Inspired by the work of trans-led mutual aid project TIN Wardrobe, Wear I Am by Vicky Morton follows a single gender-affirming care package on its journey from sender to recipient.
Vicky Morton said: “Wear I Am follows Leith, founder of the grassroots charity The TIN Wardrobe, as he prepares and sends a parcel of affirmation and connection to a trans stranger somewhere across the UK.Through this simple but powerful act - a donated box of clothes travelling from one life to another - the film explores identity, resilience, and the quiet beauty of gender euphoria. It celebrates how clothing can be both armour and expression, a language through which trans, non-binary and intersex people affirm who they are and find solidarity in one another.
“I’m genuinely honoured that Wear I Am has been selected for the Iris Prize Documentary Film Fund. I feel like I've grown up alongside the festival, and I’ve always been inspired by its commitment to championing queer stories with heart, honesty, and courage. As a queer Welsh filmmaker, I’ve long felt proud that one of the world’s most respected LGBTQ+ film festivals was born right here in Wales. It’s been a personal goal of mine to one day have a film screen at Iris - so to know that Wear I Am will be part of the 20th edition feels both surreal and deeply special.”The Fund awards a single documentary film proposal a production grant of up to £20,000 for a 20-minute film. The subject of the chosen film must be British and LGBTQ+. Priority will be given to stories from or about communities traditionally underrepresented in UK productions. The Iris Prize team will work with the originator of the idea to produce the film. The finished film will be premiered at the 20th edition of the Iris Prize LGBTQ+ Film Festival in October 2026 and after a theatrical window be shown on OUTflix’s platforms worldwide.
Angela Clarke, BAFTA-nominated documentary filmmaker who has been looking after the shortlisting process said: “Vicky and the team presented a really strong and compelling idea this year, and I’m really excited to see how it takes shape over the coming months.”
Philip Webb, COO of OUTtv, said: "Now more than ever, it is vital to celebrate and platform stories from the trans community – and we're proud to be supporting the creation of a documentary that honours the vital work of charities supporting trans, non-binary and intersex people across the UK, through the lens of connection and affirmation through clothing. We're looking forward to seeing Vicky's project develop through our partnership with the Iris Prize, and to bring what promises to be a hugely powerful documentary to our audiences around the world."
Find More: Iris Prize Documentary Fund
Berwyn Rowlands, Festival Director said: “This is a wonderful project full of joy and optimism and I can’t wait to be in a position to share the finished film. The support from the University of South Wales has allowed Iris to expand the documentary fund sponsored by OUTtv to support the development of students working in documentary film making in South Wales."
Full details about Iris can be found here: www.irisprize.org
The main festival sponsors are: The Michael Bishop Foundation; Creative Wales, a Welsh Government agency that supports the creative sectors in Wales; the BFI awarding funds from The National Lottery; Ffilm Cymru Wales; Film4; University of South Wales; Co-op Respect; Ymddiried - Media Grants Cymru, Bad Wolf; S4C; Gorilla Group; Pinewood Studios; Attitude Magazine; Diva Magazine; Movie Marker; The Ministry Venues; Transport for Wales; Stadium Plaza; and OUTflix. The festival also works in partnership with BAFTA Cymru and Pride Cymru.Vicky Morton yn ennill gwobr fawreddog Cronfa Cyllid Ffilm Ddogfen Gwobr Iris
- Bydd Wear I Am gan Vicky Morton yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar noson agoriadol 20fed Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris ym mis Hydref 2026
- Noddir Cronfa Cyllid Ffilm Ddogfen fawreddog Gwobr Iris gan OUTflix a Phrifysgol De Cymru
- “Cyflwynodd Vicky a’r tîm syniad cryf a chymhellol iawn eleni, ac rwy’n gyffrous iawn i weld sut y bydd yn datblygu dros y misoedd nesaf.” Angela Clarke, Gwobr Iris
- “Rwy’n teimlo fy mod i wedi tyfu i fyny ochr yn ochr â’r ŵyl, ac rwyf bob amser wedi cael fy ysbrydoli gan ei hymrwymiad i hyrwyddo straeon cwiar gyda chalon, gonestrwydd a dewrder.” Vicky Morton
Dywedodd Vicky Morton: “Mae Wear I Am yn dilyn Leith, sylfaenydd yr elusen lawr gwlad The TIN Wardrobe, wrth iddo baratoi ac anfon parsel o gadarnhad a chysylltiad at ddieithryn trawsrywiol rywle yn y DU.Trwy’r weithred syml ond bwerus hon - blwch o ddillad a roddwyd yn teithio o un bywyd i’r llall - mae’r ffilm yn archwilio hunaniaeth, gwydnwch, a harddwch tawel ewfforia rhywedd. Mae’n dathlu sut y gall dillad fod yn arfwisg ac yn fynegiant, iaith lle mae pobl drawsrywiol, anneuaidd a rhyngrywiol yn cadarnhau pwy ydynt ac yn dod o hyd i undod yn ei gilydd.
