Pink Portraits 2024 to celebrate the diversity of staff working for Transport for Wales

• Welsh photographer Sarah Scorey chosen to take the portraits
• 12 portraits will be displayed at Cardiff Central Station, and on platform screens across Wales
• Iris Prize, Transport for Wales, and Ffotogallery celebrate Pride Month together
• “My narrative as a gay woman speaks to just one of the limitless ways to be queer or trans and I encourage others to seek out and tell their own stories.” Abbie Vimpany, Transport for Wales
Pink Portraits _2024_Unveiled
The organisers of the Cardiff-based international Iris Prize LGBTQ+ Film Festival are pleased to announce that the Pink Portraits 2024 will be unveiled this week, celebrating the diversity of LGBTQ+ professionals working for Transport for Wales. South Wales-based photographer, Sarah Scorey, was chosen earlier this year to take the photographs. Sarah holds a first-class BA Hons in Photography, specialising in fashion and editorial photography, from the University of West of England. There will be an accompanying ‘the making of’ video shot alongside the capturing of the portraits, and the finished film will be shown at Pride Cymru, in Cardiff.
The 12 Pink Portraits for 2024, produced by Iris Prize, in partnership with Ffotogallery and Transport for Wales, will be displayed at Cardiff Central Station and on platform screens across the network in Wales.
Neil James, Head of Brand and Marketing at Transport for Wales, said: “We are delighted to be partnering with Pink Portraits and Sarah Scorey to capture images of our LGBTQ+ colleagues. TfW is proud of our work to build a diverse and inclusive culture where colleagues feel comfortable to be themselves and we look forward to seeing the images across Wales.”
The 12 Transport for Wales staff featured in the Pink Portraits 2024 collection are:
  • Abbie Vimpany, Customer First Ambassador, She/Her
  • Owi Davies, Customer Relations Advisor, They/Them
  • Nathaniel Carr, Sponsorship Graduate, He/Him
  • Gavin Hawkins, Bus Interchange Operations Manager, He/Him
  • Mark Jacobs, Senior Planning and Development Manager (TrawsCymru), He/Him
  • Steve George, Facilities Team, He/Him (prefers Steve)
  • Lukas Siko, Standards Integration Manager, He/Him
  • Matthew Rodgers, Conductor, He/Him
  • Marcus Copsey, Conductor, He/Him
  • Natalie Hill, Learning and Development Advisor, She/Her
  • Reece Fleet, Customer Service Advisor, They/Them
  • Ceri Goode, Customer Service Ambassador, He/Him
Abbie Vimpany, Customer First Ambassador, said: “My TfW job involves delivering training and working with frontline station colleagues around engagement. My TfW gay job is leading our LGBTQ+ Employee Resource Group; this is what brought me to this meeting with Sarah and the Iris Prize.

“My personal experience of having these photos taken has made me feel proud and fortunate that I can be visible and turn up to work as my whole self. While my privileges as a cis, white woman might allow me to be more visible than others can be right now, my hope is that our collective visibility provokes conversation and raises awareness for those who face more specific, intersectional challenges. My narrative as a gay woman speaks to just one of the limitless ways to be queer or trans and I encourage others to seek out and tell their own stories.

“Opportunities like this partnership with the Iris Prize have energised me to work harder and be louder with my support of the LGBTQ+ community. The partnership has allowed me to stand a bit taller and lean a little further into my LGBTQ+ pride. My time in school education was under Section 28 and there were limited LGBTQ+ role models to look up to and learn from. This harboured a lot of internalised homophobia in me. I often didn’t feel able to speak about my personal life until I felt really safe with others. I definitely feel like I’m shedding more and more shame by listening to others’ experiences, further educating myself on LGBTQ+ history and putting myself out there with opportunities like this.”

Sian Addicott from Ffotogallery said: "Ffotogallery is thrilled to be collaborating with Iris Prize again for this year's Pink Portraits commission. It offers a great opportunity for an emerging photographer to develop skills and showcase their talents. The Pink Portraits play an important role in documenting Wales's LGBTQ+ community and will ensure their visibility in photographic archives of Welsh culture for years to come."

