BBC Cymru Wales and Iris Prize unveil the latest 19 Pink Portraits for 2026

• Pink Portraits 2026 will launch in St David’s Dewi Sant on 12 October, the opening night of the 20th edition of the Iris Prize LGBTQ+ film festival
• The portraits will be on display at the BBC Cymru Wales headquarters in Central Square, USW’s Atrium campus, Cineworld Cardiff, home of the 2026 Iris Prize Festival, and at St David’s Dewi Sant for Iris Week
• Cardiff creative Harrison Williams is the photographer and creator of Pink Portraits 2026
• A short film shot and edited by Kole Parrott will be shown on opening night, giving a behind-the-scenes look at the production of the Pink Portraits 2026
• “In this our 20th anniversary year we’ve pulled out all the stops and are delighted to be working with BBC Cymru Wales.” Berwyn Rowlands
Team Iris and BBC Cymru Wales are thrilled to unveil the 19 Pink Portraits for 2026 created by Harrison Williams. The Pink Portraits 2026 celebrates LGBTQ+ colleagues whose experiences and individuality help shape the BBC in Wales. Featuring 19 people from across the organisation - from presenters and journalists to producers and editors - the project is produced by BBC Cymru Wales in partnership with Iris Prize and Ffotogallery. BTS - Pink Portraits 2026 is filmed and edited by Kole Parrott, a behind-the-scenes look at the production of the Pink Portraits 2026, will be shown on Opening Night (Monday, 12 October).
Unveiled at St David’s Dewi Sant – one of the leading European retail destinations - during Iris Prize’s 20th anniversary year, the portraits reflect the power of being seen, heard and valued, and they will remain on display for the week of the festival in the area just outside TGI Fridays.
Full of pride, personality and heart, the Pink Portraits highlight the people behind the content that connect with audiences across Wales and beyond, and the importance of creating an environment where everyone can be themselves. The portraits will be on display at Cineworld Cardiff, and the exhibition that Ffotogallery are holding of the images as part of their Ffoto Cymru Festival will be on display from 2 to 31 October in the Atrium, the Cardiff campus of University of South Wales.
BBC Cymru Wales presenter Owain Wyn Evans, who was one of the sitters, said: "Pink Portraits is such a joyful celebration of identity, and I'm incredibly proud to be part of it. I’ve always admired the work of Iris, and as an LGBTQ+ person at the BBC, I now feel able to bring my whole self to work, and I feel very lucky to do so. If these portraits help even one person feel a little more confident, more represented or more proud of who they are, then that's something really worth celebrating.”

Pink Portraits 2026 will be the fourth year of the second iteration of the project, which was initially launched in 2010. The Iris Prize, together with the UK Film Council, commissioned celebrated Scottish portrait photographer, Donald MacLellan to photograph 20 gay and lesbian professionals working in front and behind the lens. They included Simon Callow, Terence Davies, Stephen Fry, Phyllida Lloyd, Mark Gatiss, Briony Hanson, Sean Mathias, Sir Ian McKellen, Berwyn Rowlands, Sophie Ward and Sir Antony Sher.
This year, sitters include the journalist Felicity Evans; the reporter David Grundy; the presenter Owain Wyn Evans; and Production Coordinator and podcaster Jack Davies.
Iris Prize Festival Director Berwyn Rowlands said: “The Pink Portraits have become an important part of the film festival’s ability to connect with the wider community through photography. In this our 20th anniversary year we’ve pulled out all the stops and are delighted to be working with BBC Cymru Wales. The portraits taken by Cardiff creative Harrison Williams can be seen in at Cineworld, St Davids Dewi Sant and at the BBC Cymru Wales headquarters in Central Square, as well as online.”

Garmon Rhys, Interim Director of BBC Cymru Wales, said: "Our 2026 partnership with the Pink Portraits is a powerful celebration of the people who make BBC Cymru Wales what it is, and I'm looking forward to seeing these portraits brought to life and displayed across Cardiff over the next month. We're proud to partner with the Iris Prize in its 20th anniversary year to showcase stories of visibility, authenticity and belonging.”

Here is a full list of sitters for the Pink Portraits 2026 (https://irisprize.org/bbc-cymru-wales-pink-portraits/)
  • Dylan Reynolds, Production Apprentice
  • Ella West, Assistant Editor
  • Rhian Fuller, Production Manager
  • David Grundy, Reporter
  • Lois Jones, Content Producer
  • Tyler Edwards, Journalist
  • Owain Wyn Evans, Presenter
  • Jack Davies, Production Coordinator
  • Felicity Evans, Money Editor
  • Jacob Cook, Production Apprentice
  • Jake Sawyers, Tour Guide
  • Soph Karpaty, Tour Guide
  • Amy Mackrill, Journalist
  • George Lee, BBC National Orchestra & Chorus of Wales, Head of Artistic Planning & Production
  • Ben Evans, Content Producer
  • Miriam Barker, Journalist
  • Caitlin Jones, Production Apprentice
  • Tim Dodd, Journalist
  • Glyn Lewis (1973-2026), BBC TV Presentation, Announcer Director

Iris Prize returns for the 20th edition on Monday 12 October until Sunday 18 October, with the support of the BFI National Lottery Audience Projects Fund, awarding National Lottery Good Cause funding.


