Pride Month gets underway, and Iris is on the move again

• Pride Month is a chance for Iris to showcase films, community projects, and reach her audience in person, before the festival begins in October
• A National Lottery Community Fund Iris in the Community film Am Byth debuts on iPlayer and S4C Clic on 1 June
• Iris will visit Cowbridge Pride and Pride Cymru
Happy Pride Month - Ted and Noel Still
It is June, and so Pride Month begins, and as well as the count-down to the annual Iris Prize LGBTQ+ Film Festival, organisers of the Cardiff-based international festival are looking forward to sharing and showcasing films, new projects, and events with the wider Welsh audience.
Berwyn Rowlands, Iris Prize Film Festival Director said: “Pride Month is important to us because the month allows a new audience to experience LGBTQ+ stories as organizations and businesses focus on diversity. We will be visiting Cowbridge Pride and Pride Cymru this month and showcasing some of our favourite films.
“I am delighted that we can take films which tell the stories of real people in their communities to places where people may not get easy access to non-mainstream films. Iris on the Move has been a journey we have made for the last eight years, and the number of participating cinemas continues to grow each year.
“As we look towards the Iris Prize Film Festival in October, we can tell you that we will be revealing the Best British Shortlist on Saturday, 27 July at the annual Iris Summer Party held at St Catherine’s Church in Canton, Cardiff.  If you are missing our wonderful films, you can still watch our Best British films on Channel 4’s streaming service, along with one of our favourite community films, Am Byth, on iPlayer and S4C Clic.”

Where you can meet Iris this June

  • Iris and Cowbridge Pride
Iris will be screening the premiere of Cariad yw Cariad (Love is Love), on the evening of  Thursday 13 June, at Cowbridge Town Hall.  Cariad yw Cariad is the film Iris and Cowbridge Pride have made with three schools in Cowbridge (Cowbridge School, Ysgol Iolo Morgannwg and Y Bont Faen Primary) looking at how Cowbridge Pride has made a positive impact on the town. Cariad yw Cariad was directed by Meinir Richards, and it was unscripted but based on an idea from Ian H Watkins, who founded Cowbridge Pride, along with Tom Hope. Ian H Watkins said: “Kindness, colour and community. That’s what Cowbridge Pride is about. The change we have seen in the local town is just beautiful, and that has had a ripple effect throughout the Vale.  We are super proud of this little film. The people and pupils of Cowbridge are flying the Pride flag high and leading the way with kindness.”
  • Iris Prize Cinema at Pride Cymru 2024
Iris will be taking six short films to screen at the Iris Prize Cinema at Pride Cymru. Visit the cinema on 22 and 23 June where there will be two programmes showing: Animated Love and Iris Youth.

Animated Love – 31 mins

  • Single: Meat Cutes | Tilly Robba & Steph Jowett |   Australia
  • Aikane | Daniel Sousa, Dean Hamer, Joe Wilson | USA
  • Diomysus | Emily Elizabeth Morus-Jones | Wales

Iris Youth – 37 mins

  • My Summer in the Human Resistance | Steve Anthopoulos | Australia
  • Malwa Khushan | Preeti Kanungo, Sourav Yadav | India
  • Realness with a Twist | Cass Kaur Virdee | UK
Screenings will take place every hour starting at 1pm – each hourly screening will alternate between the two programmes. On Saturday the last screening will start at 5pm and on Sunday the last screening will start at 4pm.  All screenings will be introduced by an Iris Team Member.
  • Am Byth streams on iPlayer and S4C Clic
During Pride Month, one of Iris’ most successful and well-loved community films will be available to stream on iPlayer and S4C Clic. Am Byth, the Welsh language version of its Lottery-funded short, I Shall Be Whiter Than Snow,  debuted on Saturday 1 June. Am Byth, was produced as part of Iris in the Community, created by people taking part in the National Lottery Community Fund supported diversity project. Am Byth was directed by Frederick Stacey, written by Jonathan North, and translated into Welsh by Mared Jones & Geraint Scott. The short film is based on the true story of a lesbian couple, Kim and Roseann, who were married at Velindre Hospital, Cardiff in 2018 whilst Kim was receiving treatment for cancer. This emotional film is a touching love story between two women and is also a celebration of the amazing staff who work for our NHS and the importance of compassionate care.
  • Iris on the Move (sponsored by S4C) continues into the summer
Following a busy first half of the year, Iris will be showcasing some of the very best films with two programmes of shorts: Best of Iris 2023 and Falling in love with Iris.  The Best of Iris 2023 includes four winning short films which impressed audiences, including the judges during the Cardiff based festival in October 2023. This diverse selection of outstanding short films showcases unique stories from around the world.
Iris on the Move 2024 will be visiting the following places:
  • Abertillery (The Met Theatre) Wednesday, 5 June
  • Porthcawl (Awel y Mȏr Community Centre) Friday, 7 June
  • Pontypridd (Clwb y Bont) Wednesday, 12 June
  • Bridgend (Blaengarw Workmen’s Hall) Friday, 14 June
  • Kirkcaldy, Scotland (The Adam Theatre) Friday, 28 June

