The Fund will award a single documentary film proposal a production grant of up to £20,000 for a 20-minute film. The subject of the chosen film must be British and LGBTQ+. Priority will be given to stories from or about communities traditionally underrepresented in UK productions. The Iris Prize team will work with the originator of the idea to produce the film. The finished film will be premiered at the 20th edition of the Iris Prize LGBTQ+ Film Festival in October 2026 and after a theatrical window be shown on OUTflix’s platforms worldwide.
The three shortlisted films are:
- Hidden in Conflict – Damian Kerlin
- Pan Trans True Romance - Amy Derrick
- Wear I Am – Vicky Morton
The shortlisted filmmakers will now attend an on-line workshop leading to a pitching session when shortlisted ideas will pitch for the commission. The successful project will be announced in September.
Angela Clarke, BAFTA-nominated documentary filmmaker who has been looking after the shortlisting process said: “As ever, it’s been great to see so many good documentary ideas being submitted for consideration to this years’ competition. I look forward to hearing more from our selected shortlist about their films.”
Philip Webb, COO of OUTtv, said: “The UK is packed with burgeoning storytellers, drawing on history, culture, religion, visibility and more – and this year's shortlist is a reflection of the incredible talent bringing queer narratives to screen. At OUTflix, documentary filmmaking is a key pillar of our programming as we look to represent all facets of the LGBTQ+ experience, and we're looking forward to gaining further insight into these powerful projects through the coming weeks.”
The fund has previously supported three projects championing underrepresented voices in the production of three 20 minute documentary films: Some Girls Hate Dresses (2022) explores Black filmmaker Mena Fombo’s experiences as a tom boy from Nigerian heritage growing up in the UK and rejecting the images of Black women from the US; Bender Defenders (2023) celebrates the queer Muy-Thai club that non-binary filmmaker Ira Putliova is a member of in east London; and the third project Jackie (2024) tells the story of Jackie Forster – the founder of the lesbian magazine Sappho, and was made by Emily Sargent. Emily’s film will premiere on opening night of IRIS25 on Monday 13 October.
Iris Prize 2025: Monday 13 October – Sunday 19 October 2025. Iris Online will be available across the UK from 14 October to 7 November 2025.
Passes for Industry Day – and the full festival - are now available, and include tickets to all in-person screenings for that day too (Iris Prize LGBTQ+ Film Festival 2025 | Iris Prize LGBTQ+ Film Festival 2025)
Gwobr Iris yn cyhoeddi rhestr fer o dair ar gyfer Cronfa Cyllid Ffilm Ddogfen
- Mae tri gwneuthurwr ffilm sy'n dod i'r amlwg wedi cyrraedd rhestr fer Cronfa Cyllid Ffilm Ddogfen Gwobr Iris a Noddir gan OUTflix a Phrifysgol De Cymru
- Bydd un gwneuthurwr ffilm yn cael y cyfle i weld perfformiad cyntaf ei ffilm ar noson agoriadol 20fed Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris ym mis Hydref 2026
- “Fel bob amser, mae wedi bod yn wych gweld cymaint o syniadau dogfen da yn cael eu cyflwyno i'w hystyried i gystadleuaeth eleni. Edrychaf ymlaen at glywed mwy gan ein rhestr fer ddethol am eu ffilmiau.” Angela Clarke, Gwobr Iris
- “Mae'r DU yn llawn storïwyr sy'n ffynnu, gan dynnu ar hanes, diwylliant, crefydd, gwelededd a mwy - ac mae rhestr fer eleni yn adlewyrchiad o'r dalent anhygoel sy'n dod â naratifau queer i'r sgrin.” Philip Webb, Prif Swyddog Gweithredu OUTtv
Bydd y Gronfa yn dyfarnu grant cynhyrchu hyd at £20,000 i un cynnig ffilm ddogfen am ffilm 20 munud. Rhaid i bwnc y ffilm a ddewisir fod yn Brydeinig ac yn LHDTQ+. Rhoddir blaenoriaeth i straeon o gymunedau sydd wedi'u tangynrychioli'n draddodiadol mewn cynyrchiadau'r DU, neu amdanynt. Bydd tîm Gwobr Iris yn gweithio gyda chreawdwr y syniad i gynhyrchu'r ffilm. Bydd y ffilm orffenedig yn cael ei dangos am y tro cyntaf yn 20fed rhifyn Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris ym mis Hydref 2026 ac ar ôl cyfnod theatrig caiff ei dangos ar lwyfannau OUTflix ledled y byd.
