Paul Smith is an experienced film publicist who has been working tirelessly for more than four decades to encourage audiences to watch films, particularly LGBTQ+ content. From early days in Edinburgh on the press desk at the Edinburgh International Film Festival, to staff roles with independent distributors, Paul has shared his passion succeeding in delivering audiences and coverage for diverse projects, despite the significant and increasing challenges of film marketing. Paul’s journey has taken him from Scotland, via Wales to London as he is awarded with the Iris Prize Fellowship.
Tom Abell, Managing Director of Peccadillo Pictures, and Chair of the Iris Prize, said: “I can't think of a more deserving person to receive this, the third Iris Prize Fellowship. Paul is one of the many unsung heroes whose tireless work behind the scenes is an essential part of bringing the work of LGBTQ+ filmmakers to audiences across the UK. I have worked with Paul on countless projects and know firsthand what a remarkable professional he is. “Through the Iris Prize Fellowship, we aim to recognise those whose longstanding and continued work has helped shape diversity in film and TV, where their visibility can inspire and encourage the next generation.”
Paul Smith, Iris Prize Fellow, said: “Having spent a seeming lifetime with film - whether as a spectator, a journalist, a lecturer or an industry professional - I have never in my wildest dreams imagined that such dedication would be rewarded. A publicist never seeks the spotlight and yet it is one of the many indispensable, invisible roles when communicating with a wider public. I feel honoured that my role in this has been recognised with the Iris Prize Fellowship.
“Whilst I enjoy blockbusters, I’ve always preferred to concentrate on promoting an appreciation of LGBTQ+ cinema alongside genre films and world cinema. Without big marketing budgets. maintaining relationships between filmmakers, journalists, venues and significantly, community groups have, for me, been of paramount importance. There are real rewards when interacting with people face-to-face, not just in forming lasting friendships but also in enhancing a sense of more positive sense of well-being. The ways we watch film and share our experiences through social media may be forever evolving but that only broadens the range of storytelling to appreciate.
“I have been involved with the Iris Prize since its very first year, watching it grow and mature, nurturing many international queer filmmakers in their careers but also bringing everyone together to share a love of film in a social environment, creating a real sense of family. I’m sure it will be a truly memorable 20th anniversary celebration year.
“In accepting this Fellowship, I feel I also want to acknowledge all the colleagues who work equally hard behind the scenes as unsung heroes without seeking personal gain but all looking out for each other.
“For this reason, I feel I must pay tribute to two people I knew who no longer with us. David Freed, my mentor and dear friend at Tartan Films and Lewis Tice, a cherished cheerleader for Iris over in the States deserve to recognised for their dedication to film promotion too. “Thank you, Berwyn Rowlands and the Iris Prize team, for a gift that I will treasure more than any Oscar.”
The acclaimed writer and director Mark Cousins sent Paul this message of congratulations: “I'd like to offer my sincere congratulations to you, Paul, for winning the Iris Prize Fellowship. We met in Edinburgh in the 90s and you're just one of the nicest people I've ever worked with. You're a wonderful creative human being and I love you.”
The Iris Prize Fellowship is presented in recognition of individuals who have made a significant and lasting contribution to the UK film industry, with a particular emphasis on championing LGBTQ+ stories and voices. This award exists to celebrate these unsung heroes of the film industry; shining a spotlight on extraordinary people whose passion, dedication, and tenacity may not always be acknowledged by the traditional award ceremonies. Previous recipients are Tom Abell and Jacquie Lawrence, whose work has helped shape and champion LGBTQ+ storytelling on screen.
Full details about Iris can be found here: www.irisprize.org
Iris Prize will return in 2026 for the 20th edition on Monday 12 October until Sunday 18 October.
Dyfarnu trydedd Gymrodoriaeth Gwobr Iris i Paul Smith, newyddiadurwr ffilm profiadol sy'n derbyn y Gymrodoriaeth hon yn Llundain heno
- Dathlu dechrau 20fed pen-blwydd gŵyl ffilm fawreddog Caerdydd
- Cymrodoriaeth Gwobr Iris yw ein ffordd ni o ddathlu'r arwyr sy'n aml yn anhysbys ac sy'n sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael profi straeon a lleisiau LHDTQ+ amrywiol ar y sgrin
Mae trefnwyr Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris – dathlu straeon byd-eang a swyn Caerdydd – wrth eu bodd yn cyhoeddi bod trydedd Gymrodoriaeth Gwobr Iris yn cael ei chyflwyno heno (30 Ionawr 2026) i Paul Smith, yng nghartref blaenllaw eu partneriaid sinema, Vue Leicester Square.
Mae Paul Smith yn swyddog cyhoeddusrwydd ffilm profiadol sydd wedi bod yn gweithio’n ddiflino ers dros bedwar degawd i annog cynulleidfaoedd i wylio ffilmiau, yn enwedig cynnwys LHDTQ+. O’i ddyddiau cynnar yng Nghaeredin ar ddesg y wasg yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin, i rolau staff gyda dosbarthwyr annibynnol, mae Paul wedi rhannu ei angerdd dros lwyddo i ddarparu cynulleidfaoedd a sylw ar gyfer prosiectau amrywiol, er gwaethaf yr heriau sylweddol a chynyddol o farchnata ffilmiau. Mae taith Paul wedi mynd ag ef o’r Alban, trwy Gymru i Lundain wrth iddo gael ei gyflwyno â Chymrodoriaeth Gwobr Iris.
