Cardiff to host free screening of international LGBTQIA+ short films

- CARDIFF will host a special event later this month celebrating international LGBTQIA+ storytelling as part of the British Council’s global LGBTQIA+ Five Films For Freedom campaign.

- The event will take place next Tuesday, 24 March at the University of South Wales Atrium and is delivered in partnership with the Iris Prize, Cardiff’s international LGBTQIA+ film festival.
Audiences will see three films from this year’s programme – I Hate Helen (UK), Room 206 (France) and Theo (Brazil) – followed by a panel discussion chaired by Welsh comedian and writer Leila Navabi, featuring Michael Blyth from the Five Films For Freedom team at the British Council, writer and actor Leo Drayton, and Rosie Brear, producer of I Hate Helen.
Now in its 12th year, Five Films For Freedom uses cinema to share LGBTQIA+ stories with audiences around the world. Since launching in 2015, the initiative has received nearly 29 million views and reached viewers in more than 200 countries, including places where LGBTQIA+ representation remains restricted or contested.
I Hate Helen, directed by Katie Lambert, captures the intensity of adolescent same-sex desire through the story of Priya, a schoolgirl struggling to understand her feelings for a classmate. The French documentary Room 206, directed by Laurie Bisceglia, follows Clair after gender-affirming surgery, tracing a journey towards self-recognition and renewal. Theo, directed by Monica Palazzo and Joana Galvão, is set during the 1986 World Cup in Brazil and follows a seven-year-old quietly challenging rigid gender expectations at school while inventing their own way of existing.
The screening will be introduced by Berwyn Rowlands, Director of the Iris Prize, and Elena Schmitz, Head of Arts at British Council Wales.
Berwyn Rowlands, Iris Prize Festival Director, said: “In a world full of challenges, the Five Films for Freedom project is a reminder of how we can find hope in different situations all over the world. "We are reminded in Wales to 'do the small things' and these beautifully crafted stories are a reminder that humanity has the power to offer hope in the most unexpected places. "Team Iris is delighted to be working in partnership with the British Council to celebrate Five Films for Freedom.”

Elena Schmitz, Head of Arts at British Council Wales, added: “Five Films For Freedom shows how powerful film can be in bringing global stories to local audiences. Events like this give people in Wales the opportunity to experience powerful international storytelling together and to hear directly from the creatives behind the work. “At a time when LGBTQIA+ voices are still marginalised in many parts of the world, sharing these films helps create space for visibility, conversation and understanding. We’re proud to work with the Iris Prize - Wales’ own international LGBTQIA+ film festival celebrating its 20th anniversary this year. Together, we’re delighted to bring these stories to audiences in Wales and connect Cardiff with a global celebration of LGBTQIA+ creativity.”
The Five Films For Freedom campaign runs online until 29 March, with all five films available to stream worldwide via the British Council’s digital platforms and on BFI Player in the UK.
The initiative continues to reach audiences in countries where same-sex relationships remain criminalised, emphasising the power of film to foster visibility, cultural dialogue and representation.

Tickets for the Cardiff event can be booked for free here: https://irismembership.eventive.org/schedule/69a84e46a04ff3f9185dae06


Find out more about Five Films for Freedom.  Watch the trailer here.


