Iris Industry Day returns

• Iris Prize’s Industry Day makes a big return focusing on British talent and content creators
• Dawn Airey, a visible lesbian in British media, to give keynote speech
• Full Festival Pass and Industry Pass go on sale from 2 June – buy yours early to secure access to all screenings, exclusive events, and unforgettable moments
• "The Industry Day will be unapologetic in its desire to share best practice, challenge the problems faced by the sector and embrace and highlight the opportunities for success.” Berwyn Rowlands, Iris Prize Festival Director
Today (3 June 2025), the organisers of the Iris Prize LGBTQ+ Film Festival are excited to announce that the Iris Industry Day will take place on Wednesday 15 October 2025.
The Iris Prize LGBTQ+ Film Festival – celebrating global stories and Cardiff charm, supported by The Michael Bishop Foundation, will return for its 19th edition on Monday 13 October 2025.  This is the first time the Cardiff-based international film festival will run for a full week.
Berwyn Rowlands, Festival Director, said: “I’m delighted that the Iris Industry Day is returning after a short break. Although we are public facing festival sharing LGBTQ+ stories, we have responded to the sector and accepted that we also have a responsibility to the talented people who create content - where would we be without them!”
Iris Industry Day - Wednesday 15 October 2025The Iris Industry Day is a key event for media professionals focused on content creation. It brings together directors, producers, writers, performers, and other key industry players to discuss the latest trends, challenges, and opportunities shaping the media landscape. This full-day event provides a platform for networking, knowledge-sharing, and professional development, fostering a community of likeminded individuals passionate about the future of media.
Passes for Industry Day – and the full festival - are now available, and include tickets to all in-person screenings for that day too

(Iris Prize LGBTQ+ Film Festival 2025 | Iris Prize LGBTQ+ Film Festival 2025)


Dawn Airey - Iris Industry Day (Keynote Speaker)
The Iris Industry Day will feature a keynote speech from Dawn Airey (Channel 4, Channel 5, BskyB, ITV), panel discussions, and breakout sessions.  
Dawn Airey said: "I am thrilled to be asked to be the keynote speaker for the reignited Iris Industry Day.  The Iris Prize is such an important landmark on the festival landscape and has always enjoyed a special relationship with Channel 4, so I am excited to be able to take part in the IRIS 2025 celebration of LGBTQIA media.“
 
The event is designed to be interactive, with ample networking opportunities throughout the day.
  • Panel Sessions and Presentations: Industry leaders and experts will share insights on current and future trends in content creation, production techniques, and distribution strategies.
  • Breakout Sessions: Smaller, more intimate group discussions will provide deeper dives into specialized topics and foster meaningful collaboration.
  • Networking Opportunities: From the welcome breakfast to lunch and evening drinks, you’ll have plenty of chances to connect with peers, collaborators, and potential partners.
The Iris Industry Day will also be addressing the significant lack of working-class representation in the UK film and TV sector, particularly in roles behind the camera. Research by Creative Industries Policy and Evidence Centre and presented by Channel 4 news indicates that only a small percentage of creatives in these industries come from working-class backgrounds. This is even though the UK film and TV industry is a significant employer.

Find More: https://irisprize.org/iris-industry-day/


Berwyn Rowlands, Festival Director, continued: “The Industry Day will be unapologetic in its desire to share best practice, challenge the problems faced by the sector and embrace and highlight the opportunities for success. As we return in 2025, on the eve of our 20th anniversary, the list of speakers we are putting together represent the best of the best, people at the top of their game.

“Our first keynote speaker is Dawn Airey, who needs very little introduction having played key roles with Channel 4, Channel 5, BskyB, ITV and is considered by most as one of the most visible lesbians in British media.

“There will be a huge focus on British talent in 2025, and this will be reflected not only in the festival programme but also in the sessions during the Industry Day. We are keen to hear from the sector about what they would like to see covered during the event this October. We are interested to hear from those embarking on their first feature film, those who’ve made at least one feature and filmmakers who have one or two shorts under their belts. Send your e-mails to Adnan@irisprize.org.”

