LGBTQ+ short film ‘Oscars’ raise the curtain

• Six short films made in Wales premiere at Opening Night
• 36 short films make final cut for international Iris Prize
• 15 British short films in contention for Best British award
• 12 features showing, including 3 premieres
• Norway Focus retrospective to celebrate 50th anniversary of decriminalisation of male homosexuality in Norway
• ‘This is the moment during the festival when Wales shouts loud and proud to the world – look what we are, and here are our stories’
Tomorrow (Tuesday, 11 October), Cardiff’s premiere international LGBTQ+ short film festival - home of the £30,000 Iris Prize International Short Film Competition supported by The Michael Bishop Foundation - will raise the curtain to a fantastic six-day celebration of film, diversity, friendship, and competition, starting with the Opening Night event at Premiere Cinemas at 7pm.  The evening will be a showcase of Welsh talent as six new films are premiered, setting the scene for a feast of films for the coming days.  
Deputy Minister for Arts and Sport, Dawn Bowden, said: ‘I’m delighted that Creative Wales is able to support Iris Prize again this year. We are champions for inclusivity and diversity across the creative industries in Wales and are proud to support an initiative that showcases Welsh creative talent within the LGBTQ+ community and takes this to a global stage.  I’d like to wish participants the best of luck and congratulate them on their creative journeys so far.’
Organisers of the 16th edition of the Iris Prize LGBTQ+ Film Festival are preparing to host the biggest gathering of LGBTQ+ filmmakers, with 52 short films in competition throughout the festival as well as features, microshorts, community and education shorts, industry talks, and the annual education day.

Full details of programmes and showtimes can be found at Rhaglen / programme | Iris Prize (eventive.org).


Berwyn Rowlands, Iris Prize Film Festival Director said: ‘We are thrilled to be returning to a face-to-face festival this year and are excited to welcome filmmakers, guests, and film fans from around the world and the UK to Cardiff.  Opening Night once again sees Angharad Mair from S4C’s primetime magazine hosting an evening celebrating the best of filmmaking in Wales – six premieres with four of the films made by women. This is the moment during the festival when Wales shouts loud and proud to the world – look what we are, and here are our stories.’
Over the six days, the audience will be able to see 36 short films in competition for the Iris Prize International Short Film Competition supported by The Michael Bishop Foundation; 15 short films competing for the Iris Prize Best British Short Supported by Film4; and 12 feature films, including premieres from Iris alumni and member of this year’s Iris Prize jury Dennis Shinners (Barrio Boy), and Trevor Anderson (Before I Change My Mind).  Other jury members who are showing films this year and Kamil Krawczyck (Elephant), and Graham Cantwell (Who We Love). This year, the prize for Best Feature will be chosen by a jury of students from the University of South Wales Film and TV School Wales, giving them an excellent opportunity to spend time with accomplished and award-winning filmmakers.  This builds on USW’s successful partnership with Iris that has already created many other opportunities for their students over the last few years.
Tom Abell, Chair of the Iris Prize said: ‘It is wonderful to be able to welcome film lovers back to the cinema this year.  As well as the films we have on offer, there will be a chance to enjoy seven industry talks ranging from documentary filmmaking to making a feature film based on a short, and the role of straight allies in LGBTQ+ filmmaking.
‘We are fortunate to have the company of some of our most accomplished Iris alumni, such as Angela Clarke, Jay Bedwani, and Graham Cantwell, as well as Leo LeBeau and James Bell winners of the Iris Prize Co-op Audience Award in 2021 for their film Birthday Boy, discussing how crowdfunding made their film possible.’ New for this year is the Norway Focus, a retrospective of Norwegian LGBTQ+ short films created by Bård Ydén, Chair of the 2022 Iris Prize Jury and the Executive Director and Artistic Director of Oslo/Fusion International Film Festival, marking the 50th anniversary of the decriminalisation of male homosexuality in Norway. The retrospective is supported by the Norwegian Embassy and the Norwegian Film Institute. Bård will also be hosting a talk with Norwegian filmmaker Magnus Mork, who won the Iris Prize in 2010 with The Samaritan.  Magnus went on to make and direct Burger, one of the most popular and successful short films made with Iris Prize money and facilities. The international celebration of diversity and visibility of the LGBTQ+ community begins at 7pm tomorrow evening with the UK premiere of six short films made in Wales:

