Cowbridge Pride plays host to Iris Mini Film Festival

• Cowbridge to host world premiere of Am Byth
• “I have attended the Iris Prize Film Festival in the past and was blown away by the talent.” (Ian H Watkins)
• Iris Prize and Cowbridge Pride will work together to produce a community film for 2024
Iris Mini film Festival, Cowbridge
Organisers of Iris Prize LGBTQ+ Film Festival are delighted to announce that they will be supporting Cowbridge Pride this year with an exclusive Iris Prize Mini Film Festival held at Cowbridge Town Hall on 21 June, 2023.  The festival will feature the world premiere of Am Byth, a short film made by Iris in the Community in partnership with NHS Wales and funded by The National Lottery Community Fund. Iris Prize has curated a selection of LGBTQ+ shorts filmed in the local area and celebrating Welsh talent to share with Cowbridge Pride. Friends from The Queer Emporium will be running a bar sponsored by Bont Gin and raising money for Trans Aid Cymru.

Tickets to the screening are free, please email cowbridgeirisfilmfestival@proton.me to secure your place.

Ian H Watkins of Cowbridge Pride said: “Cowbridge Pride is thrilled to be collaborating with the Iris Prize on our upcoming film festival. I am such a fan of their work. I have attended the Iris Prize Film Festival in the past and was blown away by the talent. I am so proud of our collaboration and this is only the beginning of something really special.”
During the evening, which begins with a red carpet reception, three films will be shown: Am Byth, Spoilers, and Cardiff, and following the screenings there will be Q&A with stars from the films Stifyn Parri, Rebecca Harries and Lynn Hunter. Iris Prize and Cowbridge Pride are delighted to be working together to make an LGBTQ+ short film with the community in Cowbridge. With the generous donations collected at the Iris Prize Mini Film Festival at Cowbridge Pride 2023, Iris will work closely with a local group to create the film which will premiere at Cowbridge Pride in 2024.
Berwyn Rowlands, Iris Prize Festival Director, said: “I’ve heard a lot of good things about Cowbridge Pride and adding a mini film-festival sounded like the right thing to do. We are thrilled to be working with Ian, who clearly has way too much energy for one person! The red carpet should be fun before we settle down to watch some amazing LGBTQ+ short films, including the premier of Am Byth. “We are also excited to be embarking on our first film collaboration with Cowbridge Pride. Our community work is funded by the Lottery Community Fund and we will soon have produced 50 short films! Iris also runs LGBTQ+ education and community outreach projects in Wales and the UK throughout the year. Looking forward to what the community in Cowbridge bring us later this year.”
The Iris Prize Mini Film Festival at Cowbridge Pride will feature:
  • Am Byth (World Premiere) |18 mins |Dir. Frederick Stacey  
This short film, made by Iris in the Community in partnership with NHS Wales, is based on the true story of a lesbian couple, Kim and Roseann, who were married at Velindre Hospital, Cardiff in 2018 whilst Kim was receiving treatment for cancer. This emotional film is a touching love story between two women and is also a celebration of the amazing staff who work for our NHS and the importance of compassionate care. The film stars Rebecca Harries (Keeping Faith, Stella) and Lynn Hunter (The Tuckers), who will join us for the post screening Q&A, supported by a cast of NHS professionals.
  • Spoilers |22 Mins |Dir. Brendon McDonnall 
Leon’s loved and lost. He’s hit ground zero and never wants to go through that hell again. But then he meets someone incredible. Life seems full of possibility again. Inside his molecules are a hot mess and figurative butterflies are doing flash mobs in his tummy. BUT… what if he knew the ending before it even began? What if that ending involved more suffering? With all that painful baggage, could he have a second chance at true intimacy?
Perpetually single, Frederick envies his fabulous gay friend Joe, who seems to have a never-ending supply of paramours despite being happily married himself. But when Frederick’s meddling mother arrives for a visit, she thrusts him into a forbidden romance, and a series of unforeseen betrayals hilariously expose some carefully held secrets. The film stars Welsh Icon Ruth Madoc, in her final screen role, Stifyn Parri and Richard Elis.

Tickets to the screening are free, please email cowbridgeirisfilmfestival@proton.me to secure your place.


Pride y Bont-faen yn cynnal Gŵyl Ffilm Fach Iris

  • Y Bont-faen i gynnal première byd Am Byth
  • Rwyf wedi mynychu Gŵyl Ffilm Gwobr Iris yn y gorffennol a chefais fy synnu gan y talent.” (Ian H Watkins)
  • Bydd Gwobr Iris a Pride y Bont-faen yn cydweithio i gynhyrchu ffilm gymunedol ar gyfer 2024
Iris Mini film Festival, CowbridgeMae trefnwyr Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris yn falch o gyhoeddi y byddant yn cefnogi Pride y Bont-faen eleni gyda Gŵyl Ffilm Fach Gwobr Iris unigryw a gynhelir yn Neuadd y Dref y Bont-faen ar 21 Mehefin, 2023.  Bydd yr ŵyl yn cynnwys première byd Am Byth, ffilm fer a wnaed gan Iris yn y Gymuned mewn partneriaeth â GIG Cymru ac a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae Gwobr Iris wedi curadu detholiad o ffilmiau byrion LHDTQ+ a ffilmiwyd yn yr ardal leol ac yn dathlu talent o Gymru i'w rhannu gyda Pride y Bont-faen. Bydd ffrindiau o’r Queer Emporium yn rhedeg bar a noddir gan Bont Gin ac yn codi arian ar gyfer Trans Aid Cymru.

