Pride Month sees Iris showcase the new Iris Podcast and presenter

• Critically-acclaimed podcaster Damian Kerlin will host the new Iris Podcast for Pride Month
• Six episodes will be available throughout the month of June
• “It was incredible to hear their stories and the fact that they are queer-centered is even better as representation, and the telling of our own stories has never been more important.” (Damian Kerlin)
• Iris Prize will visit Pride Cymru and Cowbridge Pride, showcasing her work and screening her favourite films
Iris Prize Podcast
Organisers of Iris Prize LGBTQ+ Film Festival have today (Thursday, 1 June 2023) announced details of the new Iris Podcast, and its brand new presenter, Damian Kerlin.  Damian is a writer, broadcaster and content creator, and has written for Attitude, The Telegraph, The Independent, The Belfast Telegraph, Out News Global, Gay Community News and Left Foot Forward. Damian’s LGBTQ+ docu-series podcast Memories From The Dancefloor was released in February 2023 for LGBTQ+ History Month to critical acclaim, featuring in The Sunday Times, Financial Times and The Guardian. With over 16,000 downloads in its first month ‘Memories from the Dance Floor’ was Acast’s third highest listened to new podcast in February 2023. Damian Kerlin- New Iris podcast
Damian Kerlin, presenter of the Iris Podcast, said: "It was an absolute joy to host the Iris Podcast. Far too often we only hear from those in front of the camera in the film industry, that we fail to showcase the talent, but also the goings on, the trials and tribulations, behind the scenes. It was incredible to hear their stories and the fact that they are queer-centered is even better as representation, and the telling of our own stories has never been more important."
These podcasts will provide a valuable resource for aspiring filmmakers and storytellers, as well as offering a unique insight into the work we do at Iris Prize. The new iris podcast will be released in June, Pride month, and will be available wherever you get your podcast.  Podcast guests will include Iris Prize alumni and past winners, industry specialists, and journalists and other creatives working in the field of LGBTQ+ filmmaking.
Here are the episodes:
  • Episode 1 (Thursday, 1 June) – Authentic Casting 
We will be talking all things representation in casting, and along with our interviewees attempt to answer the old age question in the filming industry, “should queer roles, be played by queer actors?”
  • Episode 2 (Thursday, 8 June)  – Queer documentary making
Damian interviews three LGBTQ+ filmmakers specialising in documentaries. Together they discuss the importance and collective responsibility of telling LGBTQ+ stories and ask whether documentaries have a duty to be balanced in their story telling, or does larger bias play a role?
  • Episode 3 (Thursday, 15 June) – Script to Screen
Ever wondered how those stories appear on screen? Damian talks to Waterloo Road star Adam Ali as well as filmmaker Keeran Anwar and Bad Wolf, one the UK’s largest production companies, script editor, Bethan Evans.
  • Episode 4 (Thursday, 22 June) – Queer Youth 
Representation on screen has never been so important, so Damian along with his guests this chat specifically about queer young people.
  • Episode 5 (Thursday, 29 June) – Making film in Wales
Filming on location is hard, but when you throw into the mix rural landscapes and unpredictable weather it can be near impossible. That and the sensitivities around shooting a queer film, Damian chat to his guests about all this can be possible and is Wales as welcoming as it is perceived to be.
  • Episode 6 (Thursday, 6 July)  – Bringing queer stories to life
In the last of the series, Damian chats to filmmakers about the importance of real life stories on our screens and what is the reality of looking beyond the lens at the real lives of those our films represent, managing expectations, and the reality of dramatising our stories for screen.

Listen Now


New Iris Podcast - Iris Loves Pride CymruAs well as launching the new Iris Podcast, Iris will be visiting two Pride festivals this month, and will also be hosting the Mini Iris Film Festival at Cowbridge Pride on Wednesday, 21 June. Pride Cymru takes place in Cardiff on Saturday and Sunday, 17 and 18 June.  Iris will be present on both days, and will be hosting a screening of some of her favourite films.
Berwyn Rowlands, Iris Prize Festival Director said: “It's that time of year again when we celebrate love, equality, and diversity! Pride season is upon us, and the Iris Prize is proud to be a part of it. We have the new Iris Podcast with Damian presenting for us and two contrasting Pride events to visit. “It will be wonderful to visit a local Pride in Cowbridge as well as the annual Wales-wide celebration of all things LGBTQ+ which is Pride Cymru.  We hope that you will be able to join us for film screenings and informal chats at our stand, during both festivals.”

