Harrison Williams said: "I've been working with the team that produces the Iris Prize for nearly ten years and consider myself part of the Iris family. They have an informal and relaxed approach to work, which I enjoy. “However, the need for excellence is paramount, especially when you consider what Iris is all about. I'm proud of my work as the Content Producer at Iris and being given the chance to lead on the Pink Portraits with BBC Cymru Wales, in this our 20th anniversary year, is the perfect celebration."
This year, we are also delighted to announce a new opportunity for an early-career photographer based in Wales to work alongside Harrison as an Assistant Photographer. This is an opportunity for those at the beginning of their photography journey to have an open dialogue with Harrison as he works and get involved in assisting. This opportunity is open to all early career photographers currently based in Wales who identify as LGBTQ+ or who are supporters and allies of the community.
For more information and to enter please visit this link:
https://www.ffotogallery.org/opportunities/pink-portraits-2026-assistant-photographer
Submissions are open from 9am on Tuesday 24 February 2026.
Deadline for submissions is 5pm Tuesday 10 March. The successful applicant will be informed in early March.
In Iris' 20th Anniversary year, we are partnering with BBC Cymru Wales to photograph LGBTQ+ individuals working there, in a celebration of their identities as both a member of the LGBTQ+ community and BBC staff. This follows the success of previous iterations of the project with Bad Wolf in 2025, and Transport for Wales in 2024.
Iris Prize Festival Director Berwyn Rowlands said: “This is a wonderful opportunity for an individual to gain experience and learn from Harrison Williams, an accomplished creative who has been a key part of Team Iris for almost ten years. “The Pink Portraits have become an important part of the Iris Prize portfolio, and in this our 20th anniversary year together with BBC Cymru Wales, they are key part of the 2026 celebrations. "This is truly a once in a lifetime opportunity."
Garmon Rhys, Director BBC Cymru Wales said: “Through the Pink Portraits 2026, BBC Cymru Wales and the Iris Prize will celebrate the diversity of the BBC in Wales. We’re so pleased to be working with the Iris Prize in its twentieth year and look forward to seeing how the project develops over the next twelve months.”Pink Portraits 2026 will be the fourth year of the second iteration of the project, which was initially launched in 2010. The Iris Prize, together with the UK Film Council, commissioned celebrated Scottish portrait photographer, Donald MacLellan to photograph 20 gay and lesbian professionals working in front and behind the lens. They included Simon Callow, Terence Davies, Stephen Fry, Phyllida Lloyd, Mark Gatiss, Briony Hanson, Sean Mathias, Sir Ian McKellen, Berwyn Rowlands, Sophie Ward and Sir Antony Sher.
Pink Portraits
Full details about Iris can be found here: www.irisprize.org
Iris Prize will return in 2026 for the 20th edition on Monday 12 October until Sunday 18 October.
Submissions are now open.
Enwi Harrison Williams fel ffotograffydd ar gyfer Portreadau Pinc Gwobr Iris 2026 mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales
- Galw am ffotograffydd gyrfa gynnar sydd wedi'i leoli yng Nghymru i weithio ochr yn ochr â Harrison fel Ffotograffydd Cynorthwyol
- “Mae'r Portreadau Pinc wedi dod yn rhan bwysig o bortffolio Gwobr Iris, ac yn ein blwyddyn pen-blwydd yn 20 oed hon, ynghyd â BBC Cymru Wales, maent yn rhan allweddol o ddathliadau 2026.” Berwyn Rowlands
- “Trwy'r Portreadau Pinc 2026, bydd BBC Cymru Wales a Gwobr Iris yn dathlu amrywiaeth y BBC yng Nghymru.” Garmon Rhys
Dywedodd Harrison Williams: "Rydw i wedi bod yn gweithio gyda'r tîm sy'n cynhyrchu Gwobr Iris ers bron i ddeng mlynedd ac yn ystyried fy hun yn rhan o deulu Iris. Mae ganddyn nhw ddull anffurfiol a hamddenol o weithio, rhywbeth rydw i'n ei fwynhau. “Fodd bynnag, mae'r angen am ragoriaeth yn hollbwysig, yn enwedig pan ystyriwch chi beth yw hunaniaeth Iris. Rydw i'n falch o fy ngwaith fel Cynhyrchydd Cynnwys yn Iris ac mae cael y cyfle i arwain ar y Portreadau Pinc gyda BBC Cymru Wales, yn ein blwyddyn pen-blwydd yn 20 oed, yn ddathliad perffaith."