Iris Prize will return this year: Monday 13 October – Sunday 19 October 2025. Iris Online will be available across the UK from 14 October to 7 November 2025.


Full details about Iris can be found here:  www.irisprize.org


Diwrnod Diwydiant Iris yn dychwelyd

  • Mae Diwrnod Diwydiant Gwobr Iris yn gwneud dychweliad mawr gan ganolbwyntio ar dalent a chrewyr cynnwys Prydeinig
  • Dawn Airey, lesbiad gweladwy yn y cyfryngau Prydeinig, i roi araith gyweirnod
  • Mae Tocyn Gŵyl Llawn a Thocyn Diwydiant ar werth o 2 Mehefin – prynwch eich un chi'n gynnar i sicrhau mynediad i bob dangosiad, digwyddiadau unigryw, a holl hwyl yr ŵyl
  • "Bydd Diwrnod Diwydiant yn ddi-flewyn-ar-dafod yn ei awydd i rannu arfer gorau, herio'r problemau y mae'r sector yn eu hwynebu a chofleidio ac amlygu'r cyfleoedd i lwyddo.” Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris
Heddiw (3 Mehefin 2025), mae trefnwyr Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris yn falch o gyhoeddi y bydd Diwrnod Diwydiant Iris yn digwydd ddydd Mercher 15 Hydref 2025.
Bydd Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris – dathlu straeon byd-eang a swyn Caerdydd, gyda chefnogaeth Sefydliad Michael Bishop, yn dychwelyd am ei 19eg rhifyn ddydd Llun 13 Hydref 2025. Dyma'r tro cyntaf i'r ŵyl ffilm ryngwladol yng Nghaerdydd redeg am wythnos gyfan.
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr yr Ŵyl: “Rwyf wrth fy modd bod Diwrnod Diwydiant Iris yn dychwelyd ar ôl seibiant byr. Er ein bod yn rhannu straeon LHDTQ+ gyda’r cyhoedd, rydym wedi ymateb i’r sector ac wedi derbyn bod gennym gyfrifoldeb hefyd i’r bobl dalentog sy’n creu cynnwys - ble fyddem ni hebddyn nhw!”
Mae Diwrnod Diwydiant Iris yn ddigwyddiad allweddol i weithwyr proffesiynol y cyfryngau sy’n canolbwyntio ar greu cynnwys. Mae’n dod â chyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, awduron, perfformwyr, a chwaraewyr allweddol eraill yn y diwydiant ynghyd i drafod y tueddiadau, yr heriau a’r cyfleoedd diweddaraf sy’n llunio tirwedd y cyfryngau. Mae’r digwyddiad diwrnod llawn hwn yn darparu llwyfan ar gyfer rhwydweithio, rhannu gwybodaeth, a datblygiad proffesiynol, gan feithrin cymuned o unigolion o’r un anian sy’n angerddol am ddyfodol y cyfryngau.
Mae tocynnau ar gyfer Diwrnod Diwydiant – a’r ŵyl lawn – ar gael nawr, ac maent yn cynnwys tocynnau i bob dangosiad wyneb yn wyneb ar gyfer y diwrnod hwnnw hefyd

(Iris Prize LGBTQ+ Film Festival 2025 | Iris Prize LGBTQ+ Film Festival 2025)


