Iris On The Move – The 2023 tour begins tomorrow

• Best of Iris to visit towns and cities across the UK in 2023
• Iris Prize international winner and Best British winner to get BIG screen exposure in cinemas across the UK
• Iris On The Move goes to Belfast for the first time
• “It is brilliant that we are adding Northern Ireland to our annual road-trip with Iris”
Eight short films from the 2022 Iris Prize LGBTQ+ Film Festival supported by the Michael Bishop Foundation are available to tour across the UK in 2023. The Best of Iris 2022 programme includes four winning short films and one highly commended title which impressed audiences, including the judges during the Cardiff based festival in October 2022. This diverse selection of outstanding short films showcases unique stories from around the world. The 2023 tour will also include a programme of three new Iris Production Films. Both programmes are made available free of charge to cinemas and other venues in the UK, although donations to Iris are always appreciated.
Berwyn Rowlands, Festival Director said:
“This year, I am thrilled that we are visiting Belfast for the first time.  It is brilliant that we are adding Northern Ireland to our annual road-trip with Iris. “I love meeting the people who make the films, and I will be introducing a number of the screenings personally.  Most of the Iris On The Move screenings will include a Q&A, allowing the audience to have direct access to the visiting filmmakers.”
Iris On The Move 2023 will be visiting the following cities and towns:
  • Bangor (Pontio) Wednesday, 1 February
  • Cardiff (Chapter) Saturday, 4 February
  • Manchester (HOME) Saturday, 4 February
  • Manchester (HOME) Monday, 6 February
  • Bournemouth (Arts University) Tuesday, 7 February
  • Bournemouth (Arts University) Wednesday, 8 February
  • Swansea (Taliesin Arts Centre), Tuesday, 7 February
  • Blackpool (Winter Gardens) Saturday, 11 February
  • Cardiff (Pink Portraits, Revisited) Monday 13 February
  • Cardiff (National Museum) Friday, 17 February
  • Plymouth (Arts University) Tuesday, 21 February
  • Aberystwyth (Arts Centre) Saturday, 25 February
  • Liverpool (FACT at Picturehouse) Monday, 27 February
  • Belfast (Queen’s Film Theatre) Tuesday, 28 February
  • Newcastle (Tyneside) Tuesday, 7 March
  • Bexhill-on-Sea (De La Warr Pavilion) TBC
If you would like your local cinema to get involved, please contact Iris at Adnan@irisprize.org One of the highlights of the Best of Iris 2022 programme is the Iris Prize international winner Tarneit, directed by John Sheedy. The film follows Tyrone who lives with his mother and her boyfriend Pommy, a lowlife drug dealer who despises immigrants and homosexuals. Tyrone’s best friend Clinton, a refugee, lives with his older brother Shaker, who also has similarly firm ideas about race and sex. Despite these obstacles, the boys share a bond, both deaf, both neglected by family, and each dreaming of escaping from the brutal violence that surrounds them. Other films in the Best of Iris 2022 programme are:
Queer Parivaar (PG) | Dir. Shiva Raichandani | UK | 27 Mins (Winner: Iris Prize Best British 2022, sponsored by Film4 and Pinewood Studios) When a mysterious gatecrasher appears at their wedding, Madhav and Sufi are forced to face past secrets and reflect on what makes a family.
Breathe (U) | Dir. Harm Van Der Sander | The Netherlands | 6 Mins (Winner: Iris Prize Youth Award) A lyrical coming of age film which follows two school friends from childhood to young adulthood, as their friendship matures into something more romantic.
Jim (15) | Dir. Tom Young | UK | 15 Mins (Winner: Co-op Audience Award) Inspired by true events. West London, 1982. Gay priest Jim Fitzsimmons reaches a decision: he’s going to spend one night with a rent boy. The night will change Jim’s life forever, but not for the reasons he expects.
