15 films make the shortlist for 2024 Best British

• 15 films from the UK reach the shortlist for the Iris Prize Best British Short supported by Film4 and Pinewood Studios
• 3 films from Wales make the final 15
• Each of the shortlisted films will be streamed on Channel 4 for a year after the festival
• ‘Every year we are thrilled to share with our festival audience and juries the very best of LGBTQ+ storytelling from across the UK, as Iris continues to be a celebration of global stories and Cardiff charm’ Berwyn Rowlands, Iris Prize Film Festival Director
2024 Best British - 15 Films
Organisers of the Iris Prize LGBTQ+ Film Festival are proud to announce the shortlist of 15 films competing for the 2024 Iris Prize Best British Short supported by Film4 and Pinewood Studios.  The shortlist is being announced at the annual Summer Party Event held for Iris Prize Members, in Cardiff.
Films shortlisted include the story of an earth-bound angel who is playing Cupid; tales of drag artists and activists; stories of soul-searching and having to decide between the head and the heart; and a short inspired by the true story of the legendary ‘Ladies of Llangollen.’
Each of the shortlisted films will be streamed on Channel 4 for a year after the festival. All the nominated films are eligible for consideration for BAFTA and can automatically be entered by the filmmakers. Here are the shortlisted films for the Iris Prize Best British Short, supported by Film4 and Pinewood Studios:
  • Diomysus: More Than Monogamy | Dir: Emily Morus-Jones (5 mins) WALES
An experimental film where a group of mice (voiced by members of the UK polyamorous community whose identities are masked using puppetry) discuss their experiences of polyamory. Diomysus asks the question - are we (the audience) more open to taboo ideas if unconscious bias is eliminated?
  • Divine Intervention | Dir:  Ravenna Tran (17 mins)
To get the promotion of their dreams, a mischievous earth-bound angel must get two ex-best friends to finally admit their love to each other.
  • Everything Looks Simple from a Distance | Dir:  Conor Toner (13 mins)
With tensions mounting in 1969 Northern Ireland, Noah tries to convince politicians, money men, priests, and paramilitaries that a trip to the moon may be the best route to peace.
  • Fairview Park | Dir:  Aymeric Nicolet, Ellie Hodgetts (14 mins)
A film based on the murder of Declan Flynn, seen as a major catalyst for Ireland’s LGBTQ Pride movement.
  • G Flat | Dir:  Peter Darney (18 mins) WALES
An 84-year-old stroke survivor sends for a sex worker leading to an unexpected climax.
  • I Hope He Doesn't Kill Me. | Dir:  Lyndon Henley Hanrahan, Nora Dahle Borchgrevink (14 mins)
Buzz waits outside the apartment building of his anonymous Grindr hookup, imagining all the depraved ways this night could end. Horrified yet horny, Buzz buzzes the buzzer.
  • Making Up | Dir:  Ryan Paige (15 mins)
It's the late 1980s in East End London and drag queen Ted, who is diagnosed with a hereditary illness, must reconcile with his estranged daughter, Cassandra.
  • Miss Temperance | Dir:  Jeremy McClain (13 mins)
In Glasgow's alt-queer party scene, a drag artist navigates the night of their return to the stage after being one year sober.
  • Rage Consumes Me | Dir:  Felix Waverley-Hudson (5 mins)
This is a poetic and provocative exploration of being non-binary in today’s society, of anger and despair as your personhood and identity is stripped away.
  • Rejoyce! | Dir:  David Ledger (15 mins)
After the death of her husband, an elderly vicar’s wife unearths a book of erotic fiction that she wrote in her youth.
  • Sally Leapt out of a Window Last Night | Dir:  Tracy Spottiswoode (20 mins) WALES
Ireland 1778. Sally and Eleanor flout convention and scandalise society to escape the fate their families have planned for them. They elope. Inspired by the true story of the legendary ‘Ladies of Llangollen.’
  • Sister Wives | Dir:  Louisa Connolly-Burnham (28 mins)
Two sister wives married to the same man start to develop feelings for each other.
  • Until Today | Dir:  Megan Lyons (15 mins)
After her overbearing mother arranges a loveless marriage, a young aristocrat must consider the price of familial duty when it threatens a forbidden romance with her best friend.
  • Water's Edge | Dir:  Jason Barker (15 mins)
In near future rural Somerset, Anna is trying to be a happily married woman but the arrival of a troupe of travelling players on the farm tests her beliefs to the limit.
  • Who's Kitty Amor? | Dir:  Maik Diederen (22 mins)
From her South London upbringing, formative clubbing years at Nottingham University and running nights at the legendary Stealth nightclub and her international DJ success across the globe, Kitty Amor’s remarkable rise through the ranks of the UK scene and unwavering dedication to flying the flag for Africa’s Electronic Music is told like never before in documentary short.
The winner of the Iris Prize Best British award will receive an exclusive screening of their film at Pinewood Studios complete with red carpet, and a welcome reception with drinks and canapes sponsored by Pinewood Studios Group. They will also be invited to be part of the 2025 Iris Prize Best British Jury. All films in the Best British 2024 shortlist will be broadcast and streamed on Channel 4 for one year. A licence fee will be paid to all shortlisted Best British filmmakers. After the end of the Channel 4 window the Best British Short nominated films will be offered a non-exclusive second window on OUTTv‘s global platforms.
Berwyn Rowlands_Festival Director
Berwyn Rowlands, Iris Prize Film Festival Director, said: ‘Every year we are thrilled to share with our festival audience and juries the very best of LGBTQ+ storytelling from across the UK, as Iris continues to be a celebration of global stories and Cardiff charm.

