Pride Month arrives, and Iris is out on the road again

• Pride Month is a chance for Iris to get out and about, showcasing talent, and reaching her audience in person
• Teth at Tafwyl, this weekend – an Iris first at the Cardiff-based Welsh language two-day festival
• Iris will visit Pride Cymru and will host a pre-Pride supper on 19 June
Berwyn & Leo on Stage
It is June, Pride Month.  The team behind the Iris Prize LGBTQ+ Film Festival – celebrating global stories and Cardiff charm, supported by The Michael Bishop Foundation, have been busy bees, organising a summer of events which lead us to the opening night of the 19th edition of the festival on Monday 13 October 2025.  This is the first time the Cardiff-based international film festival will run for a full week.
Berwyn Rowlands, Iris Prize Film Festival Director said: “2025 has been a busy year for Team Iris and June is no different. Pride Month is one of the highlights of the year where we can showcase some of the best LGBTQ+ stories to new audiences as organisations and businesses focus on diversity.  It is also an opportunity for us to publicise the Iris Prize LGBTQ+ Film Festival and the wonderful stories that we will be sharing between 13 and 19 October.”

Get Full Pass

This weekend (Sunday 15 June) sees the screening of one of the Welsh language opening night films from IRIS24 – the S4C-commissioned Trans comedy Teth – at Tafwyl, Cardiff’s Welsh language festival of arts and music.  There will be a Q&A following the screening with Leo Drayton, the writer and lead actor in Teth, and Iris Prize Film Festival Director Berwyn Rowlands on Sunday evening at 6pm at S4C’s stand.
Team Iris will be visiting Pride Cymru (21 and 22 June), this year facilitating workshops over the two days in the Youth Tent in the Family Area.  Seth Edmonds from Iris be hosting the event which will also see one of the films from a previous edition of the festival being shown. And as a friendly warm-up to Pride, Iris is hosting a pre-Pride supper for Iris members and friends at Pizza Express, Cardiff High Street on Thursday 19 June at 7pm.

Tickets are £25 per person and are available from https://irisevents.eventive.org/schedule/6821b6e744c0b170c01fca91


Iris goes back on the road this June as Iris on the Move (sponsored by S4C) continues into the summer, celebrating Pride on the big screen in Wales and in Oxford.  Here is what we have on offer:
  • 21 June – A selection of Welsh shorts at Rhys Prichard Memorial Hall, Llandovery
  • 22 June – Comedy Central programme at The Welfare, Ystradgynlais
  • 24 June – Best of Iris 2024 at UPP Cinema, Oxford
  • 29 June – Teth + Q&A with Leo Drayton at Llansteffan Pride
Berwyn Rowlands continued: “July sees us ramp up the countdown to the 19th edition of the Iris Prize as we reveal the shortlist for the Best British Short Films sponsored by Film4 and Pinewood Studios at our annual Best British Announcement and Summer Reception at Stadium Plaza on Saturday 26 July, between 2 and 6pm. “We hope that you can join us at some point over the summer and remember that our Industry Day Passes - a key event during Iris Week for media professionals focused on content creation - and are now on sale.  We are very excited to be welcoming Dawn Airey (Channel 4, Channel 5, BskyB, ITV) as our keynote speaker.”

Iris Prize will return this year: Monday 13 October – Sunday 19 October 2025. Iris Online will be available across the UK from 14 October to 7 November 2025.