Tank Fairy (PG) | Dir. Erich Rettstadt 雷利 | Taiwan | 10 Mins (Highly Commended Iris Prize) The magical Tank Fairy delivers her gas tanks unlike any other – with sass, stilettos and a healthy helping of glitter. Her arrival upends the life of Jojo, a lonely ten-year-old who dreams of dancing and drag. Outcast by classmates and misunderstood by his stern, single mom, Jojo is inspired to live out loud by his fierce, propane-toting fairy godmother. The Best of Iris 2022 is 80 minutes long. The trailer can be found here.
The second programme of films, entitled New Iris Productions, features three new films made by winners of the Iris Prize and a community production are a celebration of LGBTQ+ lives. Each is an example of excellence in storytelling and together the programme is sure to make you cry and laugh. These are the three films in the 50 minute programme:
A Beautiful Form To See (PG) | Dir. Lara Zeidan | 8 Mins A Beautiful Form to See (starring Alicia Agneson) is a short film where a young woman gets trapped in her fantasy inside a Kaleidoscope. This is the 11th film made with the Iris Prize sponsored by The Michael Bishop Foundation.
I Shall Be Whiter Than Snow (PG) | Dir. Frederick Stacey | 17 Mins This short film is based on the true story of a lesbian couple, Kim and Roseann, who were married at Velindre Hospital, Cardiff in 2018 whilst Kim was receiving treatment for cancer. This emotional film is a touching love story between two women, a celebration of the amazing staff who work for our NHS, and the importance of compassionate care. The film stars Rebecca Harries and Lynn Hunter, supported by a cast of NHS professionals.
Cardiff (15) | Dir. Sarah Smith (winner of the 2019 Iris Prize) | 25 Mins Perpetually single, Frederick envies his fabulous gay friend Joe, who seems to have a never-ending supply of paramours despite being happily married himself. But when Frederick’s meddling mother arrives for a visit, she thrusts him into a forbidden romance, and a series of unforeseen betrayals hilariously expose some carefully held secrets. The film stars the wonderful, late Welsh Icon Ruth Madoc!
The full list of screenings and events can be found here:  https://irisprize.org/iris-on-the-move-2023/calendar-2023/
Iris on the Move 2023 is also supported by Film Hub Wales as part of the BFI Film Audience Network (FAN), made possible by the National Lottery.
  • Y Gorau o Iris i ymweld â threfi a dinasoedd ar draws y DU yn 2023
  • Enillydd Gwobr Iris rhyngwladol ac enillydd Gorau Ym Mhrydain i gael dangosiadau sgrin FAWR mewn sinemâu ledled y DU
  • Iris Ar Grwydr yn mynd i Belfast am y tro cyntaf
  • "Mae'n wych ein bod yn ychwanegu Gogledd Iwerddon at ein taith ffordd flynyddol gydag Iris"
Mae wyth ffilm fer o Ŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris 2022 a gefnogir gan Sefydliad Michael Bishop ar gael i deithio ledled y DU yn 2023. Mae rhaglen Gorau o Iris 2022 yn cynnwys pedair ffilm fer fuddugol ac un teitl clodwiw a wnaeth argraff ar gynulleidfaoedd, gan gynnwys y beirniaid yn ystod yr ŵyl yng Ngaerdydd ym mis Hydref 2022. Mae'r detholiad amrywiol hwn o ffilmiau byrion eithriadol yn cynnig cipolwg ar straeon unigryw o bob cwr o'r byd. Bydd taith 2023 hefyd yn cynnwys rhaglen o dair ffilm newydd a gynhyrchwyd gan Iris. Mae'r ddwy raglen ar gael am ddim i sinemâu a lleoliadau eraill yn y DU, er bod rhoddion i Iris bob amser yn cael eu gwerthfawrogi.
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr yr Ŵyl:
"Eleni, rwyf wrth fy modd ein bod yn ymweld â Belffast am y tro cyntaf.  Mae'n wych ein bod yn ychwanegu Gogledd Iwerddon at ein taith ffordd flynyddol gydag Iris. "Dw i wrth fy modd yn cwrdd â'r bobl sy'n gwneud y ffilmiau, ac fe fydda i'n cyflwyno nifer o'r dangosiadau yn bersonol.  Bydd y rhan fwyaf o'r dangosiadau Iris ar Grwydr yn cynnwys sesiwn holi ac ateb, gan ganiatáu i'r gynulleidfa gael mynediad uniongyrchol i'r gwneuthurwyr ffilmiau sy'n ymweld."
