


Some Nights I Feel Like Walking
DIRECTOR:
Petersen Vargas
RELEASE YEAR:
2024
Trailer
Screening:
- Thu 16 Oct, 6pm @Vue Screen 2
- Sun 19 Oct, 5pm @Vue Screen 2 (Relaxed Screening)
Manilla’s underbelly – the seedy side of the city – is skillfully captured by Vargas. When a member of a group of young street hustlers dies tragically from a drug overdose his friends set out on a road trip to return his body to his rural home. This is a story of queer belonging and found families.
Winner Best Original Score, Tallinn Black Nights Film Festival 2024.
Mae ochr dywyll Manilla – ochr amheus y ddinas – yn cael ei chipio’n fedrus gan Vargas. Pan fydd aelod o grŵp o bobl ifanc sy’n gwerthu nwyddau stryd yn marw’n drasig o orddos o gyffuriau, mae ei ffrindiau’n cychwyn ar daith ffordd i ddychwelyd ei gorff i’w gartref gwledig. Mae hon yn stori am berthyn cwiar a theuluoedd newydd.
Enillydd y Sgor Gwreiddiol Orau, Gŵyl Ffilm Black Nights Tallinn 2024.
His films tackle Filipino youth through a queer and regional lens. His last short, How to Die Young in Manila (2020), competed in Busan, Singapore, Tallinn Black Nights, and The Iris Prize, and was awarded Best Short Film at Sydney and Bangkok.
His undergraduate thesis film, Lisyun qng Geografia (Geography Lessons, 2014), fully spoken in his native language Kapampangan and set in his hometown, won him Best Director at Cinemalaya. His short film Swirl (2014) was presented at the BFI Flare. He has made three features: Cinema One Originals Best Picture 2 Cool 2 Be 4gotten (2016), and the Star Cinema-produced local box-office hits An Inconvenient Love (2022), A Very Good Girl (2023), and Un/Happy for You (2024). Vargas grew up in the province of Pampanga but now lives in Quezon City with his three cats, Wong Kat Wai, Plastique Thomas Anderson, and LiLi Chou Chou.
Mae Petersen Varga yn gyn-fyfyriwr o Academi Ffilm Asia ac yn raddedig cum laude gyda chrybwylliad arbennig mewn Gwneud Ffilmiau Naratif o Sefydliad Ffilm Prifysgol y Philipinau.
Mae ei ffilmiau’n mynd i’r afael ag ieuenctid y Philipinau trwy lens cwiar a rhanbarthol. Cystadlodd ei ffilm fer ddiwethaf, How to Die Young in Manila (2020), yn Busan, Singapore, Tallinn Black Nights, a Gwobr Iris, a dyfarnwyd iddi’r Ffilm Fer Orau yn Sydney a Bangkok.
Enillodd ei ffilm traethawd hir israddedig, Lisyun qng Geografia (Geography Lessons, 2014), a siaredir yn llawn yn ei iaith frodorol Kapampangan ac a osodwyd yn ei dref enedigol, y wobr am y Cyfarwyddwr Gorau yn Cinemalaya. Cyflwynwyd ei ffilm fer Swirl (2014) yn y BFI Flare. Mae wedi gwneud tair ffilm nodwedd: Cinema One Originals Best Picture 2 Cool 2 Be 4gotten (2016), a’r ffilmiau llwyddiannus swyddfa docynnau leol a gynhyrchwyd gan Star Cinema An Inconvenient Love (2022), A Very Good Girl (2023), ac Un/Happy for You (2024). Tyfodd Vargas i fyny yn nhalaith Pampanga ond mae bellach yn byw yn Quezon City gyda’i dair cath, Wong Kat Wai, Plastique Thomas Anderson, a LiLi Chou Chou.