Big Lottery Fund backs ambitious Iris Prize project

• Big Lottery Fund backs ambitious LGBT film festivals across Wales

• 36 communities will get to produce a short film

• Iris Prize Outreach appoints Mark Williams to lead team
The organization responsible for running the Iris Prize, the world’s largest LGBT short film prize, has been awarded a Big Lottery Fund grant of £247,462 to launch and run a new project called Iris in the Community. The project will work to build tolerance and understanding of Wales’ LGBT communities, promoting equality and diversity alongside community cohesion. The ambitious project will run for three years and involve 36 communities across Wales. Each project will include the production of a short film and the production of a film festival. If you want to get involved in the project then please fill in the Iris in the Community Booking Form and email it to Jamie@irisprize.org Iris Prize Chair, Andrew Pierce commented: “We are thrilled, especially as we approach our 10th anniversary year, that we now have the funding to extend our outreach work across the whole of Wales. We have already been active in working with school groups in Wales and can’t wait to reach a wider audience. Film is a democratic medium which in our experience allows people to express ideas about how they feel. This ambitious project will take us into many communities and I hope that by the end we will have helped many thousands of people to understand the diverse make up of LGBT communities, leading to improved community relations.” The funding has allowed the organisation to employ three members of staff. Mark Williams has been appointed the Project Facilitator and will lead the team which includes Nathaniel Plevyak (Media Worker) and Jamie Williams (administrator). Iris Prize, Managing Director, Berwyn Rowlands commented: “Mark is a steady pair of hands with a proven track record of delivering outreach work in the wider community. His commitment to LGBT rights is much respected and I’m delighted that he is able to take on this important role with the iris Prize. The full team, together bring a breadth of experience working in delivering festivals and co-ordinating productions.” Mark Williams, Project Facilitator, Iris in the Community commented: “I’ve been a supporter of the Iris Prize since its inception having attended every festival. More recently I’ve been able to lead on the education work as Iris expands her outreach work. I can’t wait to start delivering this ambitious project with communities across Wales. “We have already identified and started working with groups but would like to hear from community groups, e.g. church groups, youth groups, employers, unions who would like to take part in the project. They can do this by e-mailing jamie@irisprize.org Highlighting the importance of the People and Places programme,  Rona Aldrich, Wales Committee Member for the Big Lottery Fund, said: “PrograBig Lotery Fund_logommes like People and Places are making a difference to the lives of so many people in communities across Wales. “It delivers on our promise to use National Lottery funding to regenerate and revitalise communities, tackle disadvantage head on and leave a lasting legacy.” Photo: Mark Williams is pictured above (right) taking part in an Iris Prize Outreach project with secondary schools in Wales.      
  • Y Gronfa Loteri Fawr yn ariannu gwyliau ffilm lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws uchelgeisiol ledled Cymru
  • 36 o gymunedau i gael cynhyrchu ffilm fer
  • Gwaith Maes Gwobr Iris yn penodi Mark Williams i arwain y tîm
Dyfarnwyd grant o £247,462 gan y Gronfa Loteri Fawr i'r sefydliad sy'n gyfrifol am redeg Gwobr Iris, sef gwobr ffilmiau byrion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws fwyaf y byd, i lansio a chynnal prosiect newydd o'r enw Iris yn y Gymuned. Bydd y prosiect yn gweithio tuag at feithrin goddefgarwch a dealltwriaeth o gymunedau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws Cymru, gan hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ynghyd â chydlyniad cymunedol. Bydd y prosiect uchelgeisiol yn rhedeg am dair blynedd ac yn cynnwys 36 o gymunedau ledled Cymru. Bydd pob prosiect yn cynnwys cynhyrchu ffilm fer a chynhyrchu gŵyl ffilm. Dywedodd Andrew Pierce, Cadeirydd Gwobr Iris: "Rydyn ni wrth ein bodd, yn enwedig wrth i ni nesáu at flwyddyn ein dengmlwyddiant, ein bod wedi cael arian i ymestyn ein gwaith maes i bob cwr o Gymru. Rydyn ni eisoes wedi bod yn weithgar gyda grwpiau mewn ysgolion yng Nghymru ac yn methu aros i gael cyrraedd cynulleidfa ehangach. Mae ffilm yn gyfrwng democrataidd sydd, yn ein profiad ni, yn galluogi pobl i fynegi syniadau am sut maen nhw'n teimlo. Bydd y prosiect uchelgeisiol yma yn mynd â ni i nifer o gymunedau ac rwy'n gobeithio yn y pen draw y byddwn ni wedi helpu miloedd o bobl i ddeall amrywiaeth cymunedau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws, gan arwain at well perthnasau yn ein cymunedau." Mae'r cyllid wedi galluogi'r sefydliad i gyflogi tri aelod o staff. Mae Mark Williams wedi cael ei benodi fel Hwylusydd y Prosiect a bydd yn arwain y tîm sy'n cynnwys Nathaniel Plevyak (Gweithiwr Cyfryngau) a Jamie Williams (gweinyddwr). Dywedodd Berwyn Rowlands, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwobr Iris: "Mae Mark yn bâr diogel o ddwylo sy'n brofiadol wrth gyflwyno gwaith maes yn y gymuned yn ehangach. Mae llawer o barch at ei ymrwymiad i hawliau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws ac rwy'n falch iawn ei fod wedi gallu ymgymryd â'r rôl bwysig yma gyda Gwobr Iris. Gyda'i gilydd, mae'r tîm cyfan yn cynnig ystod eang o brofiad o weithio ym maes darparu gwyliau a chydlynu cynyrchiadau." Dywedodd Mark Williams, Hwylusydd Prosiect Iris yn y Gymuned: "Rydw i wedi bod yn un o gefnogwr Gwobr Iris ers ei sefydlu ac wedi bod ym mhob un o'r gwyliau. Yn fwy diweddar, rydw i wedi gallu arwain ar y gwaith addysg wrth i Iris ehangu ar ei gwaith maes. Rydw i'n edrych ymlaen yn arw i ddechrau rhannu'r prosiect uchelgeisiol yma gyda chymunedau ledled Cymru. "Rydyn ni eisoes wedi adnabod a dechrau gweithio gyda grwpiau, ond hoffen ni glywed gan grwpiau cymunedol, e.e. grwpiau eglwysi, grwpiau ieuenctid, cyflogwyr ac undebau a fyddai'n hoffi cymryd rhan yn y prosiect. Gallan nhw gysylltu drwy e-bostio jamie@irisprize.org Big Lotery Fund_logoYn amlygu pwysigrwydd y rhaglen Pawb a'i Le, meddai Rona Aldrich, Aelod o Bwyllgor Cymru'r Gronfa Loteri Fawr: "Mae rhaglenni fel Pawb a'i Le'n gwneud gwahaniaeth i fywydau cynifer o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. “Mae'n cyflwyno ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol i adfywio ac adnewyddu cymunedau, mynd i'r afael yn uniongyrchol ag anfantais a gadael etifeddiaeth a fydd yn parhau.”