2024 Programme
Today also marks the opening of the Box Office’s general sales, with Iris Members having had the opportunity to buy their Full Festival Passes, Day Passes, and Weekend Pass and Tickets a full seven days earlier. The Box Office is available here:
https://irisprize.org/2024-box-office/
The 18th Iris Prize LGBTQ+ Film Festival - celebrating global stories and Cardiff charm takes place Tuesday 8 – Sunday 13 October 2024 in Cardiff. This year’s programme includes more than 60 short films, 13 stunning feature films, the annual Iris Gig, eight Iris Talks, Opening Night, and the fabulous Awards Show. This is a chance to meet some of the most talented creatives from around the world, and we want to welcome you to our Festival HQ at Stadium Plaza, home to Vue Cinema, for almost a week of filmmaking talent.
Berwyn Rowlands, Iris Prize LGBTQ+ Film Festival Director, said: “There’s always an excitement at this time of year as we prepare to welcome filmmakers from all over the world to Cardiff for the festival. Some are first time visitors and about to experience Cardiff charm for the first time. Many are returning for their annual week of celebrating global LGBTQ+ stories and Iris magic. “The Iris Family gets bigger every year, and this is reflected in the number of film makers who join us. I’m thrilled to welcome 2013 Iris award winner Tim Marshall back to Cardiff with his new dark feature film In the Room Where He Waits. Tim will also be joined by fellow Australian film maker Gabriel Carrubba, who’s feature Sunflower stars Liam Mollica in the working-class Melbourne-based coming of age drama. Both will be attending the screenings to introduce their films. “I’m also delighted to be sharing Perfect Endings the latest feature by 2011 Iris Prize winner Daniel Ribeiro, the colourful and sexy story of João and Hugo who end their 10-year relationship but stay best friends. It is very satisfying to see how Iris winners are progressing with their movie careers.”
Minister for Creative Industries, Jack Sargeant, said: “Year-on-year, the Iris Prize LGBTQ+ Film Festival inspires and unites, bringing stories to life which not only reflect the diversity of today’s world but that of the LGBTQ+ communities here across Wales too. “As the festival launches for 2024, we are excited to be able to support Iris for another year and witness the incredible talent of filmmakers - both returning and new - who will share their voices, promote change and empower others through such creativity."
This year, we have 13 fantastic feature films from Australia, Brazil, UK, Canada, USA, Greece, Argentina, Belgium and Netherlands, and Philippines. Here is a taster of three very different films:
- Last ExMas, directed by Sarah Rotella. Canada. 2024. 88 mins. (English)
- Life of Riley, directed by Jacquie Lawrence. UK. 2024 90 mins. (English)
- Sunflower, directed by Gabriel Carrubba. Australia. 2023. 84 mins. (English, No subtitles)
There are many ways to enjoy Iris, whether you’re with us just for an evening, a weekend or the whole festival and students receive a special discount for all feature and short film screenings. We are pleased to announce the return of Iris Online, bringing the festival’s short film magic right to your own screen. From 9 October to 31 October immerse yourself in the Iris experience from the comfort of your home. All our tickets and passes are available to buy online now – irisprize.org/2024-box-office – or in person from the festival hub in Stadium Plaza throughout the festival from 3pm on Tuesday 8 October.
- Full Festival Pass - £140
- Weekend Pass - £90
- Day Pass - £30
- Online Pass - £10
Individual Tickets
- Opening Night: £15 / £14
- Gig: £12 / £11
- Feature Film Programmes: £8 / £7
- Short Film Programmes: £7 / £6
- Awards Show: £15 / £14
- Silent Disco: £5 / £4
Festival Venues
- Vue Cardiff – Main venue and Festival hub
- Stadium Plaza, Wood Street, Cardiff CF10 1LA
- Chapter Arts Centre
- Market Road, Canton, Cardiff CF5 1QE
- USW Atrium Theatre
- The University of South Wales, Adam Street CF24 2FN
For detailed access information please see our website irisprize.org/access or email us at access@irisprize.org
Lansio rhaglen Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris a'r swyddfa docynnau yn agor ar gyfer gwerthiant cyffredinol
- Enillydd Gwobr Iris 2013 yn dychwelyd i Gaerdydd o Awstralia gyda'i ffilm nodwedd gyntaf
- Straeon sy'n adlewyrchu'r byd rydyn ni'n byw ynddo heddiw wrth galon gŵyl ffilm 2024
- Gwneuthurwyr ffilm yn paratoi ar gyfer y daith flynyddol i Gaerdydd wrth i deulu Iris dyfu
Mae heddiw hefyd yn nodi agoriad gwerthiant cyffredinol y Swyddfa Docynnau, gydag Aelodau Iris wedi cael cyfle i brynu eu Pasiau Gŵyl Lawn, Tocynnau Dydd, a Phas Penwythnos a Thocynnau saith diwrnod yn gynharach. Mae'r Swyddfa Docynnau ar gael yma: https://irisprize.org/2024-box-office/
Cynhelir 18fed Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris - dathlu straeon byd-eang a swyn Caerdydd ddydd Mawrth 8 – dydd Sul 13 Hydref 2024 yng Nghaerdydd. Mae'r rhaglen eleni'n cynnwys mwy na 60 o ffilmiau byrion, 13 ffilm nodwedd syfrdanol, Gig Iris blynyddol, wyth Sgwrs Iris, Noson Agoriadol, a'r Sioe Wobrwyo wych. Mae hwn yn gyfle i gwrdd â rhai o'r bobl greadigol mwyaf talentog o bob cwr o'r byd, ac rydym am eich croesawu i'n Pencadlys Gŵyl yn Plaza’r Stadiwm, cartref i Sinema Vue, am bron i wythnos o dalent gwneud ffilmiau.
