Tom Abell, Chair of the Iris Prize, said: ‘I would like to congratulate Berwyn and the whole Iris team on this outstanding 16th edition of The Iris Prize. We are so pleased to have been able to welcome national and international filmmakers back to Cardiff to celebrate queer filmmaking in all its colours, bringing to Wales and the rest of the UK the very best in short film making and queer creativity. I would also like to thank the juries for their careful thoughts, discussions and lively conversations that have delivered this year’s winners including the first ever award for a role that goes beyond the binary. As always Iris leads the way.’
2022 WINNERS
IRIS PRIZE
The winner of the Iris Prize Supported by The Michael Bishop Foundation is Tarneit, directed by John Sheedy (Australia)Tyrone lives with his mother and her boyfriend Pommy, a lowlife drug dealer who despises immigrants and homosexuals. Tyrone’s best friend Clinton, a refugee, lives with his older brother Shaker, who also has similarly firm ideas about race and sex. Despite these obstacles, the boys share a bond, both deaf, both neglected by family, and each dreaming of escaping from the brutal violence that surrounds them.
Here is the 2022 Iris Prize Winner
Bård Ydén, Chair of the Jury, said: ‘The quality of the films in competition is as high as it is diverse, and we've been on an emotional rollercoaster throughout the selection process - which is exactly where we want films to take us. ‘A number of films stood out, however, and in particular, Tarneit. It touched us in numerous ways, through exceptional storytelling and performances. This is a multi-layered film that will stay with you and we can't wait to see what the filmmaker will present us with in the future. ‘The highly commended films were films we loved for different reasons, and it was important for us to highlight diversity in representation, storytelling, and craft - all three are impressive and unique films that deserve to be mentioned.’
The highly commended films are:
- Tank Fairy, directed by Erich Rettstadt 雷利 (Taiwan)
- Kapaemahu, directed by Hinaleimoana Wong-Kalu, Dean Hamer, Joe Wilson, Daniel Sousa (Animation Director) (USA)
- A Wild Patience Has Taken Me Here, directed by Érica Sarmet (Brazil)
BEST BRITISH
The winner of the Iris Prize Best British Short supported by Film4 and Pinewood Studios is Queer Parivaar, directed by Shiva RaichandaniWhen a mysterious gatecrasher appears at their wedding, Madhav and Sufi are forced to face past secrets and reflect on what makes a family.
Tim Highsted, Channel 4, and Chair of the Iris Prize Best British Short jury, said: ‘This year’s British shorts at Iris once again reveal an array of talented filmmakers – from the joyful and warm winning short, Queer Parivaar, directed by Shiva Raichandani – through to all the films that were shortlisted. ‘It was an almost impossible task to select from all the films, but the jury felt special commendations should go to the witty The Rev, directed by Fabia Martin for its humour; the beautiful and subtly observed drama A Fox in the Night, directed by Keenan Anwar Blessie set in south London and the haunting and poetical Nant, directed by Tom Chetwode Barton. ‘I am also delighted to announce Film4’s renewal of support for the Iris Prize and the Best British Short for a further three years. Iris is a unique organisation that presents the best and most original LBGT+ work each year and like Channel 4 Television showcases original talent and stories, which we can bring to audiences through All4 after the festival has ended.’
The highly commended films are:
- A Fox in the Night, directed by Keeran Anwar Blessie
- Nant, directed by Tom Chetwode Barton
- The Rev, directed by Fabia Martin
BEST BRITISH PERFORMANCE AWARDS SUPPORTED BY OUT AND PROUD
- Best Performance in a Female Role: Claudia Jolly - for the role of ‘Lydia Willis’ in Tommies
- Best Performance in a Male Role: Gary Fannin - for the role of ‘Jim’ in Jim
James Bell and Leo LeBeau, judges for the Best British Performance Awards said: ‘Awarding a performance is no easy task, as all actors bring incredible work to the table and have our utmost respect for what they do. When watching the Best British Shorts we looked for the actors that we believed through and through, who were able to fully utilise every moment that they had on screen. ‘We thought Gary Fannin gave a phenomenal performance in Jim, taking us on a believable rollercoaster of emotions that elevated the story. ‘Claudia Jolly gave a powerful and realistic performance in Tommies. Her star power lifted the piece and it was a true joy to watch.’
FEATURE FILM AWARDS
This year’s Best Feature was chosen by a jury of students from the University of South Wales Film and TV School Wales The Feature Film Jury have awarded in four categories:- Iris Prize Best Feature Award sponsored by Bad Wolf
Metamorphosis, Jose Enrique Tiglao, (Philippines)
Raised as a boy, fifteen-year-old Adam harbours a secret: he has both male and female genitalia. Experiencing menstruation for the first time, his whole life is thrown into turmoil. As he discusses the possibility of gender reassignment surgery with doctors, tensions begin to build between the teenager and his devout Christian parents, but he forms a surprising bond with Angel, an older transfer student at his high school who harbours a secret of her own.
