Mis-Angel directed by Wyatt Carson wins the inaugural Iris Prize Student Short Film Award 2026

• The new award for film students was launched to celebrate the 20th anniversary of the Iris Prize
• The Iris Prize Student Short Film Award is open to any students currently enrolled in a film, media, or related course (UK & Ireland)
• Six shortlisted films were shown during Iris Week and are eligible for the Iris Prize Co-op Audience Award via Iris Online
• The winner was announced on Thursday 15 October after Industry Day
• “The creativity, assurance and ambition shown by these filmmakers is a powerful reminder of why championing emerging talent remains central to our work.” Berwyn Rowlands
The organisers of the Iris Prize LGBTQ+ Film Festival – a celebration of global stories and Cardiff charm are thrilled to announce that Wyatt Carson has won the inaugural Iris Prize Student Short Film Award for Mis-Angel. The award was presented to the winner by Kieron Moore - star of Blue Film, one of the feature films showing this week - after Industry Day closed.
Mis-Angel is a love story between two people who will never meet. A transgender girl explores an overlap of gender and sexual fantasy as she recalls a brief interaction with a stranger at a bus stop.
The jury included Tom Cullen as Jury Emma Obank from Bad Wolf, and Ronke Adekoluejo, winner of the 2025 Best Performance in a Female Role award for Dreamers. This is what they had to say about Mis-Angel: “A beautiful and original animation. Delightfully atmospheric storytelling full of wit and elegance that leaves the viewer with an aching sense of longing. A truly poetic portrayal of fleeting love, identity and connection.”

Originally from Lawrence, Kansas, Wyatt Carson (Royal College of Art MA '25) works in stop-motion animation, printmaking, painting and poetry. Carson's art practice embraces experimentation, curiosity, and imperfection. Various exhibitions and festivals have included Carson’s work, most notably the Annecy Festival in France, and the John Ruskin Prize in London (Kate Mason Prize For Innovation).
Iris Prize Festival Director Berwyn Rowlands said: “We’re thrilled to present this inaugural award at the close of today’s Industry Day, surrounded by so many members of the storytelling community. The response has been nothing short of remarkable — submissions far exceeded expectations and revealed just how much exciting new talent is emerging across the UK and beyond. “Our sincere thanks go to the preselection jury, who faced the difficult task of narrowing an exceptional field down to six shortlisted films. The standard has been extraordinary. The creativity, assurance and ambition shown by these filmmakers is a powerful reminder of why championing emerging talent remains central to our work.”

Full details about Iris can be found here: www.irisprize.org


The Iris Prize LGBTQ+ Film Festival is supported by the BFI National Lottery Audience Projects Fund, awarding National Lottery Good Cause funding.
The main festival sponsors are: The Michael Bishop Foundation; Creative Wales, a Welsh Government agency that supports the creative sectors in Wales; the BFI awarding funds from The National Lottery; Ffilm Cymru Wales; Film4; University of South Wales; Co-op Respect; Ymddiried - Media Grants Cymru, Bad Wolf; S4C; Gorilla Group; Pinewood Studios; Attitude Magazine; Diva Magazine; Movie Marker; The Ministry Venues, British Council Wales, and Transport for Wales. The festival also works in partnership BAFTA Cymru, Pride Cymru, and Visit Cardiff.

Mis-Angel - a gyfarwyddwyd gan Wyatt Carson - yn ennill Gwobr Ffilm Fer Myfyrwyr

  • Lansiwyd y wobr newydd hon ar gyfer myfyrwyr ffilm i ddathlu 20fed pen-blwydd yr Iris Prize
  • Mae Gwobr Ffilm Fer Myfyrwyr Gwobr Iris yn agored i unrhyw fyfyriwr sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd ar gwrs ffilm, cyfryngau neu gwrs cysylltiedig (y DU ac Iwerddon)
  • Dangoswyd chwe ffilm a oedd ar y rhestr fer yn ystod Wythnos Iris, ac maent yn gymwys ar gyfer Gwobr Cynulleidfa Co-op Iris Prize drwy Iris Ar-lein
  • Cyhoeddwyd yr enillydd ddydd Iau 15 Hydref yn dilyn Diwrnod Diwydiant
  • “Mae’r creadigrwydd, yr hyder a’r uchelgais a ddangoswyd gan y gwneuthurwyr ffilm hyn yn ein hatgoffa’n bwerus pam fod cefnogi talent sy’n dod i’r amlwg yn parhau i fod yn ganolog i’n gwaith.” Berwyn Rowlands
  • Mae trefnwyr Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris – dathlu straeon byd-eang a swyn Caerdydd wrth eu bodd yn cyhoeddi bod Wyatt Carson wedi ennill Gwobr Ffilm Fer Myfyrwyr Gwobr Iris gyntaf erioed am Mis-Angel. Cyflwynwyd y wobr i’r enillydd gan Kieron Moore – seren Blue Film, un o’r ffilmiau nodwedd sy’n cael eu dangos yr wythnos hon – ar ôl i’r Diwrnod Diwydiant ddod i ben.

