Best of Iris takes a mini tour in early summer

- Iris Prize international winner and Best British winner out on tour in south Wales, and Scotland, starting with a visit to Carmarthen on 23 May
- A diverse selection of outstanding short films showcases unique stories from around the world
- ‘Excellence in storytelling is at the core of the Iris Prize, and our two programmes of shorts will certainly fill your hearts with joy and emotion.’
Best of Iris - Iris mini summer tour
Following the success of the first leg of the Iris Prize LGBTQ+ Film Festival (supported by the Michael Bishop Foundation) Iris on the Move’s annual outing, some of the best short films shown at last year’s festival embark on a mini tour of south Wales, after two successful days of screenings at Brighton Fringe.
Iris on the Move is sponsored by S4C, and during May and June, Iris will be visiting Carmarthen, Abertillery, Porthcawl, Pontypridd, and Blaengarw.  At the end of June, Iris will visit Fife for the first time, with a screening at The Adam Theatre in Kirkaldy.
Two programmes of short films will be screened: Best of Iris 2023, and Falling in love with Iris.  The Best of Iris 2023 includes four winning short films which impressed audiences, including the judges during the Cardiff based festival in October 2023. This diverse selection of outstanding short films showcases unique stories from around the world.
Grant Vidgen, Festival Manager said: ‘We are thrilled to be taking Iris on the Move to Kirkaldy for the first time ever. Iris on the Move is a great success story, with the last eight years testimony to this. We love nothing more than sharing the films that made us proud over the last year.  We are a Welsh festival presenting to the international stage, and we are very proud of all our Iris alumni and their short films. It is an absolute joy to present these two programmes to some iconic towns in south Wales. ‘Excellence in storytelling is at the core of the Iris Prize, and these two programmes of shorts will certainly fill your hearts with joy and emotion.’
Iris on the Move 2024 will be visiting the following places:
  • Carmarthen (Yr Egin) Thursday, 23 May
  • Abertillery (The Met Theatre) Wednesday, 5 June
  • Porthcawl (Awel y Mȏr Community Centre) Friday, 7 June
  • Pontypridd (Clwb y Bont) Wednesday, 12 June
  • Bridgend (Blaengarw Workmen’s Hall) Friday, 14 June
  • Kirkcaldy, Scotland (The Adam Theatre) Friday, 28 June
Screenings are supported by Film Hub Wales as part of the BFI Film Audience Network (FAN), made possible by the National Lottery.

If you would like your local cinema to get involved, please contact Iris at Adnan@irisprize.org

Iris on the Move 2024 is sponsored by S4C.


Bydd y Gorau o Iris yn mynd ar daith fach ar ddechrau’r haf

  • Bydd enillydd rhyngwladol Gwobr Iris ac enillydd Gorau Ym Mhrydain yn mynd ar daith yn ne Cymru, a'r Alban, gan ddechrau gydag ymweliad â Chaerfyrddin ar 23 Mai
  • Mae detholiad amrywiol o ffilmiau byrion rhagorol yn arddangos straeon unigryw o bob cwr o'r byd
  • 'Mae rhagoriaeth mewn adrodd straeon wrth wraidd Gwobr Iris, a bydd ein dwy raglen o ffilmiau byrion yn sicr yn llenwi'ch calonnau â llawenydd ac emosiwn.'
Yn dilyn llwyddiant cymal cyntaf taith flynyddol Iris ar Grwydr, Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris (gyda chefnogaeth Sefydliad Michael Bishop), mae rhai o'r ffilmiau byrion gorau a ddangoswyd yn yr ŵyl y llynedd yn cychwyn ar daith fach o amgylch de Cymru, ar ôl dau ddiwrnod llwyddiannus o ddangosiadau yn Brighton Fringe.
Noddir Iris ar Grwydr gan S4C, ac yn ystod mis Mai a Mehefin, bydd Iris yn ymweld â Chaerfyrddin, Abertyleri, Porthcawl, Pontypridd a Blaengarw.  Ddiwedd mis Mehefin, bydd Iris yn ymweld â Fife am y tro cyntaf, gyda dangosiad yn Theatr Adam yn Kirkaldy.
Bydd Iris yn cyflwyno dwy raglen o ffilmiau byrion: Y Gorau o Iris 2023, a Syrthio mewn cariad ag Iris.  Mae Y Gorau o Iris 2023 yn cynnwys pedair ffilm fer fuddugol a wnaeth argraff ar gynulleidfaoedd, gan gynnwys y beirniaid, yn ystod yr ŵyl yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2023. Mae'r detholiad amrywiol hwn o ffilmiau byrion rhagorol yn arddangos straeon unigryw o bob cwr o'r byd.
Dywedodd Grant Vidgen, Rheolwr yr Ŵyl: ‘Rydym wrth ein bodd o fod yn mynd ag Iris ar Grwydr i Kirkaldy am y tro cyntaf erioed. Mae Iris ar Grwydr yn llwyddiant mawr, gyda'r wyth mlynedd diwethaf yn dyst i hyn. Nid ydym yn caru dim mwy na rhannu'r ffilmiau a'n gwnaeth yn falch dros y flwyddyn ddiwethaf.  Rydym yn ŵyl Gymreig sy'n cyflwyno i'r llwyfan rhyngwladol, ac rydym yn falch iawn o holl alumni Iris a'u ffilmiau byrion. Mae'n bleser enfawr cael cyflwyno'r ddwy raglen hon i rai o drefi eiconig de Cymru. 'Mae rhagoriaeth mewn adrodd straeon wrth wraidd Gwobr Iris, a bydd y ddwy raglen o ffilmiau byrion hyn yn sicr yn llenwi'ch calonnau â llawenydd ac emosiwn.'
Bydd Iris ar Grwydr 2024 yn ymweld â'r trefi canlynol:
  • Caerfyrddin (Yr Egin) Dydd Iau, 23 Mai
  • Abertillery (Theatr y Met) Dydd Mercher, 5 Mehefin
  • Porthcawl (Canolfan Gymunedol Awel y Mȏr) Dydd Gwener, 7 Mehefin
  • Pontypridd (Clwb y Bont) Dydd Mercher, 12 Mehefin
  • Penybont ar Ogwr (Neuadd y Gweithwyr Blaengarw), Dydd Gwener, 14 Mehefin
  • Kirkcaldy, Yr Alban (The Adam Theatre) Dydd Gwener, 28 Mehefin
Cefnogir dangosiadau gan Ganolfan Ffilm Cymru fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI (FAN), a wnaed yn bosibl gan y Loteri Genedlaethol.

Os hoffech i'ch sinema leol gymryd rhan, cysylltwch ag Iris Adnan@irisprize.org

Noddir Iris ar Grwydr 2024 gan S4C.