“Rwy’n teimlo’n wirioneddol anrhydeddus bod Wear I Am wedi cael ei dewis ar gyfer Cronfa Ffilm Ddogfen Gwobr Iris. Rwy’n teimlo fy mod i wedi tyfu i fyny ochr yn ochr â’r ŵyl, ac rwyf bob amser wedi cael fy ysbrydoli gan ei hymrwymiad i hyrwyddo straeon cwiar gyda chalon, gonestrwydd a dewrder. Fel gwneuthurwr ffilmiau cwiar o Gymru, rwyf wedi teimlo’n falch ers tro bod un o wyliau ffilm LHDTQ+ mwyaf uchel ei pharch y byd wedi’i geni yma yng Nghymru. Mae wedi bod yn nod personol i mi gael dangos ffilm yn Iris un diwrnod - felly mae gwybod y bydd Wear I Am yn rhan o’r 20fed rhifyn yn teimlo’n swreal ac yn arbennig iawn.”Mae’r Gronfa yn dyfarnu grant cynhyrchu hyd at £20,000 i un cynnig ffilm ddogfen am ffilm 20 munud. Rhaid i bwnc y ffilm a ddewisir fod yn Brydeinig ac yn LHDTQ+. Rhoddir blaenoriaeth i straeon o gymunedau sydd wedi'u tangynrychioli'n draddodiadol mewn cynyrchiadau'r DU, neu amdanynt. Bydd tîm Gwobr Iris yn gweithio gyda chreawdwr y syniad i gynhyrchu'r ffilm. Bydd y ffilm orffenedig yn cael ei dangos am y tro cyntaf yn 20fed rhifyn Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris ym mis Hydref 2026 ac ar ôl cyfnod theatrig caiff ei dangos ar lwyfannau OUTflix ledled y byd.
Dywedodd Angela Clarke, gwneuthurwr ffilmiau dogfen a enwebwyd am BAFTA ac sydd wedi bod yn gofalu am y broses o lunio rhestr fer: “Cyflwynodd Vicky a’r tîm syniad cryf a chymhellol iawn eleni, ac rwy’n gyffrous iawn i weld sut y bydd yn datblygu dros y misoedd nesaf.”
Dywedodd Philip Webb, Prif Swyddog Gweithredu OUTtv: "Nawr yn fwy nag erioed, mae'n hanfodol dathlu a llwyfannu straeon o'r gymuned drawsryweddol - ac rydym yn falch o gefnogi creu ffilm ddogfen sy'n anrhydeddu gwaith hanfodol elusennau sy'n cefnogi pobl drawsryweddol, anneuaidd a rhyngrywiol ledled y DU, trwy lens cysylltiad a chadarnhad trwy ddillad. Rydym yn edrych ymlaen at weld prosiect Vicky yn datblygu trwy ein partneriaeth â Gwobr Iris, ac i ddod â'r hyn sy'n addo bod yn rhaglen ddogfen hynod bwerus i'n cynulleidfaoedd ledled y byd."
Mwy o wybodaeth: Cronfa Ddogfen Gwobr Iris
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr yr Ŵyl: “Mae hwn yn brosiect gwych yn llawn llawenydd ac optimistiaeth ac alla i ddim aros i fod mewn sefyllfa i rannu’r ffilm orffenedig. Mae’r gefnogaeth gan Brifysgol De Cymru wedi caniatáu i Iris ehangu’r gronfa rhaglenni dogfen a noddir gan OUTtv i gefnogi datblygiad myfyrwyr sy’n gweithio ym maes gwneud ffilmiau dogfen yn Ne Cymru.”
Mae manylion llawn am Iris i'w cael yma: www.irisprize.org
Prif noddwyr yr ŵyl yw: Sefydliad Michael Bishop; Cymru Greadigol, un o asiantaethau Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi'r sectorau creadigol yng Nghymru; y BFI sy'n dyfarnu arian gan y Loteri Genedlaethol; Ffilm Cymru Wales; Film4, Prifysgol De Cymru; Co-op Respect; Ymddiried - Media Grants Cymru; Bad Wolf; S4C; Grŵp Gorilla; Pinewood Studios; Cylchgrawn Attitude; Cylchgrawn Diva; Movie Marker; The Ministry Venues; Trafnidiaeth Cymru; Plaza’r Stadiwm; ac OUTflix. Mae'r ŵyl hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â BAFTA Cymru a Pride Cymru.