Caerdydd yn cynnal dangosiad am ddim o ffilmiau byr LHDTCRhA+

- Bydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yng NGHAERDYDD yr wythnos nesaf i ddathlu straeon LHDTCRhA+ fel rhan o fenter fyd-eang y British Council - Pum Ffilm Dros Ryddid / Five Films For Freedom. - Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn yr Artium ym Mhrifysgol De Cymru ar 24 Mawrth (ddydd Mawrth nesaf) mewn partneriaeth â Gwobr Iris, gŵyl ffilm LHDTCRhA+ ryngwladol Caerdydd.
Bydd cyfle i'r gynulleidfa weld tair ffilm o raglen Pum Ffilm Dros Ryddid eleni - I Hate Helen (y DU), Room 206 (Ffrainc) a Theo (Brasil). Yna, bydd y comedïwr a'r sgwennwr comedi o Gymru, Leila Navabi, yn cadeirio trafodaeth banel gyda Michael Blyth o dîm Pum Ffilm Dros Ryddid y British Council, yr actor ac awdur, Leo Drayton, a Rosie Brear, cynhyrchydd I Hate Helen.
Dyma 12fed blwyddyn Pum Ffilm Dros Ryddid / Five Films For Freedom - menter sy'n defnyddio sinema i rannu straeon LHDTCRhA+ gyda chynulleidfaoedd o gwmpas y byd. Ers lansio'r fenter yn 2015, mae'r ffilmiau wedi cael eu gweld bron i 29 filiwn o weithiau mewn dros 200 o wledydd, gan gynnwys rhannau o'r byd lle mae cynrychiolaeth LHDTCRhA+ yn cael ei wrthwynebu neu'i gyfyngu.
Mae I Hate Helen, a gyfarwyddwyd gan Katie Lambert, yn portreadu dyheadau un-rhyw dwys merch yn ei harddegau o'r enw Priya, merch ysgol sy'n ceisio dod i ddeall ei theimladau am un o'i chyd-ddisgyblion. Mae'r ffilm ddogfen o Ffrainc, Room 206, a gyfarwyddwyd gan Laurie Bisceglia, yn dilyn stori Clair wedi llawdriniaeth cadarnhau rhywedd, a'i siwrnai at hunan-ymwybyddiaeth ac adnewyddu. Cafodd y drydedd ffilm, Theo, ei chyfarwyddo gan Monica Palazzo a Joana Galvão. Mae'r ffilm wedi'i gosod yn ystod Cwpan y Byd ym Mrasil yn 1986. Mae'n dilyn stori plentyn saith mlwydd oed sy'n ffeindio eu ffordd dawel eu hun o herio disgwyliadau rhywedd caeth yn eu hysgol, a chreu eu ffordd eu hun o fodoli.
Bydd y dangosiad yn cael ei gyflwyno gan Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gwobr Iris ac Elena Schmitz, Pennaeth y Celfyddydau British Council Cymru.
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris: "Mewn byd yn llawn o heriau, mae prosiect Pum Ffilm Dros Ryddid yn ein hatgoffa o sut y gallwn ffeindio gobaith mewn gwahanol sefyllfaoedd o gwmpas y byd. "Yng Nghymru, rydyn ni'n cael ein hatgoffa i 'wneud y pethau bychain', ac mae straeon y ffilmiau celfydd hyn yn ein hatgoffa fod gan ddynoliaeth y pŵer i gynnig gobaith yn y llefydd mwyaf annisgwyl. Rydyn ni yn Nhîm Iris wrth ein bodd i weithio mewn partneriaeth â'r British Council i ddathlu Pum Ffilm Dros Ryddid / Five Films for Freedom."

Ychwanegodd Elena Schmitz, Pennaeth y Celfyddydau yn British Council Cymru: "Mae Pum Ffilm Dros Ryddid yn dangos mor bwerus y gall ffilm fod wrth ddod â straeon o bedwar ban byd i gynulleidfaoedd lleol. Mae digwyddiad fel hwn yn gyfle i bobl yng Nghaerdydd brofi a rhannu straeon rhyngwladol pwerus yn ogystal â chlywed gan y bobl greadigol sy'n creu'r gwaith. "Ar adeg pan fo lleisiau LHDTCRhA+ yn dal i gael eu gwthio i'r ymylon mewn sawl rhan o'r byd, mae rhannu'r ffilmiau hyn yn helpu i greu man diogel lle gall pobl gael eu gweld, sgwrsio, a dod i ddeall ei gilydd. Rydyn ni'n falch o weithio gyda Gwobr Iris i ddod â'r straeon hyn i gynulleidfaoedd yng Nghymru a chysylltu Caerdydd â dathliad byd eang o greadigrwydd LHDTCRhA+."

Mae ymgyrch Pum Ffilm Dros Ryddid / Five Films For Freedom yn rhedeg ar-lein tan 29 Mawrth. Mae'r pum ffilm ar gael i'w ffrydio'n fyd eang ar blatfformau digidol y British Council ac ar blatfform y BFI Player yn y DU.
Mae'r fenter hon yn parhau i gyrraedd cynulleidfaoedd mewn gwledydd lle mae perthnasoedd un-rhyw yn dal yn anghyfreithlon, gan bwysleisio'r pŵer sydd gan ffilm i hybu gwelededd a meithrin deialog ddiwylliannol a chynrychiolaeth.

Gallwch archebu tocynnau am ddim ar gyfer y digwyddiad yng Nghaerdydd yma: https://irismembership.eventive.org/schedule/69a84e46a04ff3f9185dae06


Mwy o wybodaeth am fenter Pum Ffilm Dros Ryddid / Five Films for Freedom. Gallwch wylio rhagflas yma.