This prestigious accolade was announced on 26 May by MovieMaker Magazine, a leading US publication focused on the art and business of independent filmmaking, read primarily by filmmakers, festival programmers, film educators and industry professionals. It has a highly-targeted readership with both print and digital distribution concentrated in North America and Europe.
MovieMaker Magazine’s annual ’50 Festivals Worth the Entry Fee’ list is widely regarded as a filmmaker trust signal, highlighting festivals that offer genuine value rather than prestige alone. Festivals are selected through data, filmmaker feedback and editorial research, prioritising audience engagement, meaningful networking, industry access, quality presentation, and fair submission odds.
Berwyn Rowlands, Iris Prize Festival Director said: "The response from filmmakers has always been flattering and kind with many, especially those who attend the festival in Cardiff, commenting that they feel looked after by Iris, like being a member of an extended family. So, I guess we had a hunch that we were getting some things right. This recognition from MovieMaker, a much-respected magazine, confirms we are a good friend to filmmakers, and we will never take them for granted."
FIND THE FULL LIST HERE:
https://www.moviemaker.com/50-film-festivals-worth-the-entry-fee-2026/
Tim Molloy (Editor-in-chief, MovieMaker Magazine) said:"Congratulations to the Iris Prize on 20 years of supporting LGBTQ+ filmmakers and giving audiences thousands of films to celebrate. Its legacy is making people feel stronger, less alone, and more open to empathy and courage. It amplifies art, yes, but also helps artists make the business connections that can expand their vision as far as possible."
Celebrate With Us – Weekend Pass Now 30% Off
To mark this brilliant news, we are also making it easier to join us in Cardiff. For a limited time, our Weekend Pass is now available at 30% off — the perfect excuse to be part of this special anniversary year. Enjoy access to all film screenings, events, and exclusive festival moments across the weekend. Explore the full benefits and book your pass here: 2026 Box OfficeGwobr Iris wedi’i chydnabod yn rhestr nodedig Cylchgrawn MovieMaker o 50 ‘gŵyl sy’n werth y ffi mynediad’
- Cydnabyddiaeth i Wobr Iris gan Gylchgrawn MovieMaker am y chweched tro, gan dynnu sylw at ei dull cyson o roi’r ffilmwyr yn gyntaf a’i enw da rhyngwladol cryf
- Mae Cylchgrawn MovieMaker yn un o gylchgronau ffilm annibynnol mwyaf poblogaidd y byd
- Mae rhestr flynyddol y 50 Uchaf yn arwydd o ba mor ddefnyddiol yw gŵyl ffilm i wneuthurwyr ffilmiau
- “Mae’r gydnabyddiaeth hon gan MovieMaker, cylchgrawn uchel ei barch, yn cadarnhau ein bod ni’n ffrind da i wneuthurwyr ffilmiau, ac ni fyddwn ni byth yn eu cymryd yn ganiataol." Berwyn Rowlands
- Mae Gwobr Iris yn dathlu 20 mlynedd o adrodd straeon byd-eang yn 2026 yng ngŵyl ffilm LHDTQ+ Caerdydd ym mis Hydref
Cyhoeddwyd yr anrhydedd fawreddog hon ar 26 Mai gan Gylchgrawn MovieMaker, cyhoeddiad blaenllaw yn yr Unol Daleithiau sy'n canolbwyntio ar gelfyddyd a busnes gwneud ffilmiau annibynnol, a ddarllenir yn bennaf gan wneuthurwyr ffilmiau, rhaglenwyr gwyliau, addysgwyr ffilm a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Mae ganddo ddarllenwyr targedig iawn gyda dosbarthiad print a digidol wedi'i ganoli yng Ngogledd America ac Ewrop.
Mae rhestr flynyddol Cylchgrawn MovieMaker, ’50 Festivals Worth the Entry Fee’, yn cael ei hystyried yn eang fel arwydd o ymddiriedaeth gwneuthurwyr ffilmiau, gan amlygu gwyliau sy’n cynnig gwerth gwirioneddol yn hytrach na bri yn unig. Dewisir gwyliau trwy ddata, adborth gan wneuthurwyr ffilmiau ac ymchwil olygyddol, gan flaenoriaethu ymgysylltiad y gynulleidfa, rhwydweithio ystyrlon, mynediad i’r diwydiant, cyflwyniad o safon, a chyfleoedd cyflwyno teg.
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris: "Mae ymateb gwneuthurwyr ffilmiau bob amser wedi bod yn ganmoladwy ac yn garedig gyda llawer, yn enwedig y rhai sy’n mynychu’r ŵyl yng Nghaerdydd, gan wneud sylwadau eu bod yn teimlo eu bod yn cael gofal gan Iris, fel bod yn aelod o deulu estynedig. Felly, mae’n debyg bod gennym ni deimlad ein bod ni’n gwneud rhai pethau’n iawn. Mae’r gydnabyddiaeth hon gan MovieMaker, cylchgrawn uchel ei barch, yn cadarnhau ein bod ni’n ffrind da i wneuthurwyr ffilmiau, ac ni fyddwn ni byth yn eu cymryd yn ganiataol."
https://www.moviemaker.com/50-film-festivals-worth-the-entry-fee-2026/
Dywedodd Tim Molloy (Prif Olygydd, Cylchgrawn MovieMaker): "Llongyfarchiadau i Wobr Iris ar 20 mlynedd o gefnogi gwneuthurwyr ffilmiau LHDTQ+ a rhoi miloedd o ffilmiau i gynulleidfaoedd eu dathlu. Ei gwaddol yw gwneud i bobl deimlo'n gryfach, yn llai unig, ac yn fwy agored i empathi a dewrder. Mae'n ymhelaethu ar gelfyddyd, ie, ond mae hefyd yn helpu artistiaid i wneud y cysylltiadau busnes a all ehangu eu gweledigaeth cyn belled â phosibl."