The main festival sponsors are: The Michael Bishop Foundation; Creative Wales, a Welsh Government agency that supports the creative sectors in Wales; the BFI awarding funds from The National Lottery; Ffilm Cymru Wales; Film4; University of South Wales; Co-op Respect; Ymddiried - Media Grants Cymru, Bad Wolf; S4C; Gorilla Group; Pinewood Studios; Attitude Magazine; Diva Magazine; Movie Marker; The Ministry Venues, British Council Wales, and Transport for Wales. The festival also works in partnership BAFTA Cymru, Pride Cymru, and Visit Cardiff.

BBC Cymru Wales a Gwobr Iris yn datgelu'r 19 Portread Pinc diweddaraf ar gyfer 2026

  • Bydd Portreadau Pinc 2026 yn cael eu lansio yn St David’s Dewi Sant ar 12 Hydref, sef noson agoriadol 20fed rhifyn gŵyl ffilmiau LHDTQ+ Gwobr Iris
  • Bydd y portreadau yn cael eu harddangos ym mhrif swyddfa BBC Cymru Wales yn Central Square, campws Atrium Prifysgol De Cymru, Cineworld Caerdydd – cartref Gŵyl Gwobr Iris 2026 – ac yn St David’s Dewi Sant yn ystod Wythnos Iris
  • Y ffotograffydd a chrëwr Portreadau Pinc 2026 yw’r artist creadigol o Gaerdydd, Harrison Williams
  • Dangosir ffilm fer, a saethwyd ac a olygwyd gan Kole Parrott, ar y noson agoriadol; bydd yn rhoi cipolwg ar y broses o greu Portreadau Pinc 2026
  • “Yn y flwyddyn hon, sef ein 20fed pen-blwydd, rydym wedi gwneud pob ymdrech bosibl ac rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda BBC Cymru Wales.” Berwyn Rowlands
Mae Tîm Iris a BBC Cymru Wales wrth eu bodd yn cyflwyno’r 19 Portread Pinc ar gyfer 2026 a grëwyd gan Harrison Williams. Mae Portreadau Pinc 2026 yn dathlu cydweithwyr LHDTQ+ y mae eu profiadau a’u hunigolrwydd yn helpu i lunio’r BBC yng Nghymru. Yn cynnwys 19 o bobl o bob rhan o’r sefydliad – o gyflwynwyr a newyddiadurwyr i gynhyrchwyr a golygyddion – caiff y prosiect ei gynhyrchu gan BBC Cymru Wales mewn partneriaeth â Gwobr Iris a Ffotogallery. Bydd BTS - Pink Portraits 2026 – ffilm sy’n cynnig cipolwg ar y broses gynhyrchu a saethwyd ac a olygwyd gan Kole Parrott – yn cael ei dangos ar y Noson Agoriadol (Dydd Llun, 12 Hydref).
Wedi’u dadorchuddio yn St David’s Dewi Sant – un o brif ganolfannau manwerthu Ewrop – yn ystod blwyddyn pen-blwydd Gwobr Iris yn 20 oed, mae’r portreadau’n adlewyrchu grym cael eu gweld, eu clywed a’u gwerthfawrogi, a byddant yn parhau i gael eu harddangos ar gyfer wythnos yr ŵyl yn yr ardal ychydig y tu allan i TGI Friday.
Yn llawn balchder, personoliaeth a chalon, mae’r Portreadau Pinc yn amlygu’r bobl y tu ôl i’r cynnwys sy’n cysylltu â chynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt, a phwysigrwydd creu amgylchedd lle gall pawb fod yn nhw eu hunain. Bydd y portreadau yn cael eu harddangos yn Cineworld Caerdydd, a bydd yr arddangosfa y mae Ffotogallery yn ei chynnal o’r delweddau fel rhan o’u Gŵyl Ffoto Cymru yn cael ei harddangos rhwng 2 a 31 Hydref yn yr Atrium, campws Caerdydd Prifysgol De Cymru.
Dywedodd cyflwynydd BBC Cymru, Owain Wyn Evans, a oedd yn un o’r rhai a dynnwyd eu lluniau: "Mae Portreadau Pinc yn ddathliad llawen o hunaniaeth, ac rwy’n hynod falch o fod yn rhan ohono. Rwyf wastad wedi edmygu gwaith Iris, ac fel person LHDTQ+ yn y BBC, rwyf bellach yn teimlo fy mod yn gallu bod yn fi fy hun yn y gwaith, ac rwy’n teimlo’n ffodus iawn o allu gwneud hynny. Os yw’r portreadau hyn yn helpu hyd yn oed un person i deimlo ychydig yn fwy hyderus, yn fwy cynrychioledig neu’n fwy balch o bwy ydyn nhw, yna mae hynny’n rhywbeth sy’n wirioneddol werth ei ddathlu."