Mae Mis Pride yma, ac mae Iris ar Grwydr eto

  • Mae Mis Pride yn gyfle i Iris grwydro, arddangos talent, a chyrraedd ei chynulleidfa yn wyneb yn wyneb
  • Teth yn Tafwyl, y penwythnos hwn – tro cyntaf i Iris ymweld ag ŵyl iaith Gymraeg ddeuddydd yng Nghaerdydd
  • Bydd Iris yn ymweld â Pride Cymru ac yn cynnal swper cyn-Pride ar 19 Mehefin
Wele fis Mehefin, a Mis Pride. Mae'r tîm y tu ôl i Ŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris – dathlu straeon byd-eang a swyn Caerdydd, gyda chefnogaeth Sefydliad Michael Bishop, wedi bod yn brysur yn trefnu haf o ddigwyddiadau a fydd yn ein harwain at noson agoriadol 19eg rhifyn yr ŵyl ddydd Llun 13 Hydref 2025. Dyma'r tro cyntaf i'r ŵyl ffilm ryngwladol yng Nghaerdydd redeg am wythnos gyfan.
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Gwobr Iris: “Mae 2025 wedi bod yn flwyddyn brysur i Dîm Iris ac nid yw Mehefin yn wahanol. Mae Mis Pride yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn lle gallwn arddangos rhai o'r straeon LHDTQ+ gorau i gynulleidfaoedd newydd wrth i fudiadau a busnesau ganolbwyntio ar amrywiaeth. Mae hefyd yn gyfle i ni roi cyhoeddusrwydd i Ŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris a'r straeon gwych y byddwn yn eu rhannu rhwng 13 a 19 Hydref.”
Y penwythnos hwn (dydd Sul 15 Mehefin) gwelir dangosiad o un o ffilmiau noson agoriadol IRIS24 yn y Gymraeg – y gomedi Draws, Teth, a gomisiynwyd gan S4C – yn Tafwyl, gŵyl gelfyddydau a cherddoriaeth Gymraeg Caerdydd. Bydd sesiwn holi ac ateb ar ôl y dangosiad gyda Leo Drayton, yr awdur a'r prif actor yn Teth, a Chyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Gwobr Iris, Berwyn Rowlands, nos Sul am 6pm ar stondin S4C. Bydd Tîm Iris yn ymweld â Pride Cymru (21 a 22 Mehefin), gan hwyluso gweithdai dros y ddau ddiwrnod ym Mhabell yr Ieuenctid yn yr Ardal Deuluol eleni. Seth Edmonds o Iris fydd yn cynnal y digwyddiad a fydd hefyd yn gweld un o ffilmiau o rifyn blaenorol o'r ŵyl yn cael ei dangos. Ac i godi hwyl ar gyfer Pride, mae Iris yn cynnal swper cyn-Pride i aelodau a ffrindiau Iris yn Pizza Express, Stryd Fawr Caerdydd ddydd Iau 19 Mehefin am 7pm.

Mae tocynnau'n £25 y pen ac maent ar gael o https://irisevents.eventive.org/schedule/6821b6e744c0b170c01fca91


Mae Iris yn mynd am dro ym mis Mehefin wrth i Iris ar Grwydr (a noddir gan S4C) barhau i mewn i'r haf, gan ddathlu Pride ar y sgrin fawr yng Nghymru ac yn Rhydychen. Dyma beth sydd gennym i'w gynnig:
  • 21 Mehefin – Detholiad o ffilmiau byrion Cymreig yn Neuadd Goffa Rhys Prichard, Llanymddyfri
  • 22 Mehefin – Rhaglen Comedy Central yn The Welfare, Ystradgynlais
  • 24 Mehefin – Goreuon Iris 2024 yn Sinema UPP, Rhydychen
  • 29 Mehefin – Teth + sesiwn Holi ac Ateb gyda Leo Drayton yn Llansteffan Pride
Parhaodd Berwyn Rowlands: “Ym mis Gorffennaf, byddwn yn cyflymu’r cyfri’n ôl i 19eg rhifyn Gwobr Iris wrth i ni gyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer y Ffilmiau Byrion Gorau Ym Mhrydain a noddir gan Film4 a Pinewood Studios yn ein Cyhoeddiad Gorau Ym Mhrydain blynyddol a Derbyniad Haf yn Stadium Plaza ddydd Sadwrn 26 Gorffennaf, rhwng 2 a 6pm. “Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni rywbryd dros yr haf, a chofiwch fod ein Tocynnau Diwrnod Diwydiant - digwyddiad allweddol yn ystod Wythnos Iris ar gyfer gweithwyr proffesiynol y cyfryngau sy’n canolbwyntio ar greu cynnwys - ar werth nawr. Rydym yn gyffrous iawn i groesawu Dawn Airey (Channel 4, Channel 5, BskyB, ITV) fel ein siaradwr cyweirnod.”

Bydd Gwobr Iris yn dychwelyd eleni: Dydd Llun 13 Hydref – Dydd Sul 19 Hydref 2025. Gellir dod o hyd i fanylion llawn am Wobr Iris yma: www.irisprize.org