If you would like your local cinema to get involved, please contact Iris at Adnan@irisprize.org


Mae Mis Pride wedi cyrraedd ac mae Iris ar Grwydr eto

  • Mae Mis Pride yn gyfle i Iris arddangos ffilmiau, prosiectau cymunedol a chyrraedd ei chynulleidfa wyneb yn wyneb, cyn i'r ŵyl ddechrau ym mis Hydref
  • Bydd ffilm Iris yn y Gymuned Am Byth, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn ymddangos ar iPlayer ac S4C Clic o 1 Mehefin
  • Bydd Iris yn ymweld â Pride y Bont-faen a Pride Cymru
Pride Month - Mis Pride HapusMae'n fis Mehefin, ac felly mae Mis Pride yn dechrau, ac yn ogystal ag edrych ymlaen at Ŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris, mae trefnwyr yr ŵyl ryngwladol yng Nghaerdydd yn edrych ymlaen at rannu ac arddangos ffilmiau, prosiectau newydd, a digwyddiadau gyda'r gynulleidfa Gymreig ehangach.
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Gwobr Iris: "Mae Mis Pride yn bwysig i ni oherwydd mae'r mis yn caniatáu i gynulleidfa newydd brofi straeon LHDTQ+ wrth i fudiadau a busnesau ganolbwyntio ar amrywiaeth. Byddwn yn ymweld â Pride y Bont-faen a Pride Cymru y mis hwn ac yn arddangos rhai o'n hoff ffilmiau.
"Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu mynd â ffilmiau sy'n adrodd straeon pobl go iawn yn eu cymunedau i lefydd lle nad yw pobl o bosibl yn cael mynediad hawdd i ffilmiau nad ydynt yn brif ffrwd. Mae Iris ar Grwydr wedi bod yn daith rydyn ni wedi'i gwneud ers yr wyth mlynedd diwethaf ac mae nifer y sinemâu sy'n cymryd rhan yn parhau i dyfu bob blwyddyn.
"Wrth i ni edrych tuag at Ŵyl Ffilm Gwobr Iris ym mis Hydref, gallwn gyhoeddi y byddwn yn datgelu'r Rhestr Fer Gorau Ym Mhrydain ddydd Sadwrn, 27 Gorffennaf ym Mharti Haf blynyddol Iris a gynhelir yn Eglwys St Catherine yn Nhreganna, Caerdydd.  Os ydych chi'n colli ein ffilmiau gwych, gallwch wylio ein ffilmiau Gorau Ym Mhrydain ar wasanaeth ffrydio Channel 4, ynghyd ag un o'n hoff ffilmiau cymunedol, Am Byth, ar iPlayer ac S4C Clic."

Lle gallwch gwrdd ag Iris ym mis Mehefin

  • Iris a Pride y Bont-faen
Bydd Iris yn cynnal dangosiad cyntaf Cariad yw Cariad (Love is Love), nos Iau 13 Mehefin, yn Neuadd y Dref y Bont-faen.  Cariad yw Cariad yw'r ffilm y mae Iris a Pride y Bont-faen wedi'i chynhyrchu gyda thair ysgol yn y Bont-faen (Ysgol y Bont-faen, Ysgol Iolo Morgannwg ac Ysgol Gynradd Y Bont-faen) yn edrych ar sut mae Pride y Bont-faen wedi cael effaith gadarnhaol ar y dref. Cyfarwyddwyd Cariad yw Cariad gan Meinir Richards, ac roedd yn ddi-sgript ond yn seiliedig ar syniad gan Ian H Watkins, a sefydlodd Cowbridge Pride, ynghyd â Tom Hope. Dywedodd Ian H Watkins: "Caredigrwydd, lliw a chymuned. Dyna beth yw Pride y Bont-faen. Mae'r newid a welsom yn y dref leol yn brydferth iawn, ac mae hynny wedi cael effaith cryfach ledled y Fro.  Rydym yn hynod falch o'r ffilm fach hon. Mae pobl a disgyblion y Bont-faen yn chwifio baner Pride yn uchel ac yn arwain y ffordd gyda charedigrwydd.”
  • Sinema Gwobr Iris yn Pride Cymru 2024
Bydd Iris yn mynd â chwe ffilm fer i'w dangos yn Sinema Gwobr Iris yn Pride Cymru. Ewch i'r sinema ar 22 a 23 Mehefin lle bydd dwy raglen yn dangos: Cariad Animeiddiedig ac Ieuenctid Iris.

