Star turns take time to talk at #IRIS23 – Iris presents four talks with industry experts

• Russell T Davies and Heartstopper director Euros Lyn return to Iris
• Dr Emily Garside talks about her new book focusing on the work of Russell T Davies, Gay Aliens and Queer Folk
• Mr Gay Wales, Paul ‘Stumpy’ Davies hosts a session looking at which queer productions should be saved, and which should be shelved
• Iris Week starts on 10 October 2023
• “At Iris we watch films and talk about films”
Organisers of this year’s Iris Prize LGBTQ+ Film Festival supported by The Michael Bishop Foundation are proud to present four sessions in the Iris Talks strand of the six-day festival, which opens in Cardiff next week.
Iris is the festival where we get to meet so many of our heroes responsible for some of the best queer TV and film available today, and this year is no exception, as we welcome back Euros Lyn, Emily Garside and Russell T Davies. We also have a new session for this year - The Queer Archive – in or out! – which is a kind of Room 101 for queer film and TV, hosted by Paul ‘Stumpy Davies, the first Mr Gay Wales with a physical disability. Four very different sessions on offer and these all take place at Iris HQ, Vue Cinema, Wood Street, Cardiff.
Berwyn Rowlands, Iris Prize Film Festival Director, said: “I love Netflix and other platforms which we fell in love with during the pandemic. What I love about our October festival is that Cardiff becomes the unofficial United Nations of the LGBTQ+ film world. “As a member of the public, you get to meet so many filmmakers at Iris. This is something not really offered by Netflix. At Iris we watch films and talk about films, and we are very excited to welcome Euros, Russell, Emily back to the festival.”
On Thursday 12 October, Dr Emily Garside, a Cardiff-based writer, will be discussing her book Gay Aliens and Queer Folk.  “Gay Aliens and Queer Folk takes a deep dive into the queer narratives Russell T Davies has brought to our screens, exploring how each work created new space for LGBTQ+ stories to enter our living rooms, and looking at their impact on the people who saw themselves reflected on mainstream television, often for the first time.
“In putting the book out into the world I've found, as one bookshop-owner told me, people see it as 'their' book, and feel seen by it. Whether it's nerdiness or queerness, or both, it seems to be a connection with Davies's stories that pull people in.” Emily chose to write about Russell T Davies’ work primarily due to the sheer variety of the work he’s done. She adds: “Rather than being focused only on one show (as previous books have done for both book and theatre), this was a genre-hopping, style-hopping ride. “The fact too that Davies offers a chance to talk about so many queer topics and things like politics, Welshness and women. But also, his work raised me. He’ll not thank any of us for implying he’s old enough to have raised several generations of queer TV viewers now, but it’s true (and some of us were very young I promise).”
Here is a list of the four Iris Talks
  • Queer Joy with Heartstopper director Euros Lyn
  • Wednesday 11 October, 10.30am
Euros Lyn, the Welsh director behind the beloved Netflix juggernaut Heartstopper, joins us to discuss the series and its impact, along with his incredible television career from Doctor Who, to Sherlock and Happy Valley.
  • Gay Aliens and Queer Folk
  • Thursday 12 October, 10.30am
Author Emily Garside discusses her new exploratory book ‘Gay Aliens and Queer Folk’, diving deep into the works and worlds of the trailblazing Russell T Davies.
  • The Queer Archive – in or out!
  • Friday 13 October, 10.30am
Would you save Ang Lee’s Brokeback Mountain for future generations to enjoy? Paul, our host is presented with four classic queer films to save, but he can only choose one! Join our panel as they try to make a case to save their nominated film. Panellists include Iris Fellow and Bafta winner Jacquie Lawrence; Cinder Chou, award-winning writer and director, now working in film production and member of the international shorts jury; Adam Silver, film producer and distributor at TLA Entertainment Group and a producer of Captain Faggotron Saves the Universe, showing Friday evening; Noel Sutton, a film producer and former Festival Director of GAZE LGBT film festival, Dublin. It could get messy…
  • Russell T Davies in Conversation
  • Saturday 14 October 2023, 10.30am
Ahead of his much-anticipated return to Doctor Who, Welsh screenwriting trailblazer Russell T Davies joins us in conversation to discuss his groundbreaking projects and career. From Queer as Folk, It’s a Sin, Years and Years, Bob & Rose, Cucumber, Casanova, Torchwood, Doctor Who and Nolly. In addition to these talks, every short film programme at Iris will be followed by a Q&A with visiting filmmakers from all over the world.