Eleni, rydym hefyd yn falch iawn o gyhoeddi cyfle newydd i ffotograffydd gyrfa gynnar sydd wedi'i leoli yng Nghymru weithio ochr yn ochr â Harrison fel Ffotograffydd Cynorthwyol. Mae hwn yn gyfle i'r rhai sydd ar ddechrau eu taith ffotograffiaeth gael deialog agored gyda Harrison wrth iddo weithio, a chymryd rhan mewn cynorthwyo. Mae'r cyfle hwn ar agor i bob ffotograffydd gyrfa gynnar sydd wedi'i leoli yng Nghymru ar hyn o bryd, sy'n uniaethu fel LHDTQ+ neu sy'n gefnogwyr a chynghreiriaid y gymuned.
Am ragor o wybodaeth ac i gynnig ewch i'r ddolen hon:
https://www.ffotogallery.org/opportunities/pink-portraits-2026-assistant-photographer
Mae cyflwyniadau ar agor o 9am ddydd Mawrth 24 Chwefror 2026. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw 5pm ddydd Mawrth 10 Mawrth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael gwybod ddechrau mis Mawrth.
Ym mlwyddyn pen-blwydd Iris yn 20 oed, rydym yn partneru â BBC Cymru Wales i dynnu lluniau o unigolion LHDTQ+ sy'n gweithio yno, i ddathlu eu hunaniaethau fel aelodau o'r gymuned LHDTQ+ a staff y BBC. Mae hyn yn dilyn llwyddiant rhifynnau blaenorol o'r prosiect gyda Bad Wolf yn 2025, a Thrafnidiaeth i Gymru yn 2024.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris, Berwyn Rowlands: “Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn ennill profiad a dysgu gan Harrison Williams, person creadigol dawnus sydd wedi bod yn rhan allweddol o Dîm Iris ers bron i ddeng mlynedd. “Mae'r Portreadau Pinc wedi dod yn rhan bwysig o bortffolio Gwobr Iris, ac yn ein blwyddyn pen-blwydd yn 20 oed hon, ynghyd â BBC Cymru Wales, maent yn rhan allweddol o ddathliadau 2026. "Mae hwn yn gyfle unwaith mewn oes go iawn."
Dywedodd Garmon Rhys, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales: “Drwy’r Portreadau Pinc 2026, bydd BBC Cymru Wales a Gwobr Iris yn dathlu amrywiaeth y BBC yng Nghymru. Rydym mor falch o fod yn gweithio gyda Gwobr Iris yn ei ugeinfed flwyddyn ac yn edrych ymlaen at weld sut mae’r prosiect yn datblygu dros y deuddeg mis nesaf.”
Portreadau Pinc 2026 fydd pedwerydd flwyddyn ail fersiwn y prosiect, a lansiwyd yn wreiddiol yn 2010. Comisiynodd Gwobr Iris, ynghyd â Chyngor Ffilm y DU, y ffotograffydd portreadau Albanaidd enwog, Donald MacLellan, i dynnu lluniau o 20 o weithwyr proffesiynol hoyw a lesbiaidd yn gweithio o flaen ac y tu ôl i’r lens. Roeddent yn cynnwys Simon Callow, Terence Davies, Stephen Fry, Phyllida Lloyd, Mark Gatiss, Briony Hanson, Sean Mathias, Syr Ian McKellen, Berwyn Rowlands, Sophie Ward a Syr Antony Sher.
Mae manylion llawn am Iris i'w cael yma: www.irisprize.org
Bydd Gwobr Iris yn dychwelyd yn 2026 am yr 20fed rhifyn ddydd Llun 12 Hydref tan ddydd Sul 18 Hydref. Mae’r wyl yn derbyn ceisiadau ar gyfer y gwobrau nawr.



