Two Iris Prize Productions feature at the prestigious Roze Filmdagen in Amsterdam

• A National Lottery Community Fund Iris in the Community film “I Shall Be Whiter Than Snow” features alongside “Cardiff” at the prestigious Amsterdam festival
• Roze Filmdagen - the Amsterdam LGBTQ Film Festival has been a partner festival of the Iris Prize since day one
• Both films are an example of excellence in storytelling and are sure to make you cry and laugh
• “We help get films made with the Iris Prize and our community work. But that’s only half the picture, making sure that they get seen is also important”
ISBWTS Poster - Iris Prize Productions
Organisers of the world’s largest LGBTQ+ short film festival have today (1 March, 2023) announced that two films produced by Iris have been invited to screen at the prestigious Roze Filmdagen in Amsterdam.
The Cardiff-based Iris Prize LGBTQ+ Film Festival is proud to present I Shall Be Whiter Than Snow, directed by Frederick Stacey, a community film made possible through National Lottery Community Funding, and Cardiff, a film made by Sarah Smith, who won the international Iris Prize supported  by the Michael Bishop Foundation in 2019.
Berwyn Rowlands, Iris Prize Film Festival Director said: “I am delighted that two important films have been recognized like this. We help get films made with the Iris Prize and our community work. But that’s only half the picture, making sure that they get seen is also important. “I Shall be Whiter than Snow is a community film created by people taking part in our Lottery supported diversity project.“Cardiff is a wonderful example of what you can make with the Iris Prize. This is our 12th film produced with a winner of the Iris Prize. “Both films have one thing in common, they are great examples of excellence in storytelling and are sure to make you laugh and cry, and I can’t wait to see how the Amsterdam audience respond.”

Gareth Williams, Funding Manager at The National Lottery Community Fund said: “At the Fund, we are proud to support projects like these that bring diverse communities together, create stronger social connections and help develop new skills. “It is great to see the work of the Iris Prize being recognised internationally. Thanks to National Lottery players last year we awarded over half a billion pounds of life-changing funding to communities across the UK.”
Iris has made these films available free of charge to cinemas and other venues in Wales, although donations to Iris are always welcome. It is hoped that other programmers will be attending screenings at the Roze Filmdagen and that more bookings will follow.
Berwyn added: “Our aim at Iris is simply to get more people to see LGBTQ+ stories and this invitation to the longest running queer film festival in the Netherlands is a great way to start.”

ISBWTS Still - Iris Prize ProductionsI Shall Be Whiter Than Snow (PG) | Dir. Frederick Stacey | 17 Mins This short film is based on the true story of a lesbian couple, Kim and Roseann, who were married at Velindre Hospital, Cardiff in 2018 whilst Kim was receiving treatment for cancer. This emotional film is a touching love story between two women and a celebration of the amazing staff who work for our NHS and the importance of compassionate care. The film stars Rebecca Harries and Lynn Hunter, supported by a cast of NHS professionals. Cardiff Still - Iris Prize ProductionsCardiff (15)| Dir. Sarah Smith | 25 Mins Perpetually single, Frederick envies his fabulous gay friend Joe, who seems to have a never-ending supply of paramours despite being happily married himself. But when Frederick’s meddling mother arrives for a visit, she thrusts him into a forbidden romance, and a series of unforeseen betrayals hilariously expose some carefully held secrets. The film stars Welsh Icon Ruth Madoc, in her final on screen role, Stifyn Parri and Richard Elis.
The Iris Prize is currently in the middle of a second Lottery award for community film-making, and this year will see six more films produced by Iris in the Community with funding from the National Lottery Community Fund.
Working title TBC Yr Urdd, Ynys Mon Working with young people on/around Ynys Mon and discussing the experience of being a young LGBTQ+ person in that area.
Creating a Sense of Belonging (working title)  Rainbowbiz, Mold A documentary about the Rainbowbiz initiatives for the community in Mold including Digging Deeside, The Rainbowbiz Hippy Shop and Musical Mates
Battling an Ocean (working title)  A documentary where queer people discuss their experiences of living in Ceredigion
Fruits of the Spirit (working title) The Gathering, Cardiff A drama following a lesbian couple who are shunned from their church due to homophobia and find acceptance in a queer church community
Supporting Queer Menopause (working title)  Menopause Inclusion Collective, Wales Wide A docu/drama centred on a person experiencing menopause who struggles to get the support they need through their GP and finds the 'Menopause Cafe' where queer people experiencing menopause meet. We hear many stories of queer menopause, including trans experiences.
Working Title TBC Glitter Cymru, Cardiff A drama about intersectionality & microagressions.