Mae tocynnau i'r dangosiadau am ddim, anfonwch e-bost cowbridgeirisfilmfestival@proton.me i sicrhau eich lle.

Dywedodd Ian H Watkins o Pride y Bont-faen: "Mae Pride y Bont-faen yn falch iawn o fod yn cydweithio â Gwobr Iris ar ein gŵyl ffilm sydd ar ddod. Rwy'n gefnogwr mor angerddol o'u gwaith. Rwyf wedi mynychu Gŵyl Ffilm Gwobr Iris yn y gorffennol a chefais fy synnu gan y talent. Rydw i mor falch o'n cydweithrediad a dim ond dechrau rhywbeth arbennig iawn yw hyn."
Yn ystod y noson, sy'n dechrau gyda derbyniad carped coch, bydd tair ffilm yn cael eu dangos: Am Byth, Spoilers, a Cardiff, ac yn dilyn y dangosiadau bydd sesiwn holi ac ateb gyda sêr o'r ffilmiau, sef Stifyn Parri, Rebecca Harries a Lynn Hunter. Mae Gwobr Iris a Pride y Bont-faen yn falch iawn o fod yn cydweithio i greu ffilm fer LHDTQ+ gyda'r gymuned yn y Bont-faen. Gyda'r rhoddion hael a gasglwyd yng Ngŵyl Ffilm Fach Gwobr Iris yn Pride y Bont-faen 2023, bydd Iris yn gweithio'n agos gyda grŵp lleol i greu'r ffilm a fydd yn cael ei dangos am y tro cyntaf yn Pride y Bont-faen yn 2024.
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris: "Rwyf wedi clywed llawer o bethau da am Pride y Bont-faen ac mae ychwanegu gŵyl ffilm fach yn swnio fel y peth iawn i'w wneud. Rydym wrth ein bodd yn gweithio gydag Ian, sydd yn amlwg â gormod o egni i un person! Dylai'r carped coch fod yn hwyl cyn i ni setlo i lawr i wylio rhai ffilmiau byrion LHDTQ+ anhygoel, gan gynnwys y première byd o Am Byth. "Rydym hefyd yn gyffrous i fod yn cychwyn ar ein cydweithrediad ffilm cyntaf gyda Pride y Bont-faen. Mae ein gwaith cymunedol yn cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri a byddwn wedi cynhyrchu 50 ffilm fer cyn bo hir! Mae Iris hefyd yn cynnal prosiectau addysg a gwaith maes cymunedol LHDTQ+ yng Nghymru a'r DU drwy gydol y flwyddyn. Edrychwn ymlaen at yr hyn y mae'r gymuned yn y Bont-faen yn ei greu i ni yn ddiweddarach eleni."
Bydd Gŵyl Ffilm Fach Gwobr Iris yn Pride y Bont-faen yn cynnwys:
  • Am Byth (Première Byd) |18 munud |Cyf. Frederick Stacey  
Mae'r ffilm fer hon, a waned gan Iris yn y Gymuned ar y cyd â’r GIG yng Nghymru, yn seiliedig ar stori wir cwpl lesbiaidd, Kim a Roseann, a briododd yn Ysbyty Felindre, Caerdydd yn 2018 tra roedd Kim yn cael triniaeth am ganser. Mae'r ffilm emosiynol hon yn stori garu deimladwy rhwng dwy fenyw ac mae hefyd yn ddathliad o'r staff anhygoel sy'n gweithio i'n GIG a phwysigrwydd gofal tosturiol.  Mae'r ffilm yn serennu Rebecca Harries a Lynn Hunter, a fydd yn ymuno â ni ar gyfer y sesiwn holi ac ateb ar ôl y dangosiad, gyda chefnogaeth cast o weithwyr proffesiynol y GIG.
  • Spoilers |22 munud |Cyf. Brendon McDonnall 
Mae Leon wedi caru ac wedi colli. Mae wedi taro’r isaf un a byth eisiau mynd trwy'r uffern honno eto. Ond yna mae'n cwrdd â rhywun anhygoel. Mae bywyd yn ymddangos yn llawn posibilrwydd eto. Y tu mewn i'w foleciwlau mae llanast poeth ac mae glöynnod byw ffigurol yn gwneud fflach-mobs yn ei fol. OND... Beth pe bai'n gwybod y diwedd cyn iddo ddechrau hyd yn oed? Beth pe bai'r diwedd hwnnw'n golygu mwy o ddioddefaint? Gyda'r holl atgofion poenus hynny, a allai gael ail gyfle ar agosatrwydd gwirioneddol?
  • Cardiff  |25 Mins  |Dir. Sarah Smith  
Yn barhaol sengl, mae Frederick yn genfigennus o’i ffrind hoyw gwych Joe, sy'n ymddangos fel pe bai ganddo gyflenwad diddiwedd o gariadon er iddo fod yn briod ei hun, yn hapus. Ond pan fydd mam fusneslyd Frederick yn cyrraedd am ymweliad, mae hi'n ei wthio i ramant waharddedig, ac mae cyfres o fradychiadau annisgwyl yn datgelu rhai cyfrinachau. Mae’r ffilm yn serennu yr icon Gymreig diweddar, Ruth Madoc, yn ei rhan olaf ar y sgrin, Stifyn Parri a Richard Elis.

Mae tocynnau i'r dangosiad am ddim, anfonwch e-bost cowbridgeirisfilmfestival@proton.me i sicrhau eich lle.