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris: "Mae cyffro bob amser ar yr adeg hon o'r flwyddyn wrth i ni baratoi i groesawu gwneuthurwyr ffilm o bob cwr o'r byd i Gaerdydd ar gyfer yr ŵyl. Mae rhai yn ymwelwyr am y tro cyntaf ac ar fin profi swyn Caerdydd am y tro cyntaf. Mae llawer yn dychwelyd am eu hwythnos flynyddol o ddathlu straeon LHDTQ+ byd-eang a hud Iris. "Mae Teulu Iris yn mynd yn fwy bob blwyddyn, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn nifer y gwneuthurwyr ffilm sy'n ymuno â ni. Rwy'n falch iawn o groesawu enillydd gwobr Iris 2013 Tim Marshall yn ôl i Gaerdydd gyda'i ffilm nodwedd dywyll newydd In the Room Where He Waits. Hefyd yn ymuno â Tim bydd y gwneuthurwr ffilmiau o Awstralia, Gabriel Carrubba, a’i ffilm nodwedd Sunflower - dosbarth gweithiol dod i oed ym Melbourne - sy'n serennu Liam Mollica. Bydd y ddau yn mynychu'r dangosiadau i gyflwyno eu ffilmiau. "Rwyf hefyd yn falch iawn o fod yn rhannu Perfect Endings y ffilm nodwedd ddiweddaraf gan enillydd Gwobr Iris 2011, Daniel Ribeiro, stori liwgar a rhywiol João a Hugo sy'n dod â'u perthynas 10 mlynedd i ben ond sy'n aros yn ffrindiau gorau. Mae'n foddhaol iawn gweld sut mae enillwyr Iris yn symud ymlaen gyda'u gyrfaoedd ffilm."
Dywedodd Gweinidog y Diwydiannau Creadigol, Jack Sargeant: "Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris yn ysbrydoli ac yn uno, gan ddod â straeon yn fyw sydd nid yn unig yn adlewyrchu amrywiaeth y byd sydd ohoni ond hefyd amrywiaeth y cymunedau LHDTQ+ yma ledled Cymru. "Wrth i'r ŵyl lansio ar gyfer 2024, rydym yn gyffrous i allu cefnogi Iris am flwyddyn arall a bod yn dyst i dalent anhygoel gwneuthurwyr ffilm - yn dychwelyd ac yn newydd - a fydd yn rhannu eu lleisiau, yn hyrwyddo newid ac yn grymuso eraill trwy greadigrwydd o'r fath."
Eleni, mae gennym 13 ffilm nodwedd wych o Awstralia, Brasil, y DU, Canada, UDA, Gwlad Groeg, yr Ariannin, Gwlad Belg a'r Iseldiroedd, a Philippines. Dyma flas o dair ffilm wahanol iawn:
- Last ExMas, cyfarwyddwyd gan Sarah Rotella. Canada. 2024. 88 munud. (Saesneg)
- Life of Riley, cyfarwyddwyd gan Jacquie Lawrence. DU. 2024. 90 munud. (Saesneg)
- Sunflower, cyfarwyddwyd gan Gabriel Carrubba. Awstralia. 2023. 84 munud. (Saesneg, dim isdeitlau)
Mae yna lawer o ffyrdd i fwynhau Iris, p'un a ydych chi gyda ni am noson, penwythnos neu'r ŵyl gyfan ac mae myfyrwyr yn derbyn gostyngiad arbennig ar gyfer yr holl ddangosiadau ffilmiau nodwedd a ffilmiau byrion. Mae'n bleser gennym gyhoeddi dychweliad Iris Ar-lein, gan ddod â hud ffilm fer yr ŵyl i'ch sgrin eich hun. Rhwng 9 Hydref a 31 Hydref, gallwch ymdrochi eich hun ym mhrofiad Iris o gysur eich cartref. Mae ein tocynnau a'n pasiau i gyd ar gael i'w prynu ar-lein nawr – irisprize.org/2024-box-office – neu yn wyneb yn wyneb o ganolfan yr ŵyl yn Plaza’r Stadiwm drwy gydol yr ŵyl o 3pm ddydd Mawrth 8 Hydref.
- Pas Gŵyl Llawn – Pris Llawn: £140
- Pas Penwythnos – Pris Llawn: £90
- Pas Diwrnod - £30
- Pas Ar-lein - £10
- Noson Agoriadol: £15 / £14
- Gig: £12 / £11
- Rhaglenni Ffilmiau Nodwedd: £8 / £7
- Rhaglenni Ffilmiau Byrion: £7 / £6
- Sioe Wobrwyo: £15 / £14
- Y Disco Distaw: £5 / £4
- Vue Caerdydd – Prif Leoliad a Chanolfan yr Ŵyl
- Plaza’r Stadiwm, Stryd Wood, Caerdydd CF10 1LA
- Canolfan Gelfyddydau Chapter
- Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE
- Theatr Atriwm PDC
- Prifysgol De Cymru, Stryd Adam, Caerdydd CF24 2FN
Am wybodaeth fanwl am fynediad gweler ein gwefan irisprize.org/access neu e-bostiwch ni yn access@irisprize.org