Bydd Iris Ar Grwydr 2023 yn ymweld â’r trefi a’r dinasoedd canlynol:
  • Bangor (Pontio) Dydd Mercher, 1 Chwefror
  • Caerdydd (Chapter) Dydd Sadwrn, 4 Chwefror
  • Manceinion (HOME) Dydd Sadwrn, 4 Chwefror
  • Manceinion (HOME) Dydd Llun, 6 Chwefror
  • Bournemouth (Arts University) Dydd Mawrth, 7 Chwefror
  • Bournemouth (Arts University) Dydd Mercher, 8 Chwefror
  • Abertawe (Canolfan Celfyddydau Taliesin), Dydd Mawrth, 7 Chwefror
  • Blackpool (Winter Gardens) Dydd Sadwrn, 11 Chwefror
  • Caerdydd (Pink Portraits, Revisited) Dydd Llun 13 Chwefror
  • Caerdydd (Yr Amgueddfa Genedlaethol) Dydd Gwener, 17 Chwefror
  • Aberplym (Arts University) Dydd Mawrth, 21 Chwefror
  • Aberystwyth (Canolfan y Celfyddydau) Dydd Sadwrn, 25 Chwefror
  • Lerpwl (FACT at Picturehouse) Dydd Llun, 27 Chwefror
  • Belffast (Queen’s Film Theatre) Dydd Mawrth, 28 Chwefror
  • Newcastle (Tyneside) Dydd Mawrth, 7 Mawrth
  • Bexhill-on-Sea (De La Warr Pavilion) I’w gadarnhau
Os hoffech i'ch sinema leol gymryd rhan, cysylltwch ag Iris trwy Adnan@irisprize.org
Un o uchafbwyntiau'r rhaglen Gorau o Iris 2022 yw Tarneit, enillydd rhyngwladol Gwobr Iris, wedi'i chyfarwyddo gan John Sheedy. Mae'r ffilm yn dilyn Tyrone sy'n byw gyda'i fam a'i chariad Pommy, deliwr cyffuriau bywyd isel sy'n casáu mewnfudwyr a phobl hoyw. Mae ffrind gorau Tyrone, Clinton, yn ffoadur, sy’n byw gyda'i frawd hŷn Shaker, sydd hefyd â syniadau cadarn yn yr un modd am hil a rhyw. Er gwaethaf y rhwystrau hyn, mae'r bechgyn yn rhannu cysylltiad, y ddau yn fyddar, y ddau wedi'u hesgeuluso gan deulu, a’r ddau yn breuddwydio am ddianc o'r trais creulon sy'n eu hamgylchynu.
Y ffilmiau eraill yn rhaglen Gorau o Iris 2022 yw: Queer Parivaar (PG) | Cyf. Shiva Raichandani | DU | 27 munud (Enillydd: Gwobr Iris Gorau Ym Mhrydain 2022, noddir gan Film4 a Pinewood Studios) Pan fydd hunanwahoddwr dirgel yn ymddangos yn eu priodas, mae Madhav a Sufi yn cael eu gorfodi i wynebu cyfrinachau'r gorffennol a myfyrio ar yr hyn sy'n gwneud teulu.
Breathe (U) | Cyf. Harm Van Der Sander | Yr Iseldiroedd | 6 munud (Enillydd: Gwobr Ieuenctid Gwobr Iris) Ffilm delynegol dod i oed sy'n dilyn dau gyfaill ysgol o'u plentyndod i fod yn oedolion ifanc, wrth i'w cyfeillgarwch aeddfedu i fod yn rhywbeth mwy rhamantus.
