derek Preston-Hughes, Rheolwr Cyllid, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Rydym yn falch iawn o allu cefnogi Gwobr Iris gyda’r prosiect hwn. Maent eisoes wedi chwarae rhan anhygoel wrth fynd i’r afael â materion a wynebodd y gymuned LHDT+ dros y blynyddoedd, ac mae’n wych eu bod bellach yn gallu adeiladu ar hyn, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae prosiectau fel hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl ac i gymunedau ledled Cymru. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn bob wythnos at achosion da ledled y DU. I ddarganfod mwy am wneud cais am grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i helpu'ch cymuned i addasu, adfer a ffynnu, ewch i www.tnlcommunityfund.org.uk/wales.