We are also running a more industry focused programme of talks, to include discussions of authentic trans storytelling; directing masterclass; how to access funding; documentary making panel and 1-2-1's in partnership with Ffilm Cymru Wales and BFI Doc Society; and an Iris/Wal Goch Session. More information is available here
Here is a list of the Industry Talks:
  1. Shorts to Features with Fawzia Mirza Wednesday 11 October, 12.15pm
  2. Breaking into Documentary Storytelling Thursday 12 October, 2pm
  3. The Future of Trans Representation on Screen Thursday 12 October, 6pm
  4. Surviving and Thriving in Screen Friday 13 October, 12pm
  5. Iris Prize/Y Wal Goch Unifying the Game panel debate Friday 13 October, 5pm
  6. Directing Masterclass with Peter Hoar Friday 13 October, 2.30pm

Visit Iris Industry


Tickets are available at irisprize.org/2023-box-office or in person from 10 -15 October 2023 at the Festival Box Office at Vue Cardiff. If you are not a member of Iris, we encourage you to join here: Iris Membership - Iris Prize
Mae’r sêr yn disgleirio yn #IRIS23 – Iris yn cyflwyno pedair sgwrs gydag arbenigwyr y diwydiant
  • Russell T Davies a chyfarwyddwr Heartstopper Euros Lyn yn dychwelyd i Iris
  • Dr Emily Garside yn siarad am ei llyfr newydd yn canolbwyntio ar waith Russell T Davies, Gay Aliens and Queer Folk
  • Mr Gay Wales, Paul 'Stumpy' Davies yn cynnal sesiwn yn edrych ar ba gynyrchiadau queer y dylid eu hachub a pha rai y dylid eu claddu
  • Wythnos Iris yn dechrau ar 10 Hydref 2023
  • "Yn Iris rydyn ni'n gwylio ffilmiau ac yn siarad am ffilmiau"
Mae trefnwyr Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris gyda chefnogaeth Sefydliad Michael Bishop yn falch o gyflwyno pedair sesiwn yn llinyn Sgyrsiau Iris yr ŵyl chwe diwrnod, sy'n agor yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf.
Iris yw'r ŵyl lle cawn gwrdd â chymaint o'n harwyr sy'n gyfrifol am rai o'r teledu a'r ffilm queer gorau sydd ar gael heddiw, ac nid yw eleni yn eithriad, wrth i ni groesawu Euros Lyn, Emily Garside a Russell T Davies yn ôl.
Mae gennym hefyd sesiwn newydd ar gyfer eleni - Yr Archif Queer – i mewn neu allan! - sy'n fath o Ystafell 101 ar gyfer ffilm a theledu queer, a gynhelir gan Paul 'Stumpy Davies, y Mr Gay Cymru cyntaf gydag anabledd corfforol. Mae pedair sesiwn wahanol iawn ar gael ac mae'r rhain i gyd yn cael eu cynnal ym Mhencadlys Iris, Sinema Vue, Stryd Wood, Caerdydd. Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Gwobr Iris: "Rwy'n caru Netflix a llwyfannau eraill y gwnaethom syrthio mewn cariad â nhw yn ystod y pandemig. Yr hyn rwy'n ei garu am ein gŵyl ym mis Hydref yw bod Caerdydd yn troi yn genhedloedd unedig answyddogol y byd ffilm LHDTQ+. "Fel aelod o'r cyhoedd, rydych chi'n cael cwrdd â chymaint o wneuthurwyr ffilm yn Iris. Mae hyn yn rhywbeth nad yw Netflix yn ei gynnig. Yn Iris rydyn ni'n gwylio ffilmiau ac yn siarad am ffilmiau, ac rydyn ni'n gyffrous iawn i groesawu Euros, Russell, Emily yn ôl i'r ŵyl."
Ddydd Iau 12 Hydref, bydd Dr Emily Garside, awdur o Gaerdydd, yn trafod ei llyfr Gay Aliens and Queer Folk.  "Mae Gay Aliens and Queer Folk yn plymio'n ddwfn i'r naratifau queer mae Russell T Davies wedi dod i'n sgriniau, gan archwilio sut y creodd pob gwaith ofod newydd i straeon LHDTQ+ fynd i mewn i'n hystafelloedd byw, ac edrych ar eu heffaith ar y bobl a welodd eu hunain yn cael eu hadlewyrchu ar deledu prif ffrwd, yn aml am y tro cyntaf.
"Wrth gyhoeddi’r llyfr, dw i wedi darganfod, fel y dywedodd un perchennog siop lyfrau wrtha i, bod pobl yn ei weld fel eu llyfr 'nhw', ac yn teimlo eu bod yn cael eu gweld o’u herwydd. Boed yn nerdiness neu'n queerness, neu'r ddau, mae'n ymddangos taw cysylltiad â straeon Davies sy'n tynnu pobl i mewn." Dewisodd Emily ysgrifennu am waith Russell T Davies yn bennaf oherwydd amrywiaeth enfawr y gwaith y mae wedi'i wneud. Ychwanegodd: "Yn hytrach na chanolbwyntio ar un sioe yn unig (fel y mae llyfrau blaenorol wedi'u gwneud ar gyfer y llyfr a'r theatr), roedd hon yn daith sy'n neidio rhwng gwahanol ffurfiau ac arddulliau. "Mae'r ffaith hefyd bod Davies yn cynnig cyfle i siarad am gymaint o bynciau queer a phethau fel gwleidyddiaeth, Cymreictod a menywod. Ond mae ei waith wedi bod yn rhan o fy magwraeth i. Ni fydd yn diolch i'r un ohonom am awgrymu ei fod yn ddigon hen i fod wedi magu sawl cenhedlaeth o wylwyr teledu queer nawr, ond mae'n wir (ac roedd rhai ohonom yn ifanc iawn rwy'n addo)."
