There are 35 international short films in competition for the £30,000 Iris Prize International Short Film Competition supported by The Michael Bishop Foundation. This year’s shortlist features films from 21 different countries, including four from the UK and one from Ireland. Two of the films are also in the shortlist for Best British Short sponsored by Film4 and Pinewood Studios.
Watch 2023 Best British Trailer:
Berwyn Rowlands, Iris Prize LGBTQ+ Film Festival Director, said: “It is back to business for Iris this year, with a programme which we are immensely proud of. We opened our box office early for our marvellous gang of Iris Prize Members, but as of today (19 September), the tickets and passes are available to all to buy. “One of the USPs of Iris is that 30% of our audience identify as straight, so we hope that however you identify, if you love films, and love a good story, you will join us at Iris this year. “Our new venue – Vue Cinema – also makes getting to Iris by public transport easier, as we will be located in the Stadium Plaza just a short walk from the train station and the many bus stops in the city centre. “If you have never come to Iris before, please make this year your first, and join for the very best of LGBTQ+ storytelling through film.”There are many ways to enjoy Iris, whether you are with us just for an evening, a weekend or the whole festival, and students receive a special discount for all feature and short film screenings (see below).
This is not all, however. From 11 October to 31 October, elements of the festival are also available for the fourth year on-line. If you live in the UK, you can watch all 35 of the international shorts and 15 Best British shorts when you want and where you want. AND if you buy the full on-line pass, we’ve thrown in a few extras for you including the community film with Lynn Hunter and Rebecca Harries, I Shall Be Whiter than Snow and Cardiff, the outrageous comedy starring the late, great Ruth Madoc, with Richard Elis and Stifyn Parry.
This year, we have 12 feature films showing. We are very pleased to be showing The Queen of my Dreams, a wonderful film made by Iris faithful Fawzia Mirza. This film has just been shown at the prestigious Toronto International Film Festival (TIFF) and is the story of Azra, who has recently lost her father, and on her return to Pakistan her mother demands she play the role of the perfect grieving daughter. Fawzia will be attending the Iris Prize Festival on the weekend.
Chuck, Chuck Baby is a brilliant story about Helen, who lives with her ex-husband, his 20-year-old girlfriend, their new baby - and his dying mother Gwen. Directed by Janis Pugh, who is from north east Wales, Chuck Chuck Baby is set in a chicken factory in Flintshire, and Janis will be attending the Iris Prize Festival on the weekend.
Femme is a hard-hitting British-made feature by Sam H. Freeman and Ng Choon Ping. It tells the harrowing tale of Jules who is violently attacked by a gang of young men, whose ringleader is Preston. The homophobic attack causes Jules to retreat into himself, until a chance encounter with Preston points him in the direction of revenge.
The other nine feature films are listed at 2023 Feature Films - Iris Prize
Ticket and pass information available here
Find 2023 Festival Venues listed here
Tickets are available at irisprize.org/2023-box-office or in person from 10 -15 October 2023 at the Festival Box Office at Vue Cardiff. If you are not a member of Iris, we encourage you to join here: Iris Membership - Iris Prize
Swyddfa docynnau yn agor ar gyfer gŵyl ffilm fer LHDTQ+ Caerdydd
- Swyddfa docynnau Gŵyl Ffilm Gwobr Iris yn agor 19 Medi 2023
- Wythnos Iris yn dechrau ar 10 Hydref 2023
- Pasiau, tocynnau, a lleoliadau’r ŵyl wedi'u rhestru
- Bydd 12 ffilm nodwedd yn cael eu dangos yn yr ŵyl eleni gan gynnwys Chuck Chuck Baby, Queen of My Dreams, a Femme
- Gŵyl ar-lein ar gael yn y DU tan ddiwedd mis Hydref
Mae 35 o ffilmiau byrion rhyngwladol mewn cystadleuaeth am y Gystadleuaeth Ffilm Fer Ryngwladol Gwobr Iris gwerth £30,000 a gefnogir gan Sefydliad Michael Bishop. Mae'r rhestr fer eleni yn cynnwys ffilmiau o 21 o wahanol wledydd, gan gynnwys pedair o'r DU ac un o Iwerddon. Mae dwy o'r ffilmiau hefyd ar y rhestr fer ar gyfer y Ffilm Fer Gorau Ym Mhrydain a noddir gan Film4 a Pinewood Studios.