You can book passes for the Iris Prize Film Festival here: https://irisprize2022.eventive.org/passes/buy


Peach Paradise - LGBTQ+ short film codi’r llen ar ‘Oscars’ ffilmiau byrion LHDTQ+ nos fory
  • Chwe ffilm fer a wnaed yng Nghymru yn cael eu dangos am y tro cyntaf ar y Noson Agoriadol
  • 36 o ffilmiau byrion yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ryngwladol Iris
  • 15 Ffilm fer Brydeinig yn cystadlu am wobr Gorau Ym Mhrydain
  • Dangos 12 ffilm nodwedd, gan gynnwys 3 premieres
  • Ffocws Norwy i ddathlu 50 mlynedd ers dad-droseddoli cyfunrywioldeb gwrywaidd yn Norwy
  • 'Dyma'r foment yn ystod yr ŵyl pan mae Cymru'n gweiddi'n uchel ac yn falch i'r byd - edrychwch beth ydyn ni, a dyma'n straeon ni'
Yfory (dydd Mawrth, 11 Hydref), bydd gŵyl ffilm fer LHDTQ+ ryngwladol Caerdydd - cartref cystadleuaeth ffilm fer ryngwladol Gwobr Iris gwerth £30,000, a gefnogir gan Sefydliad Michael Bishop - yn codi'r llen ar ddathliad chwe diwrnod gwych o ffilmiau, amrywiaeth, cyfeillgarwch a chystadleuaeth, gan ddechrau gyda digwyddiad Noson Agoriadol yn Sinemâu Premiere am 7pm.  Bydd y noson yn arddangosfa o dalent Cymru wrth i chwe ffilm newydd gael eu dangos am y tro cyntaf, gan baratoi’r llwyfan am wledd o ffilmiau ar gyfer y dyddiau nesaf.
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: 'Rwy'n falch iawn bod Cymru Greadigol yn gallu cefnogi Gwobr Iris eto eleni. Rydym yn bencampwyr ar gyfer cynwysoldeb ac amrywiaeth ar draws y diwydiannau creadigol yng Nghymru ac yn falch o gefnogi menter sy'n arddangos talent greadigol Cymru yn y gymuned LHDTQ+ ac sy'n mynd â hyn i lwyfan byd eang.  Hoffwn ddymuno pob lwc i'r rhai sy'n cymryd rhan a'u llongyfarch ar eu teithiau creadigol hyd yn hyn.'
Mae trefnwyr 16eg rhifyn Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris, yn paratoi i gynnal y cyfarfod mwyaf o wneuthurwyr ffilmiau LHDTQ+, gyda 52 o ffilmiau byrion yn cystadlu drwy gydol yr ŵyl, yn ogystal â ffilmiau nodwedd, ffilmiau byrion meicro, ffilmiau cymunedol ac addysg, sgyrsiau diwydiant, a'r diwrnod addysg blynyddol.

Mae manylion llawn am raglenni ac amseroedd sioe ar gael yn Rhaglen / programme | Iris Prize (eventive.org).