‘We are also pleased that this prize is supported by one of the most LGBTQ+-friendly broadcasters and champion of the Iris Prize, and each of the British films in competition will be available to stream on Channel 4 for 12 months following the festival.  This is a brilliant and much-valued partnership which has helped Iris to reach a new audience for LGBTQ+ stories.

‘Once again, we will be announcing the Best British shortlist at our Iris Prize Members Summer Party. These are the people without whom many aspects of the festival would not be possible.  We have amid our members, volunteers who help with the smooth running of the day-to-day aspects of film screenings, to a dedicated group of people who open their homes to visiting filmmakers and jury members year after year.  You are all part of the Iris family, and we could not present the festival as it is, without you.’

You can view all the shortlisted films with extra details about the directors and images by following this link: 2024 Best British Shortlist - Iris Prize

Best British Trailer 2024


Save £30 by buying the Full Festival Pass for £110 during the Early Bird period (27 July - 11 August 2024) (Regular Price: £140)

https://irisprize.org/festival-pass/


15 ffilm yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gorau Ym Mhrydain 2024

  • 15 ffilm o'r DU yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Y Gorau Ym Mhrydain Gwobr Iris gyda chefnogaeth Film4 a Pinewood Studios
  • 3 ffilm o Gymru ar y rhestr fer
  • Bydd pob un o'r ffilmiau ar y rhestr fer yn cael eu ffrydio ar Channel 4 am flwyddyn ar ôl yr ŵyl
  • ‘Bob blwyddyn rydym wrth ein bodd yn rhannu gyda chynulleidfa a rheithgorau’r ŵyl, y goreuon o adrodd straeon LHDTQ+ o bob rhan o'r DU, wrth i Iris barhau i fod yn ddathliad o straeon byd-eang a swyn Caerdydd.’ Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Gwobr Iris
Mae trefnwyr Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris yn falch o gyhoeddi'r rhestr fer o 15 ffilm sy'n cystadlu am Wobr Ffilm Fer Y Gorau Ym Mhrydain Gwobr Iris 2024 a gefnogir gan Film4 a Pinewood Studios.  Cyhoeddir y rhestr fer yn y Digwyddiad Parti Haf blynyddol a gynhelir ar gyfer Aelodau Gwobr Iris, yng Nghaerdydd.
Ymhlith y ffilmiau sydd ar y rhestr fer mae stori angel sy'n gaeth i'r ddaear yn chwarae Cupid; hanesion am artistiaid drag ac actifyddion; straeon am chwilio enaid a gorfod penderfynu rhwng y pen a'r galon; a ffilm fer wedi'i hysbrydoli gan stori wir 'Merched Llangollen'.
Bydd pob un o'r ffilmiau ar y rhestr fer yn cael eu ffrydio ar Channel 4 am flwyddyn ar ôl yr ŵyl. Mae'r holl ffilmiau a enwebwyd yn gymwys i'w hystyried ar gyfer BAFTA a gall y gwneuthurwyr ffilm eu cofnodi'n awtomatig. Dyma'r ffilmiau sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ffilm Fer Gorau Ym Mhrydain Gwobr Iris gyda chefnogaeth Film4 a Pinewood Studios:
  • Diomysus: More Than Monogamy | Cyf: Emily Morus-Jones (5 munud) CYMRU
Ffilm arbrofol lle mae grŵp o lygod (a leisiwyd gan aelodau cymuned amlgarwriaethol y DU y mae eu hunaniaethau'n cael eu cuddio gan ddefnyddio pypedwaith) yn trafod eu profiadau o amlgarwriaeth. Mae Diomysus yn gofyn y cwestiwn - ydyn ni (y gynulleidfa) yn fwy agored i syniadau tabŵ os caiff rhagfarn anymwybodol ei ddileu?
  • Divine Intervention | Cyf:  Ravenna Tran (17 munud)
Er mwyn cael dyrchafiad swydd delfrydol, rhaid i angel direidus sy'n gaeth i’r ddaear gael dau gyn-ffrind gorau i gyfaddef eu cariad at ei gilydd o'r diwedd.
  • Everything Looks Simple from a Distance | Cyf:  Conor Toner (13 munud)
Gyda thensiynau yn cynyddu ym 1969 yng Ngogledd Iwerddon, mae Noa yn ceisio argyhoeddi gwleidyddion, dynion ariannog, offeiriaid a pharamilwriaethwyr y gallai taith i'r lleuad fod y llwybr gorau tuag at heddwch.