Berwyn Rowlands, Festival Director said: "We are delighted to be working with Transport for Wales on the Pink Portraits this year, as it will give greater visibility to our LGBTQ+ colleagues in the community.  We are excited to see the portraits in situ and to be able to share with our visitors when they arrive for the festival in October. “It is important that we show that LGBTQ+ people work in all professions in Wales, and this project with TfW has allowed us and them to showcase this.  Each portrait has a story and we are grateful to Abbie for sharing hers with us.”

See the Portraits here


Portreadau Pinc 2024 i ddathlu amrywiaeth y staff sy'n gweithio i Trafnidiaeth Cymru
  • Dewiswyd y ffotograffydd o dde Cymru, Sarah Scorey, i dynnu’r portreadau
  • Bydd 12 portread yn cael eu harddangos yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd, ac ar sgriniau llwyfan ledled Cymru
  • Gwobr Iris, Trafnidiaeth Cymru, a Ffotogallery yn dathlu Mis Pride gyda'i gilydd
  • "Mae fy naratif fel menyw hoyw yn siarad ag un o'r ffyrdd diderfyn o fod yn queer neu'n draws, ac rwy'n annog eraill i chwilio ac adrodd eu straeon eu hunain." Abbie Vimpany, Trafnidiaeth Cymru
Mae'n bleser gan drefnwyr Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris yng Nghaerdydd gyhoeddi y bydd Portreadau Pinc 2024 yn cael eu dadorchuddio'r wythnos hon, gan ddathlu amrywiaeth gweithwyr proffesiynol LHDTQ+ sy'n gweithio i Trafnidiaeth Cymru. Cafodd y ffotograffydd o dde Cymru, Sarah Scorey, ei dewis yn gynharach eleni i dynnu'r lluniau. Mae gan Sarah radd BA Anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Ffotograffiaeth, gan arbenigo mewn ffotograffiaeth ffasiwn a golygyddol, o Brifysgol Gorllewin Lloegr. Ffilmiwyd fideo yn olrhain y broses o dynnu’r lluniau yn ochr yn ochr â’r ffotograffiaeth, a bydd y ffilm yn cael ei dangos yn Pride Cymru, yng Nghaerdydd.
Bydd y 12 Portread Pinc ar gyfer 2024, a gynhyrchwyd gan Wobr Iris, mewn partneriaeth â Ffotogallery a Trafnidiaeth Cymru, yn cael eu harddangos yng Ngorsaf Caerdydd Canolog ac ar sgriniau llwyfan ar draws y rhwydwaith yng Nghymru.
Dywedodd Neil James, Pennaeth Brand a Marchnata Trafnidiaeth Cymru: "Rydym yn falch iawn o fod yn bartner gyda’r Portreadau Pinc a Sarah Scorey i ddal delweddau o'n cydweithwyr LHDTQ+. Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o'n gwaith i adeiladu diwylliant amrywiol a chynhwysol lle mae cydweithwyr yn teimlo'n gyfforddus i fod yn nhw eu hunain, ac edrychwn ymlaen at weld y delweddau ledled Cymru."
Dyma’r 12 aelod o staff Trafnidiaeth Cymru sydd wedi'u cynnwys yng nghasgliad Portreadau Pinc 2024:
  • Abbie Vimpany, Llysgennad Cwsmer yn Gyntaf, Hi / Ei
  • Owi Davies, Cynghorydd Cysylltiadau Cwsmeriaid, Nhw / Nhw
  • Nathaniel Carr, Myfyriwr Graddedig wedi’i Noddi, Ef / Ei
  • Gavin Hawkins, Rheolwr Gweithrediadau Cyfnewid Bysiau, Ef / Ei
  • Mark Jacobs, Uwch Reolwr Cynllunio a Datblygu (TrawsCymru), Ef / Ei
  • Steve George, Tîm Cyfleusterau, Ef / Ei (mae’n well ganddo ‘Steve’)
  • Lukas Siko, Rheolwr Integreiddio Safonau, Ef / Ei
  • Matthew Rodgers, Tocynnwr, Ef / Ei
  • Marcus Copsey, Tocynnwr, Ef / Ei
  • Natalie Hill, Cynghorydd Dysgu a Datblygu, Hi / Ei
  • Reece Fleet, Ymgynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid, Nhw / Nhw
  • Ceri Goode, Llysgennad Gwasanaeth Cwsmeriaid, Ef / Ei