Podlediad newydd Iris yn lansio yn ystod Mis Pride gyda chyflwynydd arbennig
  • Bydd y podlediwr o fri, Damian Kerlin, yn cynnal podlediad Iris newydd ar gyfer Mis Pride
  • Bydd chwe phennod ar gael drwy gydol mis Mehefin
  • "Roedd yn anhygoel clywed eu straeon ac mae'r ffaith eu bod yn canolbwyntio ar straeon queer hyd yn oed yn well fel cynrychiolaeth, ac ni fu adrodd ein straeon ein hunain erioed yn bwysicach." (Damian Kerlin)
  • Bydd Gwobr Iris yn ymweld â Pride Cymru a Pride y Bont-faen, gan arddangos ei gwaith a dangos ei hoff ffilmiau
Mae trefnwyr Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris wedi cyhoeddi heddiw (dydd Iau, 1 Mehefin 2023) fanylion podlediad newydd Iris, a’i gyflwynydd newydd sbon, Damian Kerlin. Mae Damian yn awdur, darlledwr a chrëwr cynnwys, ac mae wedi ysgrifennu ar gyfer Attitude, The Telegraph, The Independent, The Belfast Telegraph, Out News Global, Gay Community News a Left Foot Forward. Rhyddhawyd ei bodlediad cyfres ddogfen LHDTQ+ Memories From The Dancefloor ym mis Chwefror 2023 ar gyfer Mis Hanes LHDTQ+ i ganmoliaeth uchel, gan ymddangos yn The Sunday Times, Financial Times a The Guardian. Gyda thros 16,000 o lawrlwythiadau yn ei fis cyntaf, ‘Memories From The Dancefloor’ oedd y trydydd podlediad newydd y gwrandawyd arno fwyaf ym mis Chwefror 2023, yn ȏl Acast.
Dywedodd Damian Kerlin, cyflwynydd Podlediad Iris: “Roedd yn bleser pur cael cynnal Podlediad Iris. Yn rhy aml o lawer rydyn ni ond yn clywed oddi wrth y rhai sydd o flaen y camera yn y diwydiant ffilm ac rydyn ni’n methu ag arddangos y dalent, ond hefyd y pethau sy’n mynd ymlaen, y treialon a’r gorthrymderau, y tu ôl. Roedd yn anhygoel clywed eu straeon ac mae'r ffaith eu bod yn canolbwyntio ar straeon queer hyd yn oed yn well fel cynrychiolaeth, ac ni fu adrodd ein straeon ein hunain erioed yn bwysicach.”
Bydd y podlediadau hyn yn darparu adnodd gwerthfawr i ddarpar wneuthurwyr ffilm a storïwyr, yn ogystal â chynnig cipolwg unigryw ar y gwaith a wnawn yng Ngwobr Iris. Bydd y gyfres newydd yn cael ei rhyddhau ym mis Mehefin, mis Pride, a bydd ar gael ble bynnag y cewch eich podlediad.  Bydd gwesteion y podlediad yn cynnwys alumni Gwobr Iris ac enillwyr blaenorol, arbenigwyr yn y diwydiant, a newyddiadurwyr a phobl greadigol eraill sy'n gweithio ym maes gwneud ffilmiau LHDTQ+.
Dyma’r penodau:
  • Pennod 1 (Dydd Iau, 1 Mehefin) – Castio Gwirioneddol 
Byddwn yn siarad pob peth a gynrychiolir wrth gastio, ac ynghyd â'n cyfweleion yn ceisio ateb y cwestiwn bytholwyrdd yn y diwydiant ffilm, "a ddylai rolau queer, gael eu chwarae gan actorion queer?"
  • Pennod 2 (Dydd Iau, 8 Mehefin)  – Gwneud rhaglenni dogfen queer
Mae Damian yn cyfweld â thri gwneuthurwr ffilm LHDTQ+ sy'n arbenigo mewn rhaglenni dogfen. Gyda'i gilydd maent yn trafod pwysigrwydd a chyfrifoldeb cyfunol adrodd straeon LHDTQ+ ac yn gofyn a oes dyletswydd ar raglenni dogfen i gael eu cydbwyso wrth adrodd eu stori, neu a oes rhagfarn fwy yn chwarae rôl?
  • Pennod 3 (Dydd Iau, 15 Mehefin) – Sgript i Sgrin
Ydych chi erioed wedi meddwl tybed sut mae'r straeon hyn yn ymddangos ar y sgrin? Mae Damian yn siarad â seren Waterloo Road, Adam Ali, yn ogystal â'r gwneuthurwr ffilm Keeran Anwar a Bad Wolf, un o gwmnïau cynhyrchu mwyaf y DU, y golygydd sgriptiau, Bethan Evans.
  • Pennod 4 (Dydd Iau, 22 Mehefin) – Ieuenctid Queer
Nid yw cynrychiolaeth ar y sgrin erioed wedi bod mor bwysig, felly mae Damian, ynghyd â'i westeion, yn trafod yn benodol am bobl ifanc queer.
  • Pennod 5 (Dydd Iau, 29 Mehefin) – Creu ffilmiau yng Nghymru
Mae ffilmio ar leoliad yn anodd, ond pan fyddwch chi'n taflu i mewn i'r cymysgedd tirweddau gwledig a thywydd anrhagweladwy gall fod bron yn amhosibl. Mae hynny, a'r sensitifrwydd ynghylch saethu ffilm queer, yn destun trafod i Damian â'i westeion am sut y gall hyn i gyd fod yn bosibl, ac a yw Cymru mor groesawgar ag y tybir ei bod.
  • Pennod 6 (Dydd Iau, 6 Mehefin)  – Dod â straeon queer yn fyw
Yn yr olaf o'r gyfres, mae Damian yn sgwrsio â gwneuthurwyr ffilm am bwysigrwydd straeon bywyd go iawn ar ein sgriniau a beth yw'r realiti o edrych y tu hwnt i'r lens ar fywydau go iawn y rhai y mae ein ffilmiau'n eu cynrychioli, rheoli disgwyliadau, a realiti dramateiddio ein straeon ar gyfer y sgrin.

