Iris’ latest community production premieres in Cardiff this Saturday

• Fruits of the Spirit, by Georgia Day, is the latest Iris Outreach production
• Chapter Arts Centre in Cardiff hosts the premiere on Saturday 13 January, 2024
• “While Fruits of the Spirit is not a biographical story, it is a very personal one for many of us.” Georgia Day, director
Fruits of the Spirit - Iris in the Community
The organisers of the prestigious Iris Prize LGBTQ+ Film Festival are proud to announce that Fruits of the Spirit: A Gathering Film, made in partnership with Iris Outreach and funded through the National Lottery Community Fund, will have its premiere on Saturday, 13 January 2024, at Chapter Arts Centre, Canton, Cardiff.  The event will start at 7pm, and following the screening there will be a Q&A, plenty of photo opportunities, and a drinks reception.
Fruits of the Spirit tells the story of Maddy and Carys who are outed to their church worship band, and have to fight to stay together, in the face of an institution that wants nothing more than to see them apart. Can they hold onto faith when it seems that their faith doesn’t want them? This is a dramatic tale of hope, perseverance, and religious intolerance – a tale that is familiar to many. 

Georgia Day, the director of Fruits of the Spirit: A Gathering Film, said:

“Established in 2011, The Gathering is an LGBTQ+ church in Cardiff that wants nothing more than to provide a safe space for people that the Christian church has historically rejected: queer people, social misfits, gender transgressors. “Back in 2022, we pitched Fruits of the Spirit to the Iris Prize’s Community Outreach Programme, which funds and produces films from various community groups across Wales. We were successful in our pitch, and began making this film. “While Fruits of the Spirit is not a biographical story, it is a very personal one for many of us. Most of us have felt the sting of rejection from various churches, and, having found a loving community now, wanted to show that it was possible. This film celebrates queerness as a beautiful, tender, and holy thing – something that still needs to be said to whoever will listen.”
Funded by the National Lottery’s Community Fund, Iris Outreach is currently part way through the second Iris in the Community project. During the first project, they worked with organisations across Wales, and together, addressed issues faced by the LGBTQ+ community by creating short films and hosting film festivals. Participants will work alongside professional filmmakers, taking part in acting workshops, and gaining skills in filmmaking and scriptwriting. 
One of the films produced was I Shall Be Whiter Than Snow, which has played at five film festivals and continues to be the most successful Iris Community film to date.

Find more about Iris outreach


Georgia added: “Entry is free on Saturday evening, but there will be opportunities for you to donate towards the work of The Gathering both on the night, and at this link. We want to be able to submit this to film festivals across the world and need your support in order to do so! Please give generously, both for the continuation of this project, and for our other work in forging LGBTQ+ inclusive spaces in the church.”
You can book tickets here – there is limited capacity, and if you can't make it to the premiere, there is a digital review copy to watch.

Iris Prize will return next year: Tuesday 8 October – Sunday 13 October 2024.


Premiere cynhyrchiad cymunedol diweddaraf Iris yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn yma

