New education resource produced in Wales by the Iris Prize

• Funded by Ffilm Cymru Wales, the resource is available in English and Welsh
• Into Film to make pack available to all schools in the UK

Cardiff based Iris Prize LGBT+ Film Festival have produced a new education pack designed for educators to discuss gender, sexuality and trans inclusion with young people. Funded by Ffilm Cymru Wales and written by Tom Barrance, the pack is available in English and Welsh. The teaching pack features five short films with themes of trans issues and inclusion from the Iris Prize Archive – popular films that have been screened at the festival over its fifteen-year history. Each section includes a description of how the film tells its story, and suggested activities: ‘reading’ the film; writing; filmmaking; and using the film to discuss gender, sexuality and trans inclusion. The pack also includes a glossary of film terms.

Berwyn Rowlands, Festival Director said:

“During the pandemic it was impossible for Iris to go into schools. So, we decided to focus on creating this education pack. It has been something we felt was needed for a long time, a resource which would allow educators and young people to gain much more from watching the short films we have been making available to schools for years. “The funding from Ffilm Cymru Wales allowed us to work with Tom Barrance, who is a much-respected Film educator with over 30 years’ experience of working in schools and communities, delivering training and creating resources for filmmaking, Media Studies and Film Studies. “Today we are delighted to confirm we have secured the support of Into Film to make sure that that the teaching pack is available to schools across the UK. Into Film engages with over half of UK schools and offers trusted, free educational support for teachers, advocating the use of film as a powerful tool for learning. “As we continue to celebrate LGBT+ History Month (February) I’m thrilled that this pack, produced and funded in Wales, is now available throughout the UK, and will be available year-round.” Pupils from several Co-op Academies in Manchester attended an Iris Prize Education Day as part of Iris on the Move recently and were the first to use the pack.

More information about the pack is available here:

https://www.intofilm.org/resources/1820

https://www.intofilm.org/films/19868


The main festival sponsors are:

The Michael Bishop Foundation, Creative Wales, a Welsh Government agency that supports the creative sectors in Wales , the BFI awarding funds from The National LotteryFfilm Cymru Wales, Film 4, University of South Wales, Cardiff University, Co-op Respect, Bad Wolf, Gorilla Group, Peccadillo Pictures, Pinewood Studios, Attitude Magazine, Diva Magazine, The Ministry of Sound, Froot and Aberystwyth University.  The festival also works in partnership withBAFTA Cymru, Pride Cymru and Stonewall Cymru.

Adnodd addysg newydd a gynhyrchwyd yng Nghymru gan Wobr Iris

  • Wedi'i ariannu gan Ffilm Cymru Wales, mae'r adnodd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg
  • Into Film i sicrhau bod pecyn ar gael i bob ysgol yn y DU
Mae Gŵyl Ffilm LHDT+ Gwobr Iris o Gaerdydd wedi cynhyrchu pecyn addysg newydd wedi'i gynllunio ar gyfer addysgwyr i drafod rhywedd, rhywioldeb a chynhwysiant traws gyda phobl ifanc. Wedi'i ariannu gan Ffilm Cymru Wales, ac a ysgrifennwyd gan Tom Barrance, mae'r pecyn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r pecyn addysgu yn cynnwys pum ffilm fer gyda themâu materion a chynhwysiant traws o Archif Gwobr Iris – ffilmiau poblogaidd sydd wedi'u sgrinio yn yr ŵyl dros ei hanes pymtheg mlynedd. Mae pob adran yn cynnwys disgrifiad o sut mae'r ffilm yn adrodd ei stori, ac yn awgrymu gweithgareddau: 'darllen' y ffilm; ysgrifennu; gwneud ffilmiau; a defnyddio'r ffilm i drafod rhywedd, rhywioldeb a chynhwysiant traws. Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys rhestr termau ffilm.

Dywed Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr yr Ŵyl:

"Yn ystod y pandemig roedd hi'n amhosib i Iris fynd i ysgolion. Felly, penderfynon ni ganolbwyntio ar greu'r pecyn addysg hwn. Mae wedi bod yn rhywbeth yr oeddem yn teimlo bod ei angen ers amser maith, adnodd a fyddai'n caniatáu i addysgwyr a phobl ifanc ennill llawer mwy o wylio'r ffilmiau byrion sydd ar gael i ysgolion ers blynyddoedd. "Roedd y cyllid gan Ffilm Cymru Wales yn ein galluogi i weithio gyda Tom Barrance, sy'n addysgwr Ffilm uchel ei barch gyda thros 30 mlynedd o brofiad o weithio mewn ysgolion a chymunedau, gan ddarparu hyfforddiant a chreu adnoddau ar gyfer gwneud ffilmiau, Astudiaethau'r Cyfryngau ac Astudiaethau Ffilm. "Heddiw rydym yn falch iawn o gadarnhau ein bod wedi sicrhau cefnogaeth Into Film i sicrhau bod y pecyn addysgu ar gael i ysgolion ledled y DU. Mae Into Film yn ymgysylltu â dros hanner ysgolion y DU ac yn cynnig cymorth addysgol am ddim i athrawon, gan argymell defnyddio ffilm fel arf pwerus ar gyfer dysgu. "Wrth i ni barhau i ddathlu Mis Hanes LHDT+ (Chwefror) rwyf wrth fy modd bod y pecyn hwn, sy'n cael ei gynhyrchu a'i ariannu yng Nghymru, bellach ar gael ledled y DU a thrwy gydol y flwyddyn." Mynychodd disgyblion o sawl Academi Gydweithredol ym Manceinion Ddiwrnod Addysg Gwobr Iris fel rhan o Iris on the Move yn ddiweddar a nhw oedd y cyntaf i ddefnyddio'r pecyn. 

Mae rhagor o wybodaeth am y pecyn ar gael yma:

https://www.intofilm.org/resources/1820  

https://www.intofilm.org/films/19868 


Y prif noddwyr yw:

Sefydliad Michael Bishop, Cymru Greadigol, un o asiantaethau Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi'r sectorau creadigol yng Nghymru, y BFI sy'n dyfarnu arian gan y Loteri Genedlaethol, Ffilm Cymru Wales, Ffilm 4, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Caerdydd, Co-op Respect, Bad Wolf, Grŵp Gorilla, Peccadillo Pictures, Pinewood Studios, Cylchgrawn Attitude, Cylchgrawn Diva, The Ministry of Sound, FROOT a Phrifysgol Aberystwyth. Mae'r ŵyl hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â BAFTA Cymru, Pride Cymru a Stonewall Cymru.