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris: “Mae'n ôl i fusnes i Iris eleni, gyda rhaglen yr ydym yn hynod falch ohoni. Agorom ein swyddfa docynnau yn gynnar ar gyfer ein giang gwych o Aelodau Gwobr Iris, ond heddiw (19 Medi), mae'r pasiau a'r tocynnau ar gael i bawb eu prynu. “Un o bwyntiau gwerthu unigryw Iris yw bod 30% o'n cynulleidfa yn ymuniaethu fel syth, felly rydym yn gobeithio, pa fodd bynnag yr ydych chi’n ymuniaethu, os ydych chi'n caru ffilmiau, ac yn caru stori dda, y byddwch chi'n ymuno â ni yn Iris eleni. “Mae ein lleoliad newydd – Sinema Vue - hefyd yn gwneud cyrraedd Iris ar drafnidiaeth gyhoeddus yn haws, gan y byddwn ni wedi'n lleoli yn y Plaza’r Stadiwm ychydig o funudau o'r orsaf drenau a'r nifer o arosfannau bysiau yng nghanol y ddinas. "Os nad ydych erioed wedi dod i Iris o'r blaen, gwnewch y flwyddyn hon y gyntaf i chi, ac ymunwch am y gorau o adrodd straeon LHDTQ+ trwy ffilm.”
Mae yna lawer o ffyrdd i fwynhau Iris, p'un a ydych chi gyda ni am noson, penwythnos neu'r ŵyl gyfan, ac mae myfyrwyr yn derbyn gostyngiad arbennig ar gyfer yr holl ddangosiadau ffilmiau nodwedd a ffilmiau byrion (gweler isod).
Fodd bynnag, nid dyna'r cyfan. Rhwng 11 Hydref a 31 Hydref, bydd elfennau o'r ŵyl hefyd ar gael am y bedwaredd flwyddyn ar-lein. Os ydych chi'n byw yn y DU, gallwch wylio pob un o'r 35 o'r ffilmiau byrion rhyngwladol a 15 ffilm fer Gorau Ym Mhrydain pryd bynnag y dymunwch a ble rydych chi eisiau. Ac os prynwch y pas llawn ar-lein, rydym wedi cynnwys ychydig o bethau ychwanegol i chi gan gynnwys y ffilm gymunedol gyda Lynn Hunter a Rebecca Harries, I Shall Be Whiter Than Snow a Cardiff, y gomedi ffraeth sy'n serennu’r anhygoel, ddiweddar Ruth Madog, gyda Richard Elis a Stifyn Parry.
Eleni, mae gennym 12 ffilm nodwedd yn dangos. Rydym yn falch iawn o fod yn dangos The Queen of my Dreams, ffilm wych a wnaed gan un o ffrindiau pennaf Iris, Fawzia Mirza. Mae'r ffilm hon newydd gael ei dangos yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto (TIFF) ac mae'n stori Azra, sydd wedi colli ei thad yn ddiweddar, ac ar ôl iddi ddychwelyd i Bacistan mae ei mam yn mynnu ei bod yn chwarae rhan y ferch alaru berffaith. Bydd Fawzia yn mynychu Gŵyl Gwobr Iris dros y penwythnos.
Mae Chuck, Chuck Baby yn stori wych am Helen, sy'n byw gyda'i chyn-ŵr, ei gariad 20 oed, eu babi newydd - a'i fam sy'n marw, Gwen. Wedi'i chyfarwyddo gan Janis Pugh, sy'n dod o ogledd ddwyrain Cymru, mae Chuck Chuck Baby wedi'i lleoli mewn ffatri ieir yn Sir y Fflint, a bydd Janis yn mynychu Gŵyl Gwobr Iris dros y penwythnos.
Mae Femme yn ffilm Brydeinig, bwerus gan Sam H. Freeman a Ng Choon Ping. Mae'n adrodd hanes dirdynnol Jules yr ymosodir arno'n dreisgar gan griw o ddynion ifanc, a'u harweinydd Preston. Mae'r ymosodiad homoffobig yn achosi i Jules encilio i mewn iddo'i hun, nes bod cyfarfyddiad ar hap â Preston yn ei bwyntio i gyfeiriad dial.
Dewch o hyd i'r rhestr lawn o 12 ffilm yma: https://irisprize.org/2023-feature-films/
Gwybodaeth am docynnau a thocynnau ar gael yma
Darganfyddwch Lleoliadau Gŵyl 2023 a restrir yma