Meddai Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Gwobr Iris: 'Rydym wrth ein boddau i ddychwelyd i ŵyl wyneb yn wyneb eleni ac yn gyffrous iawn i groesawu gwneuthurwyr ffilmiau, gwesteion, a chefnogwyr ffilmiau o bob cwr o'r byd a'r DU i Gaerdydd.  Bydd Angharad Mair o raglen gylchgrawn oriau brig S4C yn dychwelyd fel gwesteiwraig ar gyfer y Noson Agoriadol i ddathlu'r gorau o wneud ffilmiau yng Nghymru - chwe premiere gyda phedair o'r ffilmiau yn cael eu gwneud gan fenywod. Dyma'r foment yn ystod yr ŵyl pan mae Cymru'n gweiddi'n uchel ac yn falch i'r byd - edrychwch beth ydyn ni, a dyma'n straeon ni.'
Dros y chwe diwrnod, bydd y gynulleidfa yn gallu gweld 36 ffilm fer mewn cystadleuaeth ar gyfer Gwobr (ryngwladol) Iris a gefnogir gan Sefydliad Michael Bishop; 15 ffilm fer yn cystadlu am Wobr Iris Gorau Ym Mrydain a gefnogir gan Film4; a 12 ffilm nodwedd, gan gynnwys premieres gan gyn-fyfyrwyr Iris ac aelod o reithgor Gwobr Iris eleni Dennis Shinners (Barrio Boy), a Trevor Anderson (Before I Change My Mind).  Mae aelodau eraill y rheithgor yn dangos ffilmiau: Kamil Krawczyck (Elephant), a Graham Cantwell (Who We Love). Eleni, bydd y wobr am y Ffilm Nodwedd Orau yn cael ei dewis gan reithgor o fyfyrwyr o Ysgol Ffilm a Theledu Cymru Prifysgol De Cymru, gan roi cyfle gwych iddynt dreulio amser gyda gwneuthurwyr ffilmiau medrus ac arobryn.  Mae hyn yn adeiladu ar bartneriaeth lwyddiannus Prifysgol De Cymru gydag Iris, sydd eisoes wedi creu llawer o gyfleoedd eraill i'w myfyrwyr dros y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd Tom Abell, Cadeirydd Gwobr Iris: 'Mae'n wych gallu croesawu pobl sy'n caru ffilmiau yn ôl i'r sinema eleni.  Yn ogystal â'r ffilmiau sydd gennym ar gael, bydd cyfle i fwynhau saith sgwrs diwydiant yn amrywio o wneud ffilmiau dogfen i wneud ffilm nodwedd yn seiliedig ar ffilm fer, a rôl cynghreiriaid syth wrth wneud ffilmiau LHDTQ+.
'Rydyn ni'n ffodus o gael cwmni rhai o gyn-fyfyrwyr Iris mwyaf medrus, fel Angela Clarke, Jay Bedwani, a Graham Cantwell, yn ogystal â Leo LeBeau a James Bell, enillwyr Gwobr Gynulleidfa Co-op Gwobr Iris yn 2021 am eu ffilm Birthday Boy, yn trafod sut gwnaeth ariannu torfol eu ffilm yn bosibl.' Eleni am y tro cyntaf, cawn Ffocws Norwy, golwg yn ôl ar ffilmiau byrion LHDTQ+ o Norwy a grëwyd gan Bård Ydén, Cadeirydd Rheithgor Gwobr Iris 2022 a Chyfarwyddwr Gweithredol a Chyfarwyddwr Artistig Gŵyl Ffilm Ryngwladol Oslo/Fusion.  Mae’r olwg yn ôl yn nodi 50 mlynedd ers dad-droseddoli cyfunrywioldeb gwrywaidd yn Norwy. Cefnogir yr olwg yn ôl gan Lysgenhadaeth Norwy a Sefydliad Ffilm Norwy. Bydd Bård hefyd yn cynnal sgwrs gyda'r gwneuthurwr ffilmiau o Norwy, Magnus Mork, a enillodd Wobr Iris yn 2010 gyda The Samaritan.  Aeth Magnus ymlaen i gyfarwyddo Burger, un o'r ffilmiau byrion mwyaf poblogaidd a llwyddiannus a wnaed gydag arian a chyfleusterau Iris Prize. Mae dathliad rhyngwladol amrywiaeth a gwelededd y gymuned LHDTQ+ yn dechrau am 7pm nos yfory gyda dangosiadau cyntaf y DU o chwe ffilm fer a wnaed yng Nghymru:
  • Cardiff, cyfarwyddwyd gan Sarah Smith (enillydd Gwobr Iris 2019)
  • Blooming, cyfarwyddwyd gan Efa Blosse Mason a Sophie Marsh
  • I Shall be Whiter than Snow, cyfarwyddwyd gan Frederick Stacey
  • Queens Cwm Rag, cyfarwyddwyd gan Lindsay Walker
  • Sally Leapt Out Of A Window Last Night, cyfarwyddwyd gan Tracy Spottiswoode
  • G, cyfarwyddwyd gan Peter Darney, ac yn serennu Richard Wilson

Gallwch archebu tocynnau ar gyfer Gŵyl Ffilm Gwobr Iris yma: https://irisprize2022.eventive.org/passes/buy