Jim (15) | Cyf. Tom Young | DU | 15 munud (Enillydd: Gwobr Cynulleidfa’r Co-op ) Wedi'u hysbrydoli gan ddigwyddiadau go iawn. Gorllewin Llundain, 1982. Mae'r offeiriad hoyw Jim Fitzsimmons yn dod i benderfyniad: mae'n mynd i dreulio un noson gyda bachgen rhent. Bydd y noson yn newid bywyd Jim am byth, ond nid am y rhesymau mae'n ei ddisgwyl.
Tank Fairy (PG) | Cyf. Erich Rettstadt 雷利 | Taiwan | 10 munud (Highly Commended Iris Prize) Mae'r Tank Fairy hudolus yn dod â’i thanciau nwy mewn ffordd wahanol i unrhyw un arall - gyda sass, stilettos a thipyn bach o befredd. Mae ei phresenoldeb yn cyffroi bywyd Jojo, plentyn deg oed unig sy'n breuddwydio am ddawnsio a drag. Wedi’i daflu allan gan gyd-ddisgyblion a'i gamddeall gan ei fam sengl, galed, mae Jojo yn cael ei ysbrydoli i fyw ei fywyd ar garlam gan ei ddewines garedig, wyllt a llawn ysbryd. Mae’r Gorau o Iris 2022 yn 80 munud o hyd. Gallwch chi ddod o hyd i’r trelar fan hyn.
Mae'r ail raglen o ffilmiau, o'r enw Cynyrchiadau Newydd Iris, yn cynnwys tair ffilm newydd a wnaed gan enillwyr Gwobr Iris a chynhyrchiad cymunedol yn ddathliad o fywydau LHDTQ+. Mae pob un yn enghraifft o ragoriaeth mewn adrodd straeon ac mae'r rhaglen gyda'i gilydd yn siŵr o wneud i chi grïo a chwerthin. Dyma'r tair ffilm yn y rhaglen 50 munud: A Beautiful Form To See (PG) | Cyf. Lara Zeidan | 8 munud Mae A Beautiful Form to See (yn serennu Alicia Agneson) yn ffilm fer lle mae merch ifanc yn cael ei chaethiwo yn ei ffantasi y tu mewn i Kaleidoscope. Dyma'r 11eg ffilm a wnaed gyda Gwobr Iris a noddwyd gan The Michael Bishop Foundation. I Shall Be Whiter Than Snow (PG) | Cyf. Frederick Stacey | 17 munud Mae'r ffilm fer hon yn seiliedig ar stori wir cwpl lesbiaidd, Kim a Roseann, a briododd yn Ysbyty Felindre, Caerdydd yn 2018, tra roedd Kim yn cael triniaeth am ganser. Mae'r ffilm emosiynol hon yn stori garu deimladwy rhwng dwy fenyw, dathliad o'r staff anhygoel sy'n gweithio i'n GIG, a phwysigrwydd gofal tosturiol. Mae'r ffilm yn serennu Rebecca Harries a Lynn Hunter, gyda chefnogaeth cast o weithwyr proffesiynol y GIG.
Cardiff (15) | Cyf. Sarah Smith (enillydd Gwobr Iris 2019) | 25 munud Yn barhaol sengl, mae Frederick yn genfigennus o’i ffrind hoyw gwych Joe, sy'n ymddangos fel pe bai ganddo gyflenwad di-ddiwedd o gariadon er iddo fod yn briod ac yn hapus. Ond pan fydd mam fusneslyd Frederick yn cyrraedd ar gyfer ymweliad, mae hi'n ei wthio i ramant gwaharddedig, a chyfres o fradychiadau annisgwyl yn amlygu rhai cyfrinachau a ddelir yn ofalus. Mae'r ffilm yn serennu'r eicon rhyfeddol, diweddar o Gymru Ruth Madoc!
Mae'r rhestr lawn o'r dangosiadau a'r digwyddiadau i'w gweld yma:  https://irisprize.org/iris-on-the-move-2023/calendar-2023/
Mae Iris Ar Grwydr 2023 hefyd yn cael ei gefnogi gan Film Hub Wales fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI (FAN), a wnaed yn bosibl gan y Loteri Genedlaethol.