Dyma’r tair ffilm ar y rhestr fer:
- Hidden in Conflict – Damian Kerlin
- Pan Trans True Romance - Amy Derrick
- Wear I Am – Vicky Morton
Bydd y gwneuthurwyr ffilmiau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer nawr yn mynychu gweithdy ar-lein sy'n arwain at sesiwn cyflwyno lle bydd syniadau ar y rhestr fer yn cael eu cyflwyno ar gyfer y comisiwn. Cyhoeddir y prosiect llwyddiannus ym mis Medi.
Dywedodd Angela Clarke, gwneuthurwr ffilmiau dogfen a enwebwyd am BAFTA ac sydd wedi bod yn gofalu am y broses o lunio rhestr fer: “Fel bob amser, mae wedi bod yn wych gweld cymaint o syniadau dogfen da yn cael eu cyflwyno i'w hystyried i gystadleuaeth eleni. Edrychaf ymlaen at glywed mwy gan ein rhestr fer ddethol am eu ffilmiau.” Angela Clarke, Gwobr Iris.
Dywedodd Philip Webb, Prif Swyddog Gweithredu OUTtv: “Mae'r DU yn llawn storïwyr sy'n ffynnu, gan dynnu ar hanes, diwylliant, crefydd, gwelededd a mwy - ac mae rhestr fer eleni yn adlewyrchiad o'r dalent anhygoel sy'n dod â naratifau cwiar i'r sgrin.Yn OUTflix, mae gwneud ffilmiau dogfen yn rhan allweddol o’n rhaglennu wrth i ni geisio cynrychioli pob agwedd ar y profiad LHDTQ+, ac rydym yn edrych ymlaen at gael rhagor o fewnwelediad i’r prosiectau pwerus hyn yn ystod yr wythnosau nesaf.”
Mae’r gronfa eisoes wedi cefnogi tri phrosiect sy'n hyrwyddo lleisiau sydd wedi'u tangynrychioli wrth gynhyrchu tair ffilm ddogfen 20 munud: Some Girls Hate Dresses* (2022) yn archwilio profiadau'r gwneuthurwr ffilmiau Du Mena Fombo fel tomboy o dreftadaeth Nigeria yn tyfu i fyny yn y DU ac yn gwrthod delweddau menywod du o'r Unol Daleithiau; mae Bender Defenders (2023) yn dathlu'r clwb queer Muy-Thai y mae'r gwneuthurwr ffilmiau anneuaidd Ira Putliova yn aelod ohono yn nwyrain Llundain; ac mae’r trydydd prosiect Jackie (2024) yn adrodd stori Jackie Forster - sylfaenydd y cylchgrawn lesbiaidd Sappho, a gynhyrchwyd gan Emily Sargent. Bydd ffilm Emily yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar noson agoriadol IRIS25 ddydd Llun 13 Hydref.
Bydd Gwobr Iris yn dychwelyd eleni: Dydd Llun 13 Hydref – Dydd Sul 19 Hydref 2025. Gellir dod o hyd i fanylion llawn am Wobr Iris yma: www.irisprize.org
Mae tocynnau ar gyfer Diwrnod Diwydiant – a’r ŵyl gyfan – ar gael nawr, ac maent yn cynnwys tocynnau i bob dangosiad wyneb yn wyneb ar gyfer y diwrnod hwnnw hefyd. (Iris Prize LGBTQ+ Film Festival 2025 | Iris Prize LGBTQ+ Film Festival 2025)