IRIS PRIZE ANNOUNCES 2021 JURY MEMBERS!

• SWEDEN’S AWARD-WINNING DIRECTOR DAVID FÄRDMAR AND DIVA MAGAZINE’S ROXY BOURDILLON JOIN IRIS PRIZE JURY TO DECIDE £30,000 INTERNATIONAL WINNER

• VIRGIN RADIO PRIDE PRESENTER EMMA GOSWELL CELEBRATES BEST BRITISH ALONGSIDE 2019 WINNER ALFIE DALE

• IRIS PRIZE IS BACK IN PERSON, IN CARDIFF, 5 – 10 OCTOBER 2021

Iris Prize is honoured to welcome a group of diversely talented individuals who have excelled in their chosen fields as jury members, judging the films in Best British and the international Iris Prize categories. The winners will be announced on Saturday 9 October 2021.

Berwyn Rowlands, Festival Director, commented:

“You can tell a lot about a festival from looking at the jury, and this year is no exception. The 2021 jury includes filmmakers, some are old friends, others are new friends to Iris. The jury also includes actors, journalists and a cross section of the public who share Iris’ interest in LGBT+ stories. They have an important job to do - winning a prize at Iris can be a huge help for a filmmaker, do I need to mention our inaugural winner Dee Rees who went on to be Oscar nominated. However, I also know that each year our jury as well as our audience also get to see the best of the best as we share some amazing LGBT+ stories.”

2021 IRIS PRIZE JURY

An eight-strong panel of jury members will be watching 35 short films to choose the £30,000 prize winner. This year’s chair Rasheed Bailey is joined by acclaimed Swedish filmmaker and former Iris Prize nominee David Färdmar. Along with last year’s Iris Prize winner from The Netherlands, Victoria Warmadamer (Short Calf Muscle), Best British winner 2020 Michael J Ferns (Better) and audience award winner Carla Fraser (Wings). The other jury members are Lewis Bayley, Industries Relationship Manager for Rose Bruford College (previously with Bournemouth Film School), Diva Magazine’s Roxy Bourdillon and Queer East Film Festival programmer Yi Wang.

2021 IRIS PRIZE BEST BRITISH JURY

With the Best British festival programme available online for free on All 4, UK-wide audiences will be able to view all the short films until 31 October. Film4 continues its support of the Best British Award for a second year and Tim Highsted who is Film4’s Senior Editor of Acquired Feature Films, will chair the Best British Jury.  Joining Team will be Alfie Dale - Best British winner 2019, Emma Goswell - broadcaster and producer, Virgin Radio Pride’s The Weekend Outing. Brighton-based filmmaker Jayne Rowlands. Jamie Weston - filmmaker/writer of Iris Audience Award winner, Wings; and Nicky Wild - Seasonal Strategy Manager/ Planning Team, Coop Respect.

IRIS PRIZE BEST FEATURE AND PERFORMANCE AWARDS

In addition, there is a trio of awards relating to the feature films in the festival, honouring best male and female performances and best feature, and selecting the Best Feature. There is also a special youth jury prize for the best short.                                                                                                                     
  • Iris Prize Best Feature Award sponsored by Bad Wolf.
  • Iris Prize Best Performance in a Male Role in a feature film sponsored by Attitude Magazine.
  • Iris Prize Best Performance in a Female Role in a feature film sponsored by DIVA Magazine.
  • Iris Prize Youth Jury Award Sponsored by Cardiff University for Best Short chosen by a jury of young people.

Further information about Iris Prize juries including biographies is available here: juries 2021

Iris Prize is committed to becoming a world leader in sharing LGBT+ films to as wide an audience as possible, by encouraging diversity and understanding, and supporting future filmmaking.

GWOBR IRIS YN CYHOEDDI AELODAU'R RHEITHGOR 2021!

  • Y CYFARWYDDWR AROBRYN O SWEDEN, DAVID FÄRDMAR, A ROXY BOURDILLON O GYLCHGRAWN DIVA YN YMUNO Â RHEITHGOR GWOBR I BENDERFYNU ENILLYDD Y WOBR RYNGWLADOL GWERTH £30,000
  • CYFLWYNYDD VIRGIN RADIO PRIDE, EMMA GOSWELL, YN DATHLU’R GORAU YM MHRYDAIN OCHR YN OCHR AG ALFIE DALE ENILLYDD GORAU YM MHRYDAIN 2019
  • MAE GWOBR IRIS YN ÔL WYNEB-YN-WYNEB, YNG NGHAERDYDD, 5 - 10 HYDREF 2021

Mae'n anrhydedd i Wobr Iris groesawu grŵp o unigolion amrywiol, talentog sydd wedi rhagori yn eu meysydd dewisol fel aelodau rheithgor, gan feirniadu'r ffilmiau yng nghategorïau Gwobr Gorau Ym Mhrydain a Gwobr Ryngwladol Iris. Cyhoeddir yr enillwyr ddydd Sadwrn 9 Hydref 2021.

Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr yr Ŵyl:

“Gallwch chi ddweud llawer am ŵyl o edrych ar y rheithgor, ac nid yw eleni yn eithriad. Mae rheithgor 2021 yn cynnwys gwneuthurwyr ffilm, rhai sy’n hen ffrindiau, eraill yn ffrindiau newydd i Iris. Mae’r rheithgor hefyd yn cynnwys actorion, newyddiadurwyr, a chroestoriad o’r cyhoedd sy’n rhannu diddordeb Iris mewn straeon LHDT+. Mae ganddyn nhw waith pwysig i'w wneud - gall ennill gwobr yng ngŵyl Iris fod yn help enfawr i wneuthurwr ffilm, fel ein henillydd cyntaf Dee Rees a aeth ymlaen i gael ei henwebu ar gyfer Oscar. Fodd bynnag, gwn hefyd fod ein rheithgor, yn ogystal â'n cynulleidfa, hefyd yn cael gweld y gorau o'r gorau wrth i ni rannu straeon LHDT+ anhygoel."

Rheithgor Gwobr Iris 2021

Bydd panel o wyth yn gwylio 35 o ffilmiau byrion i ddewis enillydd y wobr gwerth £30,000. Yn ymuno â chadeirydd eleni, Rasheed Bailey, mae’r gwneuthurwr ffilmiau o fri o Sweden a chyn-enwebai Gwobr Iris David Färdmar, ynghyd ag enillydd Gwobr Iris y llynedd, Victoria Warmadamer (Short Calf Muscle) o’r Iseldiroedd, enillydd gwobr Gorau Ym Mhrydain 2020 Michael J Ferns (Better) ac enillydd gwobr y gynulleidfa, Carla Fraser (Wings). Aelodau eraill y rheithgor yw Lewis Bayley, Rheolwr Perthynas Diwydiannau Coleg Rose Bruford (gynt o Ysgol Ffilm Bournemouth), Roxy Bourdillon o gylchgrawn Diva; a rhaglennydd Queer East Ffilm Festival, Yi Wang.

Rheithgor Gwobr Iris Film Brydeinig 2021

Gyda rhaglen yr ŵyl Brydeinig Orau ar gael am ddim ar All 4, bydd cynulleidfaoedd ledled y DU yn gallu gweld yr holl ffilmiau byr tan 31 Hydref. Mae Film4 yn parhau â’i gefnogaeth i’r Wobr Gorau Ym Mhrydain am yr ail flwyddyn a bydd Tim Highsted, Uwch Olygydd Ffilmiau Nodwedd Caffaeledig Film4, yn cadeirio’r Rheithgor Gorau Ym Mhrydain. Yn ymuno â Tim bydd Alfie Dale, enillydd gwobr Gorau Ym Mhrydain 2019. Emma Goswell, darlledwraig a chynhyrchydd The Weekend Outing ar Virgin Radio Pride; y wneuthurwraig ffilmiau o Abertawe sy’n gweithio yn Brighton, Jayne Rowlands. Jamie Weston, gwneuthurwr ffilmiau/awdur enillydd Gwobr Cynulleidfa Iris, Wings; a Nicky Wild, Rheolwr Strategaeth/Tîm Cynllunio Tymhorol, Co-op Respect.

GWOBR Y FFILM NODWEDD ORAU A GWOBRAU PERFFORMIADAU GORAU

Yn ogystal, mae triawd o wobrau yn ymwneud â'r ffilmiau nodwedd yn yr ŵyl, gan anrhydeddu perfformiadau gwrywaidd a benywaidd gorau a'r ffilm nodwedd orau, a dewis y Ffilm Nodwedd Orau. Mae yna hefyd wobr rheithgor ieuenctid arbennig am y ffilm fer orau.
  • Gwobr Iris am y Ffilm Nodwedd Orau a noddir gan Bad Wolf.
  • Gwobr Iris am y Perfformiad Gorau mewn Rôl Wrywaidd mewn ffilm nodwedd a noddir gan Gylchgrawn Attitude.
  • Gwobr Iris am y Perfformiad Gorau mewn Rôl Fenywaidd mewn ffilm nodwedd a noddir gan Gylchgrawn DIVA.
  • Gwobr Iris Gwobr Rheithgor Ieuenctid a Noddir gan Brifysgol Caerdydd am y Ffilm Fer Orau a ddewiswyd gan reithgor o bobl ifanc.

Gwybodaeth bellach am reithgorau Gwobr Iris gan gynnwys bywgraffiadau: Juries 2021

Mae Gwobr Iris wedi ymrwymo i ddod yn arweinydd byd-eang wrth rannu ffilmiau LHDT+ i gynulleidfa mor eang â phosibl trwy annog amrywiaeth a dealltwriaeth, a chefnogi gwneud ffilmiau yn y dyfodol.