Mae dau Gynhyrchiad Gwobr Iris yn ymddangos yng ngŵyl nodedig Roze Filmdagen yn Amsterdam

  • Mae "I Shall Be Whiter Than Snow" – ffilm Iris yn y Gymuned a ariannir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol - yn ymddangos ochr yn ochr â "Cardiff" yng ngŵyl nodedig Amsterdam
  • Mae Roze Filmdagen - Gŵyl Ffilm LHDTQ Amsterdam - wedi bod yn ŵyl bartner i Wobr Iris ers y diwrnod cyntaf
  • Mae'r ddwy ffilm yn enghraifft o ragoriaeth mewn adrodd straeon ac yn sicr o wneud i chi grio a chwerthin
  • "Rydyn ni'n helpu i wneud ffilmiau gyda Gwobr Iris a'n gwaith cymunedol. Ond dim ond hanner y dasg yw hynny, mae gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu gweld hefyd yn bwysig"
Heddiw (1 Mawrth, 2023) cyhoeddodd trefnwyr gŵyl ffilm fer LHDTQ+ fwyaf y byd fod dwy ffilm a gynhyrchwyd gan Iris wedi cael eu gwahodd i'r sgrin yn y Roze Filmdagen nodedig yn Amsterdam.
Mae Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris yng Nghaerdydd yn falch o gyflwyno I Shall Be Whiter Than Snow, a gyfarwyddwyd gan Frederick Stacey, ffilm gymunedol a wnaed yn bosibl drwy Gyllid Cymunedol y Loteri Genedlaethol, a Cardiff, ffilm a wnaed gan Sarah Smith, a enillodd y Wobr Iris ryngwladol a gefnogir gan Sefydliad Michael Bishop yn 2019.
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Gwobr Iris: "Rwyf wrth fy modd bod dwy ffilm bwysig wedi cael eu cydnabod fel hyn. Rydyn ni’n helpu i gael ffilmiau wedi eu gwneud gyda Gwobr Iris a'n gwaith cymunedol. Ond dim ond hanner y gwaith yw hyn, mae gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu gweld hefyd yn bwysig. "Mae I Shall be Whiter than Snow yn ffilm gymunedol a grëwyd gan bobl sy'n cymryd rhan yn ein prosiect amrywiaeth a gefnogir gan y Loteri. “Mae Cardiff yn enghraifft wych o'r hyn allwch chi ei wneud gyda Gwobr Iris. Dyma ein 12fed ffilm a gynhyrchwyd gydag enillydd Gwobr Iris. "Mae gan y ddwy ffilm un peth yn gyffredin, maen nhw'n enghreifftiau gwych o ragoriaeth mewn adrodd straeon ac yn siŵr o wneud i chi chwerthin a chrio, a dw i methu aros i weld sut mae cynulleidfa Amsterdam yn ymateb."