  • Fairview Park | Cyf:  Aymeric Nicolet, Ellie Hodgetts (14 munud)
Ffilm sy'n seiliedig ar lofruddiaeth Declan Flynn, a ystyrir yn gatalydd pwysig i fudiad LGBTQ Pride Iwerddon.
  • G Flat | Cyf:  Peter Darney (18 munud) CYMRU
Mae goroeswr strôc 84 oed yn galw am weithiwr rhyw ac yn cyrraedd uchafbwynt annisgwyl.
  • I Hope He Doesn't Kill Me. | Cyf:  Lyndon Henley Hanrahan, Nora Dahle Borchgrevink (14 munud)
Mae Buzz yn aros y tu allan i adeilad fflatiau ei gymar Grindr dienw, gan ddychmygu'r holl ffyrdd llygredig y gallai heno ddod i ben. Yn arswydus ond yn dinboeth, mae Buzz yn bysio’r bysyr.
  • Making Up | Cyf:  Ryan Paige (15 munud)
Mae'n ddiwedd yr 1980au yn Nwyrain Llundain ac mae'n rhaid i'r frenhines drag Ted, sy'n cael diagnosis o salwch etifeddol, gysoni â'i ferch Cassandra, sydd wedi ymbellhau oddi wrtho.
  • Miss Temperance | Cyf:  Jeremy McClain (13 munud)
Yn sîn parti alt-queer Glasgow, mae artist drag yn llywio noson eu dychweliad i'r llwyfan ar ôl bod blwyddyn yn sobr.
  • Rage Consumes Me | Cyf:  Felix Waverley-Hudson (5 munud)
Mae hwn yn archwiliad barddonol a phryfoclyd o fod yn anneuaidd yng nghymdeithas heddiw, o ddicter ac anobaith wrth i'ch personolaeth a'ch hunaniaeth gael eu tynnu i ffwrdd.
  • Rejoyce! | Cyf:  David Ledger (15 munud)
Ar ôl marwolaeth ei gŵr, mae gwraig ficer oedrannus yn datgelu llyfr o ffuglen erotig a ysgrifennodd yn ei hieuenctid.
  • Sally Leapt out of a Window Last Night | Cyf:  Tracy Spottiswoode (20 munud) CYMRU
Iwerddon 1778. Mae Sally ac Eleanor wfftio confensiwn a chymdeithas i ddianc rhag y ffawd y mae eu teuluoedd wedi cynllunio ar eu cyfer. Maent yn rhedeg i ffwrdd i briodi. Wedi'i hysbrydoli gan stori wir y 'Merched Llangollen' chwedlonol.
  • Sister Wives | Cyf:  Louisa Connolly-Burnham (28 munud)
Mae dwy chwaer wraig sy'n briod â'r un dyn yn dechrau datblygu teimladau am ei gilydd.
  • Until Today | Cyf:  Megan Lyons (15 munud)
Ar ôl i'w mam ormesol drefnu priodas ddigariad, rhaid i uchelwraig ifanc ystyried pris dyletswydd teuluol pan fydd yn bygwth rhamant waharddedig gyda'i ffrind gorau.
  • Water's Edge | Cyf:  Jason Barker (15 munud)
Yng Ngwlad yr Haf wledig bron yn y dyfodol, mae Anna yn ceisio bod yn ddynes briod hapus ond mae dyfodiad criw o berfformwyr teithiol ar y fferm yn profi ei chredoau i'r eithaf.
  • Who's Kitty Amor? | Cyf:  Maik Diederen (22 munud)
O'i magwraeth yn Ne Llundain, blynyddoedd clybio cynnar ym Mhrifysgol Nottingham a rhedeg nosweithiau yng nghlwb nos enwog Stealth, a'i llwyddiant fel DJ rhyngwladol ledled y byd, mae cynnydd rhyfeddol Kitty Amor trwy rengoedd sîn y DU a’i hymroddiad diwyro i chwifio'r faner ar gyfer Cerddoriaeth Electronig Affrica, yn cael ei adrodd fel erioed o'r blaen mewn ffilm fer ddogfen.
Bydd enillydd gwobr Y Gorau Ym Mhrydain Gwobr Iris yn cael dangosiad unigryw o'i ffilm yn Pinewood Studios ynghyd â charped coch, a derbyniad croeso gyda diodydd a chanapes a noddir gan Pinewood Studios Group. Byddant hefyd yn cael eu gwahodd i fod yn rhan o Reithgor Y Gorau Ym Mhrydain Gwobr Iris 2025. Bydd yr holl ffilmiau ar restr fer Gorau Ym Mhrydain 2024 yn cael eu darlledu a’u ffrydio ar Channel 4 am flwyddyn. Bydd ffi drwydded yn cael ei dalu i'r holl wneuthurwyr ffilm Y Gorau Ym Mhrydain ar y rhestr fer. Ar ôl diwedd ffenestr Channel 4, bydd y ffilmiau a enwebwyd am y Ffilm Fer Orau Ym Mhrydain yn cael cynnig ail ffenestr anghyfyngedig ar lwyfannau byd-eang OUTTv.
Berwyn Rowlands_Festival Director
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Gwobr Iris: ‘Bob blwyddyn rydym wrth ein bodd yn rhannu gyda chynulleidfa a rheithgorau’r ŵyl, y goreuon o adrodd straeon LHDTQ+ o bob rhan o'r DU, wrth i Iris barhau i fod yn ddathliad o straeon byd-eang a swyn Caerdydd.

