Iris 2020 Will Go Online – And Be Free!
• 14th edition of the Iris Prize LGBT+ Film Festival will go online
• The full programme will be available free for the week of the festival
• Fundraising campaign launched to support the Cardiff-based event
Organisers of the Iris Prize LGBT+ Film Festival have announced that the 14
th edition of the Cardiff based festival will go online this October, and will be available for free. They also confirmed that the £30,000 Iris Prize, supported by The Michael Bishop Foundation, will be presented to a filmmaker to produce another short film on Saturday 10
th October.
The festival will open on Tuesday 6th October and close on Sunday 11th October, with all screenings, talks and events available online for free. There will also be a pay-per-view catch-up service which will run until the end of October. To support this, the organisers have launched their
first public fundraising campaign. A short promotional film has been produced to launch the fundraising campaign and confirm that Iris 2020 will be online.
Watch the Video
Andrew Pierce, Festival Chair, commented:
“The decision to take Iris online was, to some extent, made for us by the situation with Covid-19. Looking at what we know now and what is still unclear about the future, we felt that we were best able to serve our audience and filmmakers by taking Iris online.
“We will be revealing our full programme in August, and from what I’ve been told we are going to have another year of diverse LGBT+ stories to share from all over the world. For those who are regular visitors to the festival in Cardiff they know there is much more to Iris than screening films. Our question and answer sessions are popular spaces for our audience to share ideas - in basic terms, safe spaces to talk and listen. We will continue to offer this level of interaction for our audience online and introduce some exciting new innovations.
“Many people, including myself, will be disappointed that the annual trip to Cardiff will not be happening this year. Taking Iris online is very exciting and gives us the chance to reach a much bigger audience, and if we are successful, many I’m sure will be making the journey to the festival in Cardiff next year”
Berwyn Rowlands, Festival Director, commented:
“We are very excited about taking Iris 2020 online. It offers us the chance to continue sharing LGBT+ stories with our loyal audience, but it also allows us to reach a new audience. By offering the festival for free, we are addressing issues of social inclusion. The cost involved in attending a festival is a barrier for many in our society, especially younger audiences. 2020 promises to be a turning point for Iris as we recognise and embrace the much-used phrase ‘every problem is a solution waiting to happen’.
“We will also be broadcasting live during the festival. The daily broadcast will offer us the chance to promote Cardiff as a destination, as well as signpost people to the festival next year, when we hope to return to a more familiar format.
“I honestly believe that after the experience of 2020 there will be no going back. Everything that we as a festival are introducing online this year furthers our aims and objectives. In many ways taking Iris online has the potential for us to share LGBT+ stories with an even bigger audience. Funding permitting, I anticipate Iris online will become a key part of what the festival must offer moving forward.
“Changes to our working practices introduced because of Covid-19 have already had a beneficial impact on many areas of our work. For example, the pre-selection jury, which works in parallel with our partner festivals in 20 countries, is now operating around the globe. Historically, the pre-selection process would have been centred in Cardiff. This change in the way we work has improved our diversity and I’m excited to see the results of this once the programme is revealed.”
Please support Iris online
The official fundraising campaign has also allowed the marketing team to reveal one of the new characters from designer Ana Jaks. “Morgan” is seen holding a clapperboard and asking the public to support the festival’s fundraising campaign. 2020 will be Ana’s third year supporting the festival’s marketing activity with her colourful designs. The full ensemble of new characters will be unveiled later in the year.
The submission process for 2020 is still open and filmmakers have until 22 June to submit their work.
The main festival sponsors, funders and partners are: The Michael Bishop Foundation, Welsh Government, the BFI awarding funds from the National Lottery, Film4, Ffilm Cymru Wales, Pinewood Studios Group, Cardiff University, BBC Cymru Wales, Bad Wolf, Gorilla Group, Co-op Respect, University of South Wales, Ministry of Sound, Cineworld and Chapter.
The festival also works in partnership with BAFTA Cymru, Pride Cymru and Stonewall Cymru.
Iris 2020 Ar Lein Ac Am Ddim!
- Bydd 14eg rhifyn Gŵyl Ffilm LHDT+ Gwobr Iris yn mynd ar-lein
- Bydd y rhaglen lawn ar gael am ddim ar gyfer wythnos yr ŵyl
- Lansio ymgyrch codi arian i gefnogi'r digwyddiad yng Nghaerdydd
Mae trefnwyr Gŵyl Ffilm LHDT+ Gwobr Iris wedi cyhoeddi y bydd 14
eg rhifyn yr ŵyl yng Nghaerdydd yn mynd ar-lein ym mis Hydref, ac y bydd ar gael yn rhad ac am ddim. Fe wnaethant hefyd gadarnhau y bydd Gwobr Iris gwerth £30,000, gyda chefnogaeth Sefydliad Michael Bishop, yn cael ei chyflwyno i wneuthurwr ffilm i gynhyrchu ffilm fer arall, ddydd Sadwrn 10 Hydref.
Bydd yr ŵyl yn agor ddydd Mawrth 6 Hydref ac yn cau ddydd Sul 11 Hydref, gyda'r holl ddangosiadau, sgyrsiau a digwyddiadau ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim. Bydd gwasanaeth dal i fyny talu-i-wylio hefyd a fydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Hydref. Er mwyn cefnogi hyn, mae'r trefnwyr wedi lansio eu hymgyrch codi arian cyhoeddus gyntaf. Cynhyrchwyd ffilm hyrwyddo fer i lansio'r ymgyrch codi arian a chadarnhau y bydd Iris 2020 ar-lein. Edrychwch ar y ffilm yma:
https://youtu.be/4CvXR-_aWyQ
Dywedodd Andrew Pierce, Cadeirydd yr Ŵyl:
“Gwnaethpwyd y penderfyniad i fynd ag Iris ar-lein, i raddau, gan y sefyllfa gyda Covid-19. Wrth edrych ar yr hyn rydyn ni'n ei wybod nawr, a'r hyn sy'n dal yn aneglur am y dyfodol, roedden ni'n teimlo teimlo taw'r peth gorau i’n cynulleidfa a'n gwneuthurwyr ffilm oedd mynd ag Iris ar-lein.