Dywedodd Gareth Williams, Rheolwr Cyllido Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Yn y Gronfa, rydym yn falch o gefnogi prosiectau fel y rhain sy'n dod â chymunedau amrywiol at ei gilydd, yn creu cysylltiadau cymdeithasol cryfach a helpu i ddatblygu sgiliau newydd. “Mae'n wych gweld gwaith Gwobr Iris yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol y llynedd fe wnaethom ddyfarnu dros hanner biliwn o bunnoedd o gyllid sy'n newid bywyd i gymunedau ar draws y DU."
Mae Iris wedi sicrhau bod y ffilmiau hyn ar gael yn rhad ac am ddim i sinemâu a lleoliadau eraill yng Nghymru, er bod croeso bob amser i roddion i Iris. Y gobaith yw y bydd rhaglenwyr eraill yn mynychu dangosiadau yn y Roze Filmdagen ac y bydd mwy o archebion yn dilyn.
Ychwanegodd Berwyn: "Ein nod yn Iris, yn syml, yw cael mwy o bobl i weld straeon LHDTQ+ ac mae'r gwahoddiad hwn i'r ŵyl ffilm queer hynaf yn yr Iseldiroedd yn ffordd wych o ddechrau."

I Shall Be Whiter Than Snow (PG) | Cyf. Frederick Stacey | 17 Munud Mae'r ffilm fer hon yn seiliedig ar stori wir cwpl lesbiaidd, Kim a Roseann, a briododd yn Ysbyty Felindre, Caerdydd yn 2018 tra roedd Kim yn cael triniaeth am ganser. Mae'r ffilm emosiynol hon yn stori garu deimladwy rhwng dwy fenyw ac mae hefyd yn ddathliad o'r staff anhygoel sy'n gweithio i'n GIG a phwysigrwydd gofal tosturiol. Mae'r ffilm yn serennu Rebecca Harries a Lynn Hunter, gyda chefnogaeth cast o weithwyr proffesiynol y GIG.
Cardiff (15)| Dir. Sarah Smith | 25 Mins Yn barhaol sengl, mae Frederick yn genfigennus o’i ffrind hoyw gwych Joe, sy'n ymddangos fel pe bai ganddo gyflenwad diddiwedd o gariadon er iddo fod yn briod ei hun, yn hapus. Ond pan fydd mam fusneslyd Frederick yn cyrraedd am ymweliad, mae hi'n ei wthio i ramant waharddedig, ac mae cyfres o fradychiadau annisgwyl yn datgelu rhai cyfrinachau. Mae’r ffilm yn serennu yr icon Gymreig diweddar, Ruth Madoc, yn ei rhan olaf ar y sgrin, Stifyn Parri a Richard Elis.
Ar hyn o bryd mae Gwobr Iris yng nghanol ail wobr y Loteri am greu ffilmiau cymunedol, ac eleni bydd chwe ffilm arall yn cael eu cynhyrchu gan Iris yn y Gymuned gydag arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Teitl Gwaith i'w gadarnhau  Yr Urdd, Ynys Môn Gweithio gyda phobl ifanc ar/o gwmpas Ynys Môn a thrafod y profiad o fod yn berson LHDTC+ ifanc yn yr ardal honno.
Creating a Sense of Belonging (teitl gwaith)  Rainbowbiz, Yr Wyddgrug Rhaglen ddogfen am fentrau Rainbowbiz ar gyfer y gymuned yn yr Wyddgrug gan gynnwys Digging Deeside, The Rainbowbiz Hippy Shop a Musical Mates.
Battling an Ocean (teitl gwaith)  Ffilm ddogfen lle mae pobl queer yn trafod eu profiadau o fyw yng Ngheredigion.
Fruits of the Spirit (teitl gwaith) The Gathering, Caerdydd Drama yn dilyn cwpl lesbiaidd sy'n cael eu cau o'u heglwys oherwydd homoffobia a chael eu derbyn mewn cymuned eglwysig queer.
Supporting Queer Menopause (teitl gwaith)  Menopause Inclusion Collective, ledled Cymru Drama-ddogfen sy'n canolbwyntio ar berson sy'n profi'r menopos sy'n ei chael hi'n anodd cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt trwy eu meddyg teulu ac yn dod o hyd i'r 'Menopause Cafe' lle mae pobl queer sy'n profi'r menopos yn cwrdd. Rydyn ni'n clywed llawer o straeon am y menopos queer, gan gynnwys profiadau traws.
Teitl Gwaith i'w gadarnhau  Glitter Cymru, Caerdydd Drama am groesdoriadedd & ymosodiadau - feicro.