Dawn Airey - Iris Industry Day (Keynote Speaker) Bydd Diwrnod Diwydiant Iris yn cynnwys araith gyweirnod gan Dawn Airey (Channel 4, Channel 5, BskyB, ITV), trafodaethau panel, a sesiynau grŵp. Dywedodd Dawn Airey: "Rwyf wrth fy modd i gael fy ngofyn i fod yn siaradwr cyweirnod ar gyfer Diwrnod Diwydiant Iris sydd wedi'i aildanio. Mae Gwobr Iris yn garreg filltir mor bwysig ar dirwedd y gwyliau ac mae wedi mwynhau perthynas arbennig â Channel 4 erioed, felly rwy'n gyffrous i allu cymryd rhan yn nathliad IRIS 2025 o gyfryngau LHDTQIA."  
Mae'r digwyddiad wedi'i gynllunio i fod yn rhyngweithiol, gyda digon o gyfleoedd i rwydweithio drwy gydol y dydd.
  • Sesiynau Panel a Chyflwyniadau: Bydd arweinwyr ac arbenigwyr y diwydiant yn rhannu mewnwelediadau ar dueddiadau cyfredol a rhai'r dyfodol mewn creu cynnwys, technegau cynhyrchu a strategaethau dosbarthu.
  • Sesiynau Ymylol: Bydd trafodaethau grŵp llai a mwy agos atoch yn darparu cyfleodd dwysach i drafod pynciau arbenigol ac yn meithrin cydweithio ystyrlon.
  • Cyfleoedd Rhwydweithio: O'r brecwast croeso i ginio a diodydd gyda'r nos, bydd gennych ddigon o gyfleoedd i gysylltu â chyfoedion, cydweithwyr a phartneriaid posibl.
Bydd Diwrnod Diwydiant Iris hefyd yn mynd i'r afael â'r diffyg sylweddol o gynrychiolaeth dosbarth gweithiol yn sector ffilm a theledu'r DU, yn enwedig mewn rolau y tu ôl i'r camera. Mae ymchwil gan y Ganolfan Polisi a Thystiolaeth Diwydiannau Creadigol a gyflwynwyd gan newyddion Channel 4 yn dangos mai dim ond canran fach o bobl greadigol yn y diwydiannau hyn sy'n dod o gefndiroedd dosbarth gweithiol. Mae hyn er bod diwydiant ffilm a theledu'r DU yn gyflogwr sylweddol.
Parhaodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr yr Ŵyl: “Bydd Diwrnod Diwydiant yn ddi-flewyn-ar-dafod yn ei awydd i rannu arfer gorau, herio'r problemau y mae'r sector yn eu hwynebu a chofleidio ac amlygu'r cyfleoedd i lwyddo. Wrth i ni ddychwelyd yn 2025, ar drothwy ein pen-blwydd yn 20 oed, mae’r rhestr o siaradwyr rydyn ni’n eu llunio’n cynrychioli’r gorau o’r goreuon, pobl ar frig eu gêm.

“Ein siaradwr gwadd cyntaf yw Dawn Airey, sydd angen ychydig iawn o gyflwyniad arni ar ôl chwarae rolau allweddol gyda Channel 4, Channel 5, BskyB, ITV ac sy’n cael ei hystyried gan y rhan fwyaf yn un o’r lesbiaid mwyaf gweladwy yn y cyfryngau Prydeinig.

“Bydd ffocws enfawr ar dalent Prydeinig yn 2025, a bydd hyn yn cael ei adlewyrchu nid yn unig yn rhaglen yr ŵyl ond hefyd yn y sesiynau yn ystod Diwrnod Diwydiant. Rydym yn awyddus i glywed gan y sector am yr hyn yr hoffent ei weld yn cael ei drafod yn ystod y digwyddiad ym mis Hydref. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan y rhai sy'n dechrau ar eu ffilm nodwedd gyntaf, y rhai sydd wedi gwneud o leiaf un ffilm nodwedd a gwneuthurwyr ffilmiau sydd ag un neu ddwy ffilm fer i’w henwau. Anfonwch eich e-byst at Adnan@irisprize.org.”

Bydd Gwobr Iris yn dychwelyd eleni: Dydd Llun 13 Hydref – Dydd Sul 19 Hydref 2025.

Gellir dod o hyd i fanylion llawn am Wobr Iris yma: www.irisprize.org