Dywedodd Tom Abell, Rheolwr Gyfarwyddwr Peccadillo Pictures, a Chadeirydd Gwobr Iris: “Alla i ddim meddwl am berson mwy haeddiannol i dderbyn hwn, trydedd Gymrodoriaeth Gwobr Iris. Mae Paul yn un o’r nifer o arwyr tawel y mae eu gwaith diflino y tu ôl i’r llenni yn rhan hanfodol o ddod â gwaith gwneuthurwyr ffilmiau LHDTQ+ i gynulleidfaoedd ledled y DU. Rwyf wedi gweithio gyda Paul ar brosiectau dirifedi ac yn gwybod o brofiad personol pa mor broffesiynol rhyfeddol ydyw. “Trwy Gymrodoriaeth Gwobr Iris, ein nod yw cydnabod y rhai y mae eu gwaith hirhoedlog a pharhaus wedi helpu i lunio amrywiaeth mewn ffilm a theledu, lle gall eu gwelededd ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf.”
Dywedodd Paul Smith, Cymrawd Gwobr Iris: “Ar ôl treulio oes gyda ffilm - boed fel gwyliwr, newyddiadurwr, darlithydd neu weithiwr proffesiynol yn y diwydiant - nid wyf erioed yn fy mreuddwydion gwylltaf wedi dychmygu y byddai ymroddiad o'r fath yn cael ei wobrwyo. Nid yw swyddogion cyhoeddusrwydd byth yn ceisio'r sylw ac eto mae'n un o'r nifer o rolau anhepgor, anweledig wrth gyfathrebu â'r cyhoedd ehangach. Rwy'n teimlo'n anrhydeddus bod fy rôl yn hyn wedi'i chydnabod gyda Chymrodoriaeth Gwobr Iris.
“Er fy mod yn mwynhau ffilmiau mawr, rwyf bob amser wedi ffafrio canolbwyntio ar hyrwyddo gwerthfawrogiad o sinema LHDTQ+ ochr yn ochr â ffilmiau genre a sinema'r byd. Heb gyllidebau marchnata mawr, mae cynnal perthnasoedd rhwng gwneuthurwyr ffilmiau, newyddiadurwyr, lleoliadau ac yn arwyddocaol, grwpiau cymunedol, i mi, wedi bod o'r pwys mwyaf. Mae gwobrau go iawn wrth ryngweithio â phobl wyneb yn wyneb, nid yn unig wrth ffurfio cyfeillgarwch parhaol ond hefyd wrth wella ymdeimlad o lesiant mwy cadarnhaol. Gall y ffyrdd rydym yn gwylio ffilm ac yn rhannu ein profiadau trwy gyfryngau cymdeithasol fod yn esblygu'n barhaus ond dim ond ehangu'r ystod o adrodd straeon i'w gwerthfawrogi y mae hynny.
“Rwyf wedi bod yn rhan o Wobr Iris ers ei blwyddyn gyntaf un, gan ei gwylio’n tyfu ac yn aeddfedu, gan feithrin llawer o wneuthurwyr ffilmiau rhyngwladol hoyw yn eu gyrfaoedd ond hefyd gan ddod â phawb ynghyd i rannu cariad at ffilm mewn amgylchedd cymdeithasol, gan greu ymdeimlad gwirioneddol o deulu. Rwy’n siŵr y bydd yn flwyddyn ddathlu pen-blwydd yn 20 oed wirioneddol gofiadwy.
“Wrth dderbyn y Gymrodoriaeth hon, rwy’n teimlo fy mod hefyd eisiau cydnabod yr holl gydweithwyr sy’n gweithio’r un mor galed y tu ôl i’r llenni fel arwyr tawel heb geisio elw personol ond i gyd yn gofalu am ei gilydd.
“Am y rheswm hwn, rwy’n teimlo bod yn rhaid i mi dalu teyrnged i ddau berson roeddwn i’n eu hadnabod nad ydynt gyda ni mwyach. Mae David Freed, fy mentor a’m ffrind annwyl yn Tartan Films a Lewis Tice, un o gefnogwyr mwyaf annwyl Iris yn yr Unol Daleithiau, yn haeddu cael eu cydnabod am eu hymroddiad i hyrwyddo ffilmiau hefyd. “Diolch i chi, Berwyn Rowlands a thîm Gwobr Iris, am anrheg y byddaf yn ei thrysori fwy nag unrhyw Oscar.”
Anfonodd yr awdur a’r cyfarwyddwr clodwiw Mark Cousins y neges longyfarch hon at Paul: “Hoffwn gynnig fy llongyfarchiadau diffuant i ti, Paul, am ennill Cymrodoriaeth Gwobr Iris. Fe wnaethon ni gyfarfod yng Nghaeredin yn y 90au ac rwyt ti’n un o’r bobl fwyaf caredig rydw i erioed wedi gweithio gyda nhw. Rwyt ti’n fod dynol creadigol rhyfeddol ac rydw i’n dy garu di.”
Cyflwynir Cymrodoriaeth Gwobr Iris i gydnabod unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol a pharhaol i ddiwydiant ffilm y DU, gyda phwyslais arbennig ar hyrwyddo straeon a lleisiau LHDTQ+. Mae'r wobr hon yn bodoli i ddathlu'r arwyr tawel hyn o'r diwydiant ffilm; gan daflu goleuni ar bobl eithriadol nad yw eu hangerdd, eu hymroddiad a'u dygnwch bob amser yn cael eu cydnabod gan y seremonïau gwobrwyo traddodiadol. Y derbynwyr blaenorol yw Tom Abell a Jacquie Lawrence, y mae eu gwaith wedi helpu i lunio a hyrwyddo adrodd straeon LHDTQ+ ar y sgrin.
Bydd Gwobr Iris yn dychwelyd yn 2026 am yr 20fed rhifyn ddydd Llun 12 Hydref tan ddydd Sul 18 Hydref. Mae’r wyl yn derbyn ceisiadau ar gyfer y gwobrau nawr.