GWRANDEWCH YN AWR


Iris Loves Pride Cymru - New Iris PodcastYn ogystal â lansio Podlediad Iris newydd, bydd Iris yn ymweld â dwy ŵyl Pride y mis hwn, a bydd hefyd yn cynnal Gŵyl Ffilm Mini Iris yn Pride y Bont-faen ddydd Mercher, 21 Mehefin. Cynhelir Pride Cymru yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn a dydd Sul, 17 a 18 Mehefin.  Bydd Iris yn bresennol ar y ddau ddiwrnod, a bydd yn cynnal dangosiad o rai o'i hoff ffilmiau.
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris: "Mae'r adeg honno o'r flwyddyn unwaith eto pan fyddwn yn dathlu cariad, cydraddoldeb ac amrywiaeth! Mae tymor Pride wedi cyrraedd, ac mae Gwobr Iris yn falch o fod yn rhan ohono. Mae gennym Podlediad Iris newydd gyda Damian yn cyflwyno i ni a dau ddigwyddiad Pride gyferbyniol i ymweld â nhw. "Bydd yn wych ymweld â Pride lleol yn y Bont-faen yn ogystal â dathliad blynyddol Cymru gyfan o bopeth LHDTQ+ sef Pride Cymru.  Rydym yn gobeithio y byddwch yn gallu ymuno â ni ar gyfer dangosiadau ffilm a sgyrsiau anffurfiol ar ein stondin, yn ystod y ddwy ŵyl."