The shortlist of international filmmakers competing for the £30,000 Iris Prize International Short Film Competition supported by The Michael Bishop Foundation is unveiled today. This year’s shortlist features films from 21 different countries, including four from the UK and one from Ireland. Two of the films are also in the shortlist for Best British Short Supported by Film4 and Pinewood Studios. The Iris Prize has 25 partner festivals who nominated 18 of the shortlisted films, with the remainder chosen by a pre-selection jury. The shortlisted films tell stories ranging from a coming out BirthGay party; flirtations in a library; a young woman and her ghostly best friend; chance encounters; and crossed wires that lead to tragedy.
Berwyn Rowlands, Iris Prize Film Festival Director, said: “It isn’t just a numbers game, but we can boast 35 wonderful short films on the menu for our 17th edition of the Iris Prize LGBTQ+ Film Festival. We are pleased to announce this year’s shortlist from 21 countries and are especially pleased to see six films from the UK and Ireland. It certainly isn’t the first – and won’t be last time, I’m sure – that we have two films in international competition that feature in the Best British Short category. “This is year is special as we move to our new event HQ, Vue Cinema, in the centre of Cardiff, in the shadow of the Principality Stadium. We are looking forward to welcoming film fans, industry specialists and filmmakers, to the festival once again. “Iris is a special festival. We rely on our volunteers to make the running of the festival as smooth as possible, and our wonderful and growing number of members who support and share the love of the Iris family. Iris membership is open to everyone, and as a thank you to our members, we open our box office exclusively to them between 4 and 18 September. “As well as our short film competitions we will be screening 12 features from all over the world, films created by student filmmakers and our community projects, and there will be industry-led talks. Come and join Iris and her family in Cardiff between 10 and 15 October.”
You can view all the shortlisted films with extra details about the directors and images by following this link:
https://irisprize.org/2023-iris-prize-shortlist/
Cyhoeddi y 35 ffilm fer sy'n cystadlu am wobr ryngwladol Gwobr LHDTQ+ Iris
- 35 ffilm fer o 21 o wledydd mewn cystadleuaeth ar gyfer Gwobr Ryngwladol Iris
- Mae pedair ffilm o'r DU, ac un o Iwerddon ar y rhestr fer, gyda dwy ffilm o'r rhestr fer Gorau Ym Mhrydain yn cyrraedd y rownd derfynol ryngwladol
- Gwobr Iris yw'r wobr ffilm fer LHDTQ+ fwyaf yn y byd
- “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ffans ffilm, arbenigwyr y diwydiant, gwneuthurwyr ffilm, a'r bobl a greodd y lluniau symudol y byddwn yn eu gwylio ar y sgriniau, i'r ŵyl unwaith eto"
Mae'r rhestr fer o wneuthurwyr ffilmiau rhyngwladol sy'n cystadlu am wobr gwerth £30,000 Ffilm Fer Ryngwladol Gwobr Iris a gefnogir gan Sefydliad Michael Bishop yn cael ei gyhoeddi heddiw. Mae'r rhestr fer eleni yn cynnwys ffilmiau o 21 o wahanol wledydd, gan gynnwys pedair o'r DU ac un o Iwerddon. Mae dwy o'r ffilmiau hefyd ar y rhestr fer ar gyfer y Ffilm Fer Orau Ym Mhrydain a gefnogir gan Film4 a Pinewood Studios. Mae gan Wobr Iris 25 o wyliau partner a enwebodd 18 o'r ffilmiau ar y rhestr fer, gyda'r gweddill yn cael eu dewis gan reithgor cyn-ddethol. Mae'r ffilmiau ar y rhestr fer yn adrodd straeon yn amrywio o barti BirthGay dod allan; fflyrtio mewn llyfrgell; merch ifanc a'i ffrind gorau sy’n ysbryd; cyfarfyddiadau siawns; a chamddealltwriaeth sy'n arwain at drasiedi.
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Gwobr Iris: “Nid gêm rifau yn unig mohoni, ond gallwn frolio 35 o ffilmiau byrion gwych ar y fwydlen ar gyfer ein 17eg rhifyn o Ŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris. Rydym yn falch o gyhoeddi rhestr fer eleni o 21 o wledydd, ac yn arbennig o falch o weld chwe ffilm o’r DU ac Iwerddon. Yn sicr nid dyma’r gyntaf – ac nid dyma’r tro olaf, mae’n siŵr – bod gennym ni ddwy ffilm mewn cystadleuaeth ryngwladol sy’n ymddangos yn y categori Gorau Ym Mhrydain. "Mae'r flwyddyn hon yn arbennig wrth i ni symud i'n pencadlys digwyddiadau newydd, Sinema Vue, yng nghanol Caerdydd, yng nghysgod Stadiwm y Principality. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ffans ffilm, arbenigwyr diwydiant, a gwneuthurwyr ffilm, i'r ŵyl unwaith eto. "Mae Iris yn ŵyl arbennig. Rydym yn dibynnu ar ein gwirfoddolwyr i wneud profiad yr ŵyl mor esmwyth â phosibl, a'n nifer wych a chynyddol o aelodau sy'n cefnogi ac yn rhannu cariad y teulu Iris. Mae aelodaeth Iris yn agored i bawb, ac fel diolch i'n haelodau, rydym yn agor ein swyddfa docynnau yn unig iddynt rhwng 4 a 18 Medi. "Yn ogystal â'n cystadlaethau ffilmiau byrion byddwn yn sgrinio 12 ffilm nodwedd o bob cwr o'r byd, yn ogystal â ffilmiau a grëwyd gan fyfyrwyr ffilm a'n prosiectau cymunedol, a bydd sgyrsiau dan arweiniad y diwydiant. Dewch i ymuno ag Iris a'i theulu yng Nghaerdydd rhwng 10 a 15 Hydref."
Gallwch weld yr holl ffilmiau ar y rhestr fer gyda manylion ychwanegol am y cyfarwyddwyr a'r delweddau drwy ddilyn y ddolen hon: