Submissions are open for the 18th edition of the Iris Prize film festival

• Will you be the first Iris Prize winner from Wales or the second winner from Canada?
• Submissions open on 15 January, 2024
• Cardiff to host the world’s best LGBTQ+ short films once again in 2024
• Iris is keen to continue to share LGBTQ+ stories from all over the world and closer to home
• You can still enjoy the 15 shortlisted films for the 2023 Best British Award on Channel 4 streaming until the end of October 2024
Submissions open - 2024
The organisers of the prestigious LGBTQ+ short film festival based in Cardiff are pleased to announce today (15 January 2024) that submissions are open for the 18th edition of the Iris Prize LGBTQ+ Film Festival to be held Tuesday 8 October to Sunday 13 October 2024.
The Iris Prize LGBTQ+ Film Festival is looking for excellent short and feature films and has 14 awards to hand out including the internationally coveted £30,000 Iris Prize supported by the Michael Bishop Foundation.
Closer to home, the winner of the Iris Prize Best British Short sponsored by Film4 and Pinewood Studios will receive a package of services sponsored by Pinewood Studios and all the nominated films are eligible for consideration for BAFTA and can automatically be entered by the filmmakers. All films in the Best British 2024 shortlist will be broadcast on Film4 and available on Channel 4’s streaming service as part of Film4’s continuing support for the Festival.
The Iris Prize LGBTQ+ Film Festival will present 14 awards in the following categories:
  • Iris Prize– the largest LGBTQ+ short film prize in the world supported by The Michael Bishop Foundation
  • Iris Prize Best BritishShort sponsored by Film4 and Pinewood Studios
  • Iris Prize Best British Performance in a Female Role sponsored by Out & Proud
  • Iris Prize Best British Performance in a Male Role sponsored by Out & Proud
  • Iris Prize Best British Performance Beyond the Binary sponsored by Out & Proud
  • Iris Prize Best Feature, sponsored by Bad Wolf
  • Best Performance in a Female Role in a feature film, sponsored by DIVA Magazine
  • Best Performance in a Male Role in a feature film, sponsored by Attitude Magazine
  • Best Performance Beyond the Binary in a feature film, sponsored by Peccadillo Pictures
  • Youth Jury Award sponsored by Cardiff University
  • Community Award sponsored by Mark Williams in memory of Rose Taylor
  • Education Award sponsored by Mark Williams in memory of Rose Taylor
  • Micro Short Award sponsored by Mark Williams in memory of Rose Taylor
  • Iris Prize Co-op Audience Award
Grant Vidgen Iris Prize Company Manager said: “We’ve not long said goodbye to Iris for 2023 and now we find ourselves announcing the dates for submissions opening today (15 January 2024). “Iris18 sees our festival come of age, and we will continue to champion excellence in storytelling from around the world.  The platform we offer new and established LGBTQ+ filmmakers and stories continues to grow, and we hope that this year we will make Iris and our audiences proud by delivering the best festival ever.”

More details about submission dates can be found here https://irisprize.org/lgbtq-film-festival/submissions/


Iris Prize will return this year: Tuesday 8 October – Sunday 13 October 2024.


Y chwilio'n dechrau am enillydd Gwobr Iris wrth i’r ŵyl ddod i oed ar gyfer y 18fed rhifyn o'r Ŵyl ffilmiau nodedig o Gaerdydd

  • Ai chi fydd yr enillydd cyntaf o Gymru, neu’r ail enillydd o Ganada?
  • Ceisiadau yn agor ar 15 Ionawr, 2024
  • Caerdydd i gynnal ffilmiau byrion LHDTQ+ gorau'r byd unwaith eto yn 2024
  • Mae Iris yn awyddus i barhau i rannu straeon LHDTQ+ o bob cwr o'r byd ac yn nes at adref
  • Gallwch barhau i fwynhau'r 15 ffilm sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Brydeinig Orau 2023 ar ffrydio Channel 4 tan ddiwedd mis Hydref 2024

Mae'n bleser gan drefnwyr yr ŵyl ffilmiau fer LHDTQ+ nodedig yng Nghaerdydd gyhoeddi heddiw (15 Ionawr 2024) bod cyflwyniadau'n agored i 18fed rhifyn Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris gael ei chynnal ddydd Mawrth 8 Hydref i ddydd Sul 13 Hydref 2024.
Mae Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris yn chwilio am ffilmiau byrion a ffilmiau nodwedd anhygoel ac mae ganddi 14 o wobrau i'w dosbarthu gan gynnwys Gwobr Iris gwerth £30,000 a gefnogir gan Sefydliad Michael Bishop.
Yn nes at adref, bydd enillydd Gwobr Iris Gorau Ym Mhrydain a gefnogir gan Film4 a Pinewood Studios yn derbyn pecyn o wasanaethau a noddir gan Pinewood Studios ac mae pob un o'r ffilmiau a enwebwyd yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer BAFTA a gellir eu cynnwys yn awtomatig gan y gwneuthurwyr ffilmiau. Bydd yr holl ffilmiau ar restr fer Gorau Ym Mhrydain 2024 yn cael eu darlledu ar Film4 ac ar gael ar wasanaeth ffrydio Channel 4, fel rhan o gefnogaeth barhaus Film4 i'r Ŵyl. Bydd Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris yn cyflwyno 14 o wobrau yn y categorïau canlynol:
  • Gwobr Iris – y wobr am ffilmiau byrion LHDTQ+ fwyaf y byd a gefnogir gan Sefydliad Michael Bishop
  • Gwobr Iris Ffilm Fer Gorau Ym Mhrydain a noddir gan Film4 a Pinewood Studios
  • Gwobr Iris Perfformiad Prydeinig Gorau mewn Rôl Fenywaidd a noddir gan Out & Proud
  • Gwobr Iris Perfformiad Prydeinig Gorau mewn Rôl Wrywaidd a noddir gan Out & Proud
  • Gwobr Iris Perfformiad Prydeinig Gorau y Tu Hwnt i'r Deuaidd a noddir gan Out & Proud
  • Gwobr Iris y Ffilm Nodwedd Orau, a noddir gan Bad Wolf
  • Perfformiad Gorau mewn Rôl Fenywaidd mewn ffilm nodwedd, a noddir gan DIVA Magazine
  • Perfformiad Gorau mewn Rôl Wrywaidd mewn ffilm nodwedd, a noddir gan Attitude Magazine
  • Perfformiad Gorau y Tu Hwnt i'r Deuaidd mewn ffilm nodwedd, a noddir gan Peccadillo Pictures
  • Gwobr y Rheithgor Ieuenctid a noddir gan Brifysgol Caerdydd
  • Gwobr Gymunedol a noddir gan Mark Williams er cof am Rose Taylor
  • Gwobr Addysg a noddir gan Mark Williams er cof am Rose Taylor
  • Gwobr Ffilm Fer Micro a noddir gan Mark Williams er cof am Rose Taylor
  • Gwobr Cynulleidfa’r Co-op Gwobr Iris
Dywedodd Rheolwr Cwmni Gwobr Iris Grant Vidgen: "Dim ond newydd ffarwelio ag Iris 2023 ydym ni a nawr rydym yn cyhoeddi'r dyddiadau ar gyfer cyflwyniadau sy'n agor heddiw (15 Ionawr 2024). "Mae Iris18 yn gweld ein gŵyl yn dod i oed, a byddwn yn parhau i hyrwyddo rhagoriaeth mewn adrodd straeon o bob cwr o'r byd.  Mae'r platfform rydyn ni'n ei gynnig i wneuthurwyr ffilmiau a straeon LHDTQ+ newydd a sefydledig yn parhau i dyfu, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd Iris yn gamp glodwiw eleni wrth i ni gyflwyno'r ŵyl orau erioed."

Mae mwy o fanylion am ddyddiadau cyflwyno ar gael yma https://irisprize.org/lgbtq-film-festival/submissions/


Bydd Gwobr Iris yn dychwelyd eleni: Dydd Mawrth 8 Hydref – Dydd Sul 13 Hydref 2024.