“Byddwn yn datgelu ein rhaglen lawn ym mis Awst, ac o’r hyn a ddywedwyd wrthyf, byddwn yn cael blwyddyn arall o straeon LHDT+ amrywiol i’w rhannu o bob cwr o’r byd. I'r rhai sy'n ymweld â'r ŵyl yng Nghaerdydd yn rheolaidd, maen nhw'n gwybod bod llawer mwy i Iris na dangos ffilmiau. Mae ein sesiynau holi ac ateb yn fannau poblogaidd i'n cynulleidfa rannu syniadau - mewn termau sylfaenol, lleoedd diogel i siarad a gwrando. Byddwn yn parhau i gynnig y lefel hon o ryngweithio i'n cynulleidfa ar-lein ac yn cyflwyno rhai datblygiadau arloesol newydd.
“Bydd llawer o bobl, gan gynnwys fi fy hun, yn siomedig na fydd y daith flynyddol i Gaerdydd yn digwydd eleni. Mae mynd ag Iris ar-lein yn gyffrous iawn ac yn rhoi cyfle i ni gyrraedd cynulleidfa lawer mwy, ac os ydym yn llwyddiannus, bydd llawer rwy'n siŵr yn teithio i'r ŵyl yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf.”
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr yr Ŵyl:
“Rydyn ni'n gyffrous iawn am fynd ag Iris 2020 ar-lein. Mae'n cynnig cyfle i ni barhau i rannu straeon LHDT+ gyda'n cynulleidfa ffyddlon, ond mae hefyd yn caniatáu i ni gyrraedd cynulleidfa newydd. Trwy gynnig yr ŵyl am ddim, rydym yn mynd i’r afael â materion cynhwysiant cymdeithasol. Mae'r gost sy'n gysylltiedig â mynychu gŵyl yn rhwystr i lawer yn ein cymdeithas, yn enwedig cynulleidfaoedd iau. Mae 2020 yn addo bod yn drobwynt i Iris wrth i ni gydnabod a chofleidio’r ymadrodd a ddefnyddir yn helaeth ‘mae gan bob problem ateb yn y pendraw’.
“Byddwn hefyd yn darlledu’n fyw yn ystod yr ŵyl. Bydd y darllediad dyddiol yn cynnig cyfle i ni hyrwyddo Caerdydd fel pen taith, yn ogystal â chyfeirio pobl i'r ŵyl y flwyddyn nesaf, pan fyddwn yn gobeithio dychwelyd i fformat mwy cyfarwydd.
“Credaf yn onest na fydd unrhyw fynd yn ôl ar ôl profiad 2020. Mae popeth yr ydym ni fel gŵyl yn ei gyflwyno ar-lein eleni yn hybu ein nodau a'n hamcanion. Mewn sawl ffordd, mae mynd ag Iris ar-lein â’r potensial i ni rannu straeon LHDT+ gyda chynulleidfa hyd yn oed yn fwy. Os bydd cyllid yn caniatáu, rwy'n rhagweld y bydd Iris ar-lein yn dod yn rhan allweddol o'r hyn y mae'n rhaid i'r ŵyl ei chynnig wrth symud ymlaen.
“Mae newidiadau i’n harferion gwaith a gyflwynwyd oherwydd Covid-19 eisoes wedi cael effaith fuddiol ar lawer o feysydd ein gwaith. Er enghraifft, mae'r rheithgor cyn-ddethol, sy'n gweithio ochr yn ochr â'n gwyliau partner mewn 20 gwlad, bellach yn gweithredu ledled y byd. Yn hanesyddol, byddai'r broses cyn-ddethol wedi'i chanoli yng Nghaerdydd. Mae'r newid hwn yn y ffordd rydym yn gweithio wedi gwella ein hamrywiaeth ac rwy'n gyffrous i weld canlyniadau hyn unwaith y bydd y rhaglen wedi'i datgelu."
Cefnogwch Iris ar-lein, os gwelwch yn dda
Mae'r ymgyrch codi arian swyddogol hefyd wedi caniatáu i'r tîm marchnata ddatgelu un o gymeriadau newydd y dylunydd Ana Jaks. Gwelir “Morgan” yn dal clepiwr ac yn gofyn i’r cyhoedd gefnogi ymgyrch codi arian yr ŵyl. 2020 fydd trydedd flwyddyn Ana yn cefnogi gweithgaredd marchnata’r ŵyl gyda’i dyluniadau lliwgar. Bydd yr ensemble llawn o gymeriadau newydd yn cael ei ddadorchuddio yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae'r broses gyflwyno ar gyfer 2020 yn dal ar agor ac mae gan wneuthurwyr ffilm tan 22 Mehefin i gyflwyno eu gwaith.
Prif noddwyr, cyllidwyr, a phartneriaid yr ŵyl yw: Sefydliad Michael Bishop, Llywodraeth Cymru, BFI yn dyfarnu arian o’r Loteri Genedlaethol, Film4, Ffilm Cymru Wales, Grŵp Stiwdios Pinewood, Prifysgol Caerdydd, BBC Cymru Wales, Bad Wolf, Grŵp Gorilla, Co-op Respect, Prifysgol De Cymru, Ministry of Sound, Cineworld a Chapter.
Mae'r ŵyl hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â BAFTA Cymru, Pride Cymru a Stonewall Cymru.