Dywedodd Abbie Vimpany, Llysgennad Cwsmer yn Gyntaf: "Mae fy swydd gyda Trafnidiaeth Cymru yn cynnwys darparu hyfforddiant a gweithio gyda chydweithwyr mewn gorsafoedd rheng flaen ynghylch ymgysylltu. Mae fy swydd hoyw gyda Trafnidiaeth Cymru yn cynnwys arwain ein Grŵp Adnoddau Gweithwyr LHDTQ+; dyma a ddaeth â mi i'r cyfarfod hwn gyda Sarah a Gwobr Iris.

"Mae fy mhrofiad personol o gael tynnu lluniau hyn wedi gwneud i mi deimlo'n falch ac yn ffodus fy mod i'n gallu bod yn weladwy a dod i'r gwaith fel fi fy hun. Er bod fy mreintiau fel menyw cis, wen efallai yn caniatáu i mi fod yn fwy gweladwy nag y gall eraill fod ar hyn o bryd, fy ngobaith yw bod ein gwelededd ar y cyd yn ysgogi sgwrs ac yn codi ymwybyddiaeth i'r rhai sy'n wynebu heriau mwy penodol, rhyngblethol. Mae fy naratif fel menyw hoyw yn siarad ag un o'r ffyrdd diderfyn o fod yn queer neu'n draws, ac rwy'n annog eraill i chwilio ac adrodd eu straeon eu hunain.

"Mae cyfleoedd fel y bartneriaeth hon gyda Gwobr Iris wedi fy ysgogi i weithio'n galetach a bod yn fwy blaenllaw gyda fy nghefnogaeth i'r gymuned LHDTQ+. Mae'r bartneriaeth wedi fy ngalluogi i sefyll ychydig yn dalach a phwyso ychydig ymhellach i'm balchder LHDTQ +. Roedd fy nghyfnod ym myd addysg ysgol o dan Adran 28 ac roedd modelau rôl LHDTQ+ cyfyngedig i’w hedmygu a dysgu wrthynt. Roedd hyn yn cynnal llawer o homoffobia mewnol ynof. Yn aml doeddwn i ddim yn teimlo fy mod yn gallu siarad am fy mywyd personol nes i mi deimlo'n ddiogel iawn gydag eraill. Rwy'n bendant yn teimlo fy mod i'n colli mwy a mwy o gywilydd trwy wrando ar brofiadau pobl eraill, addysgu fy hun ymhellach ar hanes LHDTQ+ a rhoi fy hun allan yna gyda chyfleoedd fel hyn."

Dywedodd Sian Addicott o Ffotogallery: "Mae Ffotogallery wrth ei bodd o fod yn cydweithio gyda Gwobr Iris unwaith eto ar gyfer comisiwn y Portreadau Pinc eleni. Mae'n cynnig cyfle gwych i ffotograffydd sy'n dod i'r amlwg ddatblygu sgiliau ac arddangos eu doniau. Mae'r Portreadau Pinc yn chwarae rhan bwysig wrth ddogfennu cymuned LHDTQ+ Cymru, a byddant yn sicrhau eu bod yn weladwy mewn archifau ffotograffig o ddiwylliant Cymru am flynyddoedd i ddod."

Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr yr Ŵyl: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar y Portreadau Pinc eleni, gan y bydd yn rhoi mwy o amlygrwydd i'n cydweithwyr LHDTQ+ yn y gymuned.  Rydym yn gyffrous i weld y portreadau yn y fan a'r lle ac i allu rhannu gyda'n hymwelwyr pan fyddant yn cyrraedd ar gyfer yr ŵyl ym mis Hydref. "Mae'n bwysig ein bod yn dangos bod pobl LHDTQ+ yn gweithio ym mhob proffesiwn yng Nghymru, ac mae'r prosiect hwn gyda Trafnidiaeth Cymru wedi ein galluogi ni a nhw i arddangos hyn.  Mae gan bob portread stori ac rydym yn ddiolchgar i Abbie am ei rhannu gyda ni."

Gweler y Portreadau yma