  • Fruits of the Spirit, gan Georgia Day, yw'r cynhyrchiad Gwaith Maes Iris diweddaraf a ariennir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol trwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
  • Canolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd sy’n cynnal y dangosiad cyntaf ddydd Sadwrn 13 Ionawr, 2024
  • “Er nad yw Fruits of the Spirit yn stori fywgraffyddol, mae'n un bersonol iawn i lawer ohonom." Georgia Day, cyfarwyddwr y ffilm
Mae trefnwyr Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris yn falch o gyhoeddi y bydd Fruits of the Spirit: A Gathering Film, a gynhyrchwyd mewn partneriaeth â Gwaith Maes Iris ac a ariennir trwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn cael ei dangosiad cyntaf ddydd Sadwrn, 13 Ionawr 2024, yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Treganna, Caerdydd.  Bydd y digwyddiad yn dechrau am 7pm, ac yn dilyn y dangosiad bydd sesiwn holi ac ateb, digon o gyfleoedd tynnu lluniau, a derbyniad diodydd.
Mae Fruits of the Spirit yn adrodd hanes Maddy a Carys sydd yn cael eu datgelu heb gydsyniad i'w heglwys, ac yn gorfod ymladd i aros gyda'i gilydd, yn wyneb sefydliad sydd eisiau dim mwy na'u gweld ar wahân. A allant ddal i gredu pan ymddengys nad yw eu ffydd eu heisiau? Dyma stori ddramatig am obaith, dyfalbarhad, ac anoddefgarwch crefyddol – stori sy'n gyfarwydd i lawer.
Dywedodd Georgia Day, cyfarwyddwr Fruits of the Spirit: A Gathering Film: "Wedi'i sefydlu yn 2011, mae The Gathering yn eglwys LHDTQ+ yng Nghaerdydd sydd eisiau darparu lle diogel i bobl y mae'r eglwys Gristnogol wedi'u gwrthod yn hanesyddol: pobl queer, pobl nad ydynt yn gartrefol yn y gymdeithas, troseddwyr rhywedd. "Yn 2022, fe wnaethom gyflwyno Fruits of the Spirit  i Raglen Gwaith Maes Cymunedol Gwobr Iris, sy'n ariannu ac yn cynhyrchu ffilmiau o wahanol grwpiau cymunedol ledled Cymru. Llwyddom yn ein cais a dechrau gwneud y ffilm hon. "Er nad yw Fruits of the Spirit  yn stori fywgraffyddol, mae'n un bersonol iawn i lawer ohonom. Mae'r rhan fwyaf ohonom wedi teimlo pigiad gwrthod o wahanol eglwysi, ac, ar ôl dod o hyd i gymuned gariadus, roeddem am ddangos ei bod yn bosibl. Mae'r ffilm hon yn dathlu bod yn queer fel peth hardd, tyner, a sanctaidd - rhywbeth sydd angen ei adrodd o hyd wrth bwy bynnag fydd yn gwrando."
Wedi'i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae Gwaith Maes Iris ar hyn o bryd yn rhan o'r ffordd drwy'r ail brosiect Iris yn y Gymuned. Yn ystod y prosiect cyntaf, buont yn gweithio gyda mudiadau ledled Cymru, a gyda'i gilydd, mynd i'r afael â materion a wynebodd y gymuned LHDTQ+ trwy greu ffilmiau byrion a chynnal gwyliau ffilm. Bydd cyfranogwyr yn gweithio ochr yn ochr â gwneuthurwyr ffilmiau proffesiynol, yn cymryd rhan mewn gweithdai actio, ac yn magu sgiliau mewn gwneud ffilmiau ac ysgrifennu sgriptiau.
Un o'r ffilmiau a gynhyrchwyd oedd I Shall Be Whiter Than Snow, sydd wedi’i dangos mewn pum gŵyl ffilm ac sy'n parhau i fod y ffilm Iris yn y Gymuned fwyaf llwyddiannus hyd yma.
Ychwanegodd Georgia: "Mae mynediad am ddim nos Sadwrn, ond bydd cyfleoedd i chi gyfrannu tuag at waith The Gathering ar y noson, ac ar y ddolen hon. Rydym am allu cyflwyno hyn i wyliau ffilm ledled y byd ac mae angen eich cefnogaeth er mwyn gwneud hynny! Rhowch yn hael, er mwyn parhau â'r prosiect hwn, ac am ein gwaith arall wrth greu mannau cynhwysol LHDTQ+ yn yr eglwys."
Gallwch archebu tocynnau yma – mae nifer cyfyngedig o seddi, ac os na allwch gyrraedd y premiere, mae copi adolygu digidol ar gael i'w wylio.

Bydd Gwobr Iris yn dychwelyd eleni: Dydd Mawrth 8 Hydref – Dydd Sul 13 Hydref 2024.