Bydd Portreadau Pinc 2026 yn nodi’r bedwaredd flwyddyn o’r ail gyfnod o’r prosiect, a lansiwyd yn wreiddiol yn 2010. Comisiynodd Gwobr Iris, ar y cyd â Chyngor Ffilm y DU, y ffotograffydd portreadau Albanaidd enwog Donald MacLellan i dynnu lluniau o 20 o weithwyr proffesiynol hoyw a lesbiaidd oedd yn gweithio o flaen ac y tu ôl i’r camera. Roedd y rhain yn cynnwys Simon Callow, Terence Davies, Stephen Fry, Phyllida Lloyd, Mark Gatiss, Briony Hanson, Sean Mathias, Syr Ian McKellen, Berwyn Rowlands, Sophie Ward a Syr Antony Sher.
Eleni, mae’r rhai sy’n cael eu tynnu yn eu lluniau yn cynnwys y newyddiadurwr Felicity Evans; y gohebydd David Grundy; y cyflwynydd Owain Wyn Evans; a’r cydlynydd cynhyrchu a gwneuthurwr podlediadau, Jack Davies.
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris: “Mae’r Portreadau Pinc wedi dod yn rhan bwysig o allu’r ŵyl ffilmiau i gysylltu â’r gymuned ehangach trwy ffotograffiaeth. Yn y flwyddyn hon, sef ein blwyddyn 20fed pen-blwydd, rydym wedi gwneud pob ymdrech bosibl ac rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda BBC Cymru Wales. Gellir gweld y portreadau a dynnwyd gan yr artist creadigol o Gaerdydd, Harrison Williams, yn Cineworld, St Davids Dewi Sant ac ym mhrif swyddfa BBC Cymru Wales yn Central Square, yn ogystal ag ar-lein.”

Dywedodd Garmon Rhys, Cyfarwyddwr Dros Dro BBC Cymru Wales: "Mae ein partneriaeth ar gyfer 2026 gyda'r Portreadau Pinc yn ddathliad pwerus o'r bobl sy'n gwneud BBC Cymru Wales yr hyn ydyw, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y portreadau hyn yn dod yn fyw ac yn cael eu harddangos ledled Caerdydd dros y mis nesaf. Rydym yn falch o bartneru â Gwobr Iris yn ystod blwyddyn ei phen-blwydd yn 20 oed i arddangos straeon am weladwyedd, dilysrwydd ac ymdeimlad o berthyn."

Dyma restr lawn o'r rhai a gaeth eu lluniau wedi’u tynnu ar gyfer y Portreadau Pinc 2026
  • Dylan Reynolds, Prentis Cynhyrchu
  • Ella West, Cynorthwyydd Golygydd
  • Rhian Fuller, Rheolwr Cynhyrchu
  • David Grundy, Gohebydd
  • Lois Jones, Cynhyrchydd Cynnwys
  • Tyler Edwards, Newyddiadurwr
  • Owain Wyn Evans, Cyflwynydd
  • Jack Davies, Cydlynydd Cynhyrchu
  • Felicity Evans, Golygydd Ariannol
  • Jacob Cook, Prentis Cynhyrchu
  • Jake Sawyers, Tywysydd Teithiau
  • Soph Karpaty, Tywysydd Teithiau
  • Amy Mackrill, Newyddiadurwr
  • George Lee, Cerddorfa a Chôr Cenedlaethol y BBC yng Nghymru, Pennaeth Cynllunio a Chynhyrchu
  • Artistig
  • Ben Evans, Cynhyrchydd Cynnwys
  • Miriam Barker, NewyddiadurwrCaitlin Jones, Prentis Cynhyrchu
  • Tim Dodd, Newyddiadurwr
  • Glyn Lewis (1973-2026), Adran Gyflwyno Teledu'r BBC, Cyfarwyddwr Cyhoeddiadau

Mae Gwobr Iris yn dychwelyd ar gyfer ei 20fed rhifyn o ddydd Llun 12 Hydref tan ddydd Sul 18 Hydref, gyda chefnogaeth Cronfa Prosiectau Cynulleidfa'r BFI a'r Loteri Genedlaethol, sy'n dyfarnu cyllid Achosion Da y Loteri Genedlaethol.


Prif noddwyr yr ŵyl yw: Sefydliad Michael Bishop; Cymru Greadigol, un o asiantaethau Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi'r sectorau creadigol yng Nghymru; y BFI sy'n dyfarnu arian gan y Loteri Genedlaethol; Ffilm Cymru Wales; Film4; Prifysgol De Cymru; Co-op Respect; Ymddiried - Media Grants Cymru; Bad Wolf; S4C; Grŵp Gorilla; Pinewood Studios; Cylchgrawn Attitude; Cylchgrawn Diva; Movie Marker; The Ministry Venues; Trafnidiaeth Cymru; a Chyngor Prydeinig Cymru. Mae'r ŵyl hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â BAFTA Cymru, Pride Cymru a Croeso Caerdydd.