Cariad Animeiddiedig – 31 munud

  • Single: Meat Cutes | Tilly Robba & Steph Jowett | Awstralia
  • Aikane | Daniel Sousa, Dean Hamer, Joe Wilson | UDA 
  • Diomysus | Emily Elizabeth Morus-Jones | Wales

Ieuenctid Iris – 37 munud

  • My Summer in the Human Resistance | Steve Anthopoulos |  Awstralia
  • Malwa Khushan | Preeti Kanungo, Sourav Yadav | India
  • Realness with a Twist | Cass Kaur Virdee | DU 
Bydd dangosiad bob awr gan ddechrau am 1pm - bydd pob dangosiad fesul awr yn newid rhwng y ddwy raglen. Ddydd Sadwrn bydd y dangosiad olaf yn dechrau am 5pm ac ar ddydd Sul bydd y dangosiad olaf yn dechrau am 4pm.  Bydd yr holl ddangosiadau yn cael eu cyflwyno gan Aelod o Dîm Iris.
  • Am Byth yn ffrydio ar iPlayer a S4C Clic
Yn ystod Mis Pride, bydd un o ffilmiau cymunedol mwyaf llwyddiannus a hoffus Iris ar gael i'w ffrydio ar iPlayer ac S4C Clic. Roedd Am Byth, y fersiwn Gymraeg o'i ffilm fer a ariennir gan y Loteri, I Shall Be Whiter Than Snow, wedi ymddangos am y tro cyntaf ddydd Sadwrn 1 Mehefin. Cynhyrchwyd Am Byth, fel rhan o Iris yn y Gymuned, a grëwyd gan bobl sy'n cymryd rhan ym mhrosiect amrywiaeth a gefnogir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Cyfarwyddwyd Am Byth gan Frederick Stacey, a ysgrifennwyd gan Jonathan North, a'i chyfieithu i'r Gymraeg gan Mared Jones a Geraint Scott. Mae'r ffilm fer yn seiliedig ar stori wir cwpl lesbiaidd, Kim a Roseann, a briododd yn Ysbyty Felindre, Caerdydd yn 2018 tra roedd Kim yn derbyn triniaeth am ganser. Mae'r ffilm emosiynol hon yn stori garu deimladwy rhwng dwy fenyw ac mae hefyd yn ddathliad o'r staff anhygoel sy'n gweithio i'n GIG a phwysigrwydd gofal tosturiol.
  • Iris ar Grwydr (noddir gan S4C) yn parhau dros yr haf
Yn dilyn hanner cyntaf prysur o'r flwyddyn, bydd Iris yn arddangos rhai o'r ffilmiau gorau gyda dwy raglen o ffilmiau byrion: Y Gorau o Iris 2023, a Syrthio mewn cariad ag Iris.  Mae Y Gorau o Iris 2023 yn cynnwys pedair ffilm fer fuddugol a wnaeth argraff ar gynulleidfaoedd, gan gynnwys y beirniaid yn ystod yr ŵyl yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2023. Mae'r detholiad amrywiol hwn o ffilmiau byr rhagorol yn arddangos straeon unigryw o bob cwr o'r byd.
Bydd Iris ar Grwydr 2024 yn ymweld â’r lleoliadau hyn:
  • Abertillery (Theatr y Met) Dydd Mercher, 5 Mehefin
  • Porthcawl (Canolfan Gymunedol Awel y Mȏr) Dydd Gwener, 7 Mehefin
  • Pontypridd (Clwb y Bont) Dydd Mercher, 12 Mehefin
  • Penybont ar Ogwr (Neuadd y Gweithwyr Blaengarw), Dydd Gwener, 14 Mehefin
  • Kirkcaldy, Yr Alban (The Adam Theatre) Dydd Gwener, 28 Mehefin

Ac os hoffech chi ddangos ffilmiau Iris yn eich sinema leol, cysylltwch ag Iris adnan@irisprize.org