Mae Mis-Angel yn stori gariad rhwng dau berson na fyddant byth yn cwrdd. Mae merch drawsryweddol yn archwilio’r croestoriad rhwng rhywedd a ffantasi rhywiol wrth iddi gofio cyfarfyddiad byr ag estron wrth safle bws.
Roedd y panel beirniaid yn cynnwys Tom Cullen, Emma Obank o Bad Wolf, a Ronke Adekoluejo, enillydd gwobr y Perfformiad Gorau mewn Rôl Fenywaidd yn 2025 am Dreamers. Dyma oedd ganddynt i’w ddweud am Mis-Angel: “Animeiddiad hardd a gwreiddiol. Stori sy’n creu awyrgylch hyfryd, yn llawn ffraethineb ac urddas, ac sy’n gadael y gwyliwr gyda theimlad dwfn o hiraeth. Portread gwirioneddol farddonol o gariad byrhoedlog, hunaniaeth a chysylltiad.”
Yn wreiddiol o Lawrence, Kansas, mae Wyatt Carson (MA Coleg Brenhinol y Celfyddydau '25) yn gweithio mewn animeiddio stop-symudiad, gwneud printiau, peintio a barddoniaeth. Mae arfer celf Carson yn cofleidio arbrofi, chwilfrydedd ac amherffeithrwydd. Mae amryw o arddangosfeydd a gwyliau wedi cynnwys gwaith Carson, yn fwyaf nodedig Gŵyl Annecy yn Ffrainc, a Gwobr John Ruskin yn Llundain (Gwobr Kate Mason am Arloesedd).
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris: “Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno’r wobr gyntaf hon ar ddiwedd Diwrnod Diwydiant heddiw, yng nghwmni cymaint o aelodau o’r gymuned adrodd straeon. Mae’r ymateb wedi bod yn rhyfeddol – roedd nifer y ceisiadau yn llawer uwch na’r disgwyl ac yn dangos cymaint o dalent newydd gyffrous sy’n dod i’r amlwg ledled y DU a thu hwnt. “Hoffem ddiolch yn ddiffuant i’r panel dethol rhagarweiniol, a wynebodd y dasg anodd o leihau maes eithriadol o gystadleuwyr i chwe ffilm ar y rhestr fer. Mae’r safon wedi bod yn anhygoel. Mae’r creadigrwydd, yr hyder a’r uchelgais a ddangoswyd gan y gwneuthurwyr ffilm hyn yn ein hatgoffa’n bwerus pam fod cefnogi talent sy’n dod i’r amlwg yn parhau i fod yn ganolog i’n gwaith.”

Cefnogir Gŵyl Ffilmiau LHDTQ+ Gwobr Iris gan Gronfa Prosiectau Cynulleidfa'r BFI (Loteri Genedlaethol), sy'n dyfarnu cyllid Loteri Genedlaethol ar gyfer Achosion Da.


Prif noddwyr yr ŵyl yw: Sefydliad Michael Bishop; Cymru Greadigol, un o asiantaethau Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi'r sectorau creadigol yng Nghymru; y BFI sy'n dyfarnu arian gan y Loteri Genedlaethol; Ffilm Cymru Wales; Film4; Prifysgol De Cymru; Co-op Respect; Ymddiried - Media Grants Cymru; Bad Wolf; S4C; Grŵp Gorilla; Pinewood Studios; Cylchgrawn Attitude; Cylchgrawn Diva; Movie Marker; The Ministry Venues; Trafnidiaeth Cymru; a Chyngor Prydeinig Cymru. Mae'r ŵyl hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â BAFTA Cymru, Pride Cymru a Croeso Caerdydd.