‘Rydym hefyd yn falch bod y wobr hon yn cael ei chefnogi gan un o'r darlledwyr a hyrwyddwr mwyaf cyfeillgar i LHDTQ + a Gwobr Iris, a bydd pob un o'r ffilmiau Prydeinig mewn cystadleuaeth ar gael i'w ffrydio ar Channel 4 am 12 mis yn dilyn yr ŵyl.  Mae hon yn bartneriaeth wych a gwerthfawr iawn sydd wedi helpu Iris i gyrraedd cynulleidfa newydd ar gyfer straeon LHDTQ+.

‘Unwaith eto, byddwn yn cyhoeddi'r rhestr fer Y Gorau Ym Mhrydain yn ein Parti Haf Aelodau Gwobr Iris. Dyma'r bobl na fyddai llawer o agweddau o'r ŵyl yn bosibl hebddynt.  Mae gennym ymhlith ein haelodau, gwirfoddolwyr sy'n helpu gyda rhediad esmwyth yr agweddau dydd i ddydd ar ddangosiadau ffilm, i grŵp ymroddedig o bobl sy'n agor eu cartrefi i wneuthurwyr ffilmiau sy'n ymweld ac aelodau'r rheithgor, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rydych chi i gyd yn rhan o deulu Iris, ac ni allem gyflwyno'r ŵyl fel y mae, hebddoch chi.'

Gallwch weld yr holl ffilmiau ar y rhestr fer gyda manylion ychwanegol am y cyfarwyddwyr a'r delweddau drwy ddilyn y ddolen hon: 2024 Best British Shortlist - Iris Prize

Arbedwch £30 drwy brynu Tocyn Gŵyl Lawn am £110 yn ystod cyfnod yr Cyw Cynnar (27 Gorffennaf - 11 Awst 2024) (Pris Arferol: £140)

https://irisprize.org/festival-pass/