Sarah Scorey announced as the photographer for the Pink Portraits 2024

• 10 new portraits will be displayed at public sites around Wales throughout June
• Iris Prize, Ffotogallery, and Transport for Wales celebrate Pride Month together
• "Photography has been a source of empowerment for me, so I’m really looking forward to using photography as a tool of empowerment and seeing what we create!” Sarah Scorey, Pink Portraits 2024 photographer
Sarah Scorey Pink Portraits
The organisers of the Cardiff-based Iris Prize LGBTQ+ Film Festival are thrilled to announce that the Pink Portraits will return this year, in collaboration with Ffotogallery and Transport for Wales.
Pink Portraits 2024 will showcase 10 photographs taken by south Wales-based Sarah Scorey of LGBTQ+ professionals working for Transport for Wales. Sarah holds a first-class BA Hons in Photography, specialising in fashion and editorial photography, from the University of West of England. There will be an accompanying ‘the making of’ video shot alongside the capturing of the portraits, and the finished film will be shown at Pride Cymru, in Cardiff.
Sarah Scorey said: “I’m extremely thankful and grateful to have been picked for this amazing opportunity to photograph some of Transport For Wales’ LGBTQ+ staff members as part of Pink Portraits 2024. Photography has been a source of empowerment for me, so I’m really looking forward to using photography as a tool of empowerment and seeing what we create!”

Siân Addicott, Director of Ffotogallery, said: “We are thrilled at Ffotogallery to be working with Sarah Scorey and Iris for this year's Pink Portraits commission in collaboration with Transport for Wales. Sarah's application stood out in terms of its creativity and personal style, alongside her connection with the LGBTQ+ community. We are excited to see the new portraits as the project develops.”
Pink Portraits 2024 will be displayed across Wales during Pride Month (June) in public spaces. The project is produced by the Iris Prize Festival in partnership with Ffotogallery and Transport for Wales.
Marie Daly, Chief Customer and Culture Officer, Transport for Wales said: “We’re a proudly inclusive organisation and I’m delighted that Transport for Wales is collaborating on Pink Portraits 2024. We’re excited to be part of this project and to have the opportunity to celebrate LGBTQ+ colleagues from right across our organisation. We’ve had a great response to our partnership from our colleagues already, and I’m looking forward to seeing the portraits.”

Grant Vidgen, Iris Prize Festival Manager, added: “Working with Transport for Wales allows us to have a profile in the community we exist in; a relationship with the community. We look forward to sharing with you the names of the sitters, along with the locations of the portraits.”

Iris Prize will return this year: Tuesday 8 October – Sunday 13 October 2024.


Cyhoeddi Sarah Scorey o dde Cymru yn ffotograffydd ar gyfer prosiect Portreadau Pinc 2024

  • Bydd 10 portread newydd yn cael eu harddangos mewn safleoedd cyhoeddus ledled Cymru drwy gydol mis Mehefin
  • Bydd Gwobr Iris, Ffotogallery, a Trafnidiaeth Cymru yn dathlu Mis Pride gyda'i gilydd
  • "Mae ffotograffiaeth wedi bod yn ffynhonnell grymuso i mi, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddefnyddio ffotograffiaeth fel offeryn grymuso a gweld beth rydyn ni'n ei greu!" Sarah Scorey, ffotograffydd Portreadau Pinc 2024

Mae'n bleser gan drefnwyr Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris yng Nghaerdydd gyhoeddi y bydd y Portreadau Pinc yn dychwelyd eleni, mewn cydweithrediad â Ffotogallery a Thrafnidiaeth Cymru.
Bydd y Portreadau Pinc 2024 yn arddangos 10 ffotograff a dynnwyd gan Sarah Scorey, o dde Cymru, o weithwyr proffesiynol LHDTQ+ sy'n gweithio i Drafnidiaeth Cymru. Mae gan Sarah radd BA Anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Ffotograffiaeth, gan arbenigo mewn ffotograffiaeth ffasiwn a golygyddol, o Brifysgol Gorllewin Lloegr. Bydd fideo yn olrhain y broses o dynnu’r lluniau yn cael ei saethu ochr yn ochr â’r ffotograffiaeth, a bydd y ffilm orffenedig yn cael ei dangos yn Pride Cymru, yng Nghaerdydd.
Dywedodd Sarah Scorey:  "Rwy'n hynod ddiolchgar ac yn falch fy mod wedi cael fy newis am y cyfle anhygoel hwn i dynnu lluniau o rai o aelodau staff LHDTQ+ Trafnidiaeth Cymru fel rhan o’r Portreadau Pinc 2024. Mae ffotograffiaeth wedi bod yn ffynhonnell grymuso i mi, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddefnyddio ffotograffiaeth fel offeryn grymuso a gweld beth rydyn ni'n ei greu!"

Dywedodd Siân Addicott, Cyfarwyddwr Ffotogallery: "Rydym wrth ein bodd yn Ffotogallery i fod yn gweithio gyda Sarah Scorey ac Iris ar gyfer comisiwn Portreadau Pinc eleni, mewn cydweithrediad â Thrafnidiaeth Cymru. Roedd cais Sarah yn sefyll allan o ran ei greadigrwydd a'i arddull bersonol, ochr yn ochr â'i chysylltiad â'r gymuned LHDTQ+. Rydym yn gyffrous i weld y portreadau newydd wrth i'r prosiect ddatblygu."
Bydd y Portreadau Pinc 2024 yn cael eu harddangos ledled Cymru yn ystod Mis Pride (Mehefin) mewn mannau cyhoeddus. Cynhyrchir y prosiect gan Ŵyl Gwobr Iris mewn partneriaeth â Ffotogallery a Thrafnidiaeth Cymru.
Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant, Trafnidiaeth Cymru: "Rydym yn sefydliad sy'n falch o fod yn gynhwysol ac rwy'n falch iawn bod Trafnidiaeth Cymru yn cydweithio ar Bortreadau Pinc 2024. Rydym yn gyffrous i fod yn rhan o'r prosiect hwn a chael cyfle i ddathlu cydweithwyr LHDTQ+ o bob rhan o'n sefydliad. Rydym wedi cael ymateb gwych i'n partneriaeth gan ein cydweithwyr yn barod, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y portreadau."

Ychwanegodd Grant Vidgen, Rheolwr Gŵyl Gwobr Iris: "Mae gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru yn ein galluogi i gael proffil yn y gymuned rydym yn bodoli ynddi; perthynas gyda'r gymuned. Edrychwn ymlaen at rannu enwau'r eisteddwyr gyda chi, ynghyd â lleoliadau'r portreadau."

Bydd Gwobr Iris yn dychwelyd eleni: Dydd Mawrth 8 Hydref – Dydd Sul 13 Hydref 2024.