The world’s largest short film prize will be presented during the festival week and thousands of guests are expected to join the annual celebration of LGBTQ+ global stories and Cardiff charm. With more than 100 filmmakers already confirmed to attend the Iris Prize LGBTQ+ Film Festival this year, many will be welcomed into the city via Cardiff Central Station which will host an Iris Prize reception desk, which will be staffed by the festival from Tuesday 8 October through Saturday 12 October.
GET TICKETS
There is also a welcome return for Pink Portraits 2024, and they will be displayed in the -main concourse of Cardiff Central Station for the duration of the festival. Pink Portraits 2024 is a series of 12 portraits celebrating the diversity of LGBTQ+ professionals working for Transport for Wales produced by Iris Prize, in partnership with Ffotogallery and Transport for Wales. The portraits were taken by south Wales-based photographer, Sarah Scorey, and there is a ‘the making of’ short film celebrating the project being shared during the festival.
Berwyn Rowlands, Iris Prize LGBTQ+ Film Festival Director, said: “During the festival we will be celebrating global LGBTQ+ stories in the cinema and at the same time exploring Cardiff charm. The city has been a good friend to Iris and this year we are taking things up a notch with some dramatic street banners featuring gay superheroes. “Having the Llys Cadwyn bathed in Iris purple and Central Station with a rainbow theme for the duration of the festival, is a wonderful statement for Iris as she returns to Cardiff for the 18th edition of the festival. This is happening because the partnership with Transport for Wales is strong. “We enjoyed working with Transport for Wales on creating the 2024 Pink Portraits and are delighted that the portraits will be seen by the thousands attending the festival at Stadium Plaza.”
Marie Daly, Chief Customer and Culture Officer at Transport for Wales added: “Iris is now a firm date in the calendar in Cardiff. We’re pleased to join the celebrations again this year and to light up Cardiff Central during the festival to signify our commitment to diversity as well as our support for the festival in its home city. “Transport for Wales is committed to being one of Wales’s most inclusive employers. We believe diversity makes us stronger, helps us understand our customers better and build an inclusive transport network everyone in Wales can be proud of. Showcasing the Pink Portraits at Cardiff Central will be a proud moment for us as we welcome festivalgoers for Iris week in October.”
Festival-goers can book UK rail tickets and plan travel at tfw.wales or on TfW’s app. TfW’s friendly staff will also be on hand at Cardiff Central and Cardiff Bus Interchange to help festivalgoers with any travel enquiries.
Gwobr Iris a Trafnidiaeth Cymru yn cyd-weithio yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd
- Mae 18fed rhifyn Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris yn agor heddiw, dydd Mawrth 8 Hydref
- Mae Iris yn cynnig dros 70 o ffilmiau byrion, 13 ffilm nodwedd, wyth sgwrs diwydiant, sesiynau Holi ac Ateb ôl-ffilm, a dathliadau agor a chau
- Bydd dros 100 o wneuthurwyr ffilm yn bresennol yn yr ŵyl eleni gyda chyflwyniadau ar ddechrau pob rhaglen o ffilmiau byrion
- Bydd Portreadau Pinc 2024 yn cael eu harddangos eto ar gyfer Wythnos Iris
- Gall fynychwyr archebu eu teithiau rheilffordd yn y DU yn tfw.wales ac ar ap Trafnidiaeth Cymru
Bydd gwobr ffilm fer fwyaf y byd yn cael ei chyflwyno yn ystod wythnos yr ŵyl ac mae disgwyl i filoedd o westeion ymuno â'r dathliad blynyddol o straeon byd-eang LHDTQ+ a swyn Caerdydd. Gyda mwy na 100 o wneuthurwyr ffilm eisoes wedi'u cadarnhau i fynychu Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris eleni, bydd llawer yn cael eu croesawu i'r ddinas trwy Orsaf Ganolog Caerdydd ble bydd derbynfa Gwobr Iris, a fydd yn cael ei staffio gan yr ŵyl o ddydd Mawrth 8 Hydref tan ddydd Sadwrn 12 Hydref.
Mae croeso mawr hefyd i ddychwelyd Portreadau Pinc 2024, a byddant yn cael eu harddangos ym mhrif gwrs Gorsaf Ganolog Caerdydd drwy gydol yr ŵyl. Mae Portreadau Pinc 2024 yn gyfres o 12 portread sy'n dathlu amrywiaeth gweithwyr proffesiynol LHDTQ+ sy'n gweithio i Trafnidiaeth Cymru a gynhyrchwyd gan Wobr Iris, mewn partneriaeth â Ffotogallery a Trafnidiaeth Cymru. Cymerwyd y portreadau gan y ffotograffydd o dde Cymru, Sarah Scorey, ac mae ffilm fer yn dathlu'r prosiect yn cael ei dangos yn ystod yr ŵyl.
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris: "Yn ystod yr ŵyl byddwn yn dathlu straeon LHDTQ+ byd-eang yn y sinema ac ar yr un pryd yn archwilio swyn Caerdydd. Mae'r ddinas wedi bod yn ffrind da i Iris ac eleni rydym yn ymestyn pethau gyda baneri stryd dramatig yn cynnwys arch-arwyr hoyw. "Mae cael ymdrochi Llys Cadwyn ym mhorffor Iris a thema’r enfys yng Ngorsaf Canolog Caerdydd drwy gydol yr ŵyl yn ddatganiad gwych i Iris wrth iddi ddychwelyd i Gaerdydd ar gyfer 18fed rhifyn yr ŵyl. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod y bartneriaeth gyda Trafnidiaeth Cymru yn gryf. "Gwnaethon ni fwynhau gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar greu Portreadau Pinc 2024 ac rydyn ni wrth ein bodd y bydd y portreadau'n cael eu gweld gan y miloedd sy'n mynychu'r ŵyl yn Plaza’r Stadiwm."
Ychwanegodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru: "Mae Iris bellach yn ddyddiad pendant yn y calendr yng Nghaerdydd. Rydym yn falch o ymuno â'r dathliadau eto eleni ac i oleuo Caerdydd Canolog yn ystod yr ŵyl i ddynodi ein hymrwymiad i amrywiaeth yn ogystal â'n cefnogaeth i'r ŵyl yn ei dinas enedigol. "Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Credwn fod amrywiaeth yn ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well ac adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono. Bydd arddangos y Portreadau Pinc yng Nghaerdydd Canolog yn foment falch i ni wrth i ni groesawu mynychwyr yr ŵyl ar gyfer wythnos Iris ym mis Hydref."
Gall mynychwyr archebu tocynnau rheilffordd yn y DU a chynllunio teithio yn tfw.wales neu ar ap Trafnidiaeth Cymru. Bydd staff cyfeillgar Trafnidiaeth Cymru hefyd wrth law yng gydag unrhyw ymholiadau teithio.