Dyma restr o'r pedair Sgwrs Iris
  • Llawenydd Queer gyda chyfarwyddwr Heartstopper, Euros Lyn
  • Dydd Mercher 11 Hydref, 10.30am
Mae Euros Lyn, y cyfarwyddwr Cymreig y tu ôl i'r anhygoel Heartstopper ar Netflix, yn ymuno â ni i drafod y gyfres a'i heffaith, ynghyd â'i yrfa deledu anhygoel o Doctor Who, i Sherlock, a Happy Valley.
  • Aliwns Hoyw a Phobl Queer
  • Dydd Iau 12 Hydref, 10.30am
Mae'r awdur Emily Garside yn trafod ei llyfr archwiliadol newydd 'Gay Aliens and Queer Folk', gan blymio'n ddwfn i gyfresi a bydoedd yr arloesol Russell T Davies.
  • Yr Archif Queer – i mewn neu allan!
  • Dydd Gwener 13 Hydref, 10.30am
A fyddech chi'n achub Brokeback Mountain gan Ang Lee i genedlaethau'r dyfodol ei gweld? Mae Paul, ein gwesteiwr yn cael pedair ffilm queer glasurol i’w hachub, ond dim ond un y gall ei ddewis! Ymunwch â'n panel wrth iddynt geisio cyflwyno achos i achub eu ffilm enwebedig. Ymhlith y panelwyr mae Cymrawd Iris ac enillydd BAFTA Jacquie Lawrence; Cinder Chou, awdur a chyfarwyddwr arobryn, sydd bellach yn gweithio ym maes cynhyrchu ffilmiau ac yn aelod o reithgor y ffilmiau byrion rhyngwladol; Adam Silver, cynhyrchydd ffilm a dosbarthwr yn TLA Entertainment Group a chynhyrchydd Captain Faggotron Saves the Universe, sy’n dangos nos Wener; a Noel Sutton, cynhyrchydd ffilmiau a chyn-Gyfarwyddwr Gŵyl Ffilm LHDT, Dulyn. Gallai fynd yn rhemp...
  • Sgwrs gyda Russell T Davies
  • Dydd Sadwrn 14 Hydref 2023, 10.30am
Cyn ei ddychweliad hir-ddisgwyliedig i Doctor Who, mae'r sgriptiwr arloesol o Gymru, Russell T Davies, yn ymuno â ni i drafod ei yrfa a’r prosiectau wnaeth torri tir newydd. O Queer as Folk, It’s a Sin, Years and Years, Bob & Rose, Cucumber, Casanova, Torchwood, Doctor Who a Nolly. Yn ogystal â'r sgyrsiau hyn, bydd pob rhaglen ffilm fer yn Iris yn cael ei dilyn gan sesiwn holi ac ateb gyda gwneuthurwyr ffilmiau gwadd o bob cwr o'r byd.
Rydym hefyd yn cynnal rhaglen o sgyrsiau sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, i gynnwys trafodaethau am adrodd straeon traws dilys; dosbarth meistr cyfarwyddo; sut i gael gafael ar gyllid; panel gwneud dogfennau a 1-2-1 mewn partneriaeth â Ffilm Cymru Wales a BFI Doc Society; a Sesiwn Iris/Wal Goch. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn
Dyma restr o'r Sgyrsiau Diwydiant:
  • O ffilmiau byrion i ffilmiau nodwedd, gyda Fawzia Mirza Dydd Mercher 11 Hydref, 12.15pm
  • Mynd ati i adrodd straeon dogfen Dydd Iau 12 Hydref, 2pm
  • Dyfodol cynrychiolaeth Draws ar sgrin Dydd Iau 12 Hydref, 6pm
  • Goroesi a ffynnu ar y sgrin Dydd Gwener 13 Hydref, 12pm
  • Dosbarth meistr cyfarwyddo gyda Peter Hoar Dydd Gwener 13 Hydref, 2.30pm
  • Gwobr Iris/Y Wal Goch dadl banel Uno'r Gêm Dydd Gwener 13 Hydref, 5pm

Mae tocynnau ar gael yn irisprize.org/2023-box-office neu yn bersonol rhwng 10 a 15 Hydref 2023 yn Swyddfa Docynnau'r Ŵyl yn Vue Caerdydd. Os nad ydych yn aelod, rydym yn eich annog i ymuno yma: Iris Membership - Iris Prize