2. Iris Prize Best Performance in a Male Role sponsored by Attitude Magazine
Giancarlo Commare as Antonio in Mascarpone
3. Iris Prize Best Performance in a Female Role sponsored by DIVA Magazine
Lacey Oake as Izzy in Before I Change My Mind
4. Iris Prize Best Performance in a role Beyond the Binary, sponsored by Peccadillo Pictures
Gold Azeron as Adam in Metamorphosis
YOUTH AWARD
-
- The winner of the Youth Award is Breathe, directed by Harm van der Sanden (Netherlands)
A lyrical coming of age film which follows two school friends from childhood to young adulthood, as their friendship matures into something more romantic.
COMMUNITY AWARDS
sponsored by Mark Williams in memory of Rose Taylor- Community Short: Want/Need, directed by Niamh Buckland
- Education Short: The Bed, directed by Thalia Kent-Egan
- Microshort: Hold Me Close Please, directed by Max Roberts
Berwyn Rowlands, Iris Prize Film Festival Director said:‘There was a great energy about the festival this year, which was helped by having the international filmmaking community return to Cardiff, the perfect host city. The films were warmly received by our audience and the winners are proving to be a popular choice. Although the in-person festival has come to an end our UK audience can still enjoy the online programme till the end of October.’Iris Prize will return next year: Tuesday 10 October – Sunday 15 October 2023, and online until the end of October.
Cyhoeddi enillwyr Gwobr Iris 2022!
- Tarneit, gan John Sheedy, yn ennill Gwobr Iris gwerth £30,000 gyda chefnogaeth Sefydliad Michael Bishop
- Queer Parivaar, wedi'i gyfarwyddo gan Shiva Raichandani yn ennill Gwobr Iris y Gorau Ym Mhrydain gyda chefnogaeth Film4
- Chwe ffilm yn derbyn canmoliaeth uchel
- Gwobrau Perfformiadau Prydeinig Gorau Newydd, gyda chefnogaeth Out and Proud yn mynd i Claudia Jolly a Gary Fannin
- Film4 i barhau i gefnogi'r Ffilm Fer Gorau Ym Mhrydain am dair blynedd arall
- 'dathlu ffilmiau queer yn ei holl liwiau, gan ddod â’r gorau o greu ffilmiau byrion a chreadigrwydd queer I Gymru a gweddill y DU’
Dywedodd Tom Abell, Cadeirydd Gwobr Iris: 'Hoffwn longyfarch Berwyn a thîm Iris cyfan ar yr 16eg rhifyn eithriadol hwn o Wobr Iris. Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael croesawu gwneuthurwyr ffilmiau cenedlaethol a rhyngwladol yn ôl i Gaerdydd i ddathlu ffilmiau queer yn ei holl liwiau, gan ddod â’r gorau o greu ffilmiau byrion a chreadigrwydd queer I Gymru a gweddill y DU. 'Hoffwn ddiolch hefyd i'r rheithgorau am eu meddyliau gofalus, eu trafodaethau a'u sgyrsiau bywiog sydd wedi cyflwyno enillwyr eleni gan gynnwys y wobr gyntaf erioed am rôl sy'n mynd tu hwnt i'r deuaidd. Fel bob amser mae Iris yn arwain y ffordd.'YR ENILLWYR GWOBR IRIS Enillydd Gwobr Iris a gefnogir gan Sefydliad Michael Bishop yw Tarneit, wedi'i chyfarwyddo gan John Sheedy (Awstralia)
Mae Tyrone yn byw gyda'i fam a'i chariad Pommy, deliwr cyffuriau bywyd isel sy'n casáu mewnfudwyr a phobl hoyw. Mae ffrind gorau Tyrone, Clinton, ffoadur, yn byw gyda'i frawd hŷn Shaker, sydd hefyd â syniadau cadarn tebyg am hil a rhyw. Er gwaethaf y rhwystrau hyn, mae'r bechgyn yn rhannu cwlwm, y ddau yn fyddar, y ddau wedi'u hesgeuluso gan deulu, a'r ddau yn breuddwydio am ddianc o'r trais creulon sy'n eu hamgylchynu.
Ymateb enilydd Gwobr Iris 2022:
Dywedodd Bård Ydén, Cadeirydd y Rheithgor: 'Mae ansawdd y ffilmiau yn y gystadleuaeth mor uchel ag y mae'n amrywiol, ac rydym wedi bod ar ffigar-ȇt emosiynol drwy gydol y broses ddethol - sef yn union lle rydym am i ffilmiau fynd â ni. 'Roedd nifer o ffilmiau yn sefyll allan, fodd bynnag, ac yn arbennig, Tarneit. Cyffyrddodd â ni mewn sawl ffordd, trwy adrodd straeon a pherfformiadau eithriadol. Mae hon yn ffilm amlhaenog a fydd yn aros gyda chi ac ni allwn aros i weld beth fydd y gwneuthurwr ffilmiau yn cyflwyno i ni yn y dyfodol. 'Roedd y ffilmiau a ganmolwyd yn uchel yn ffilmiau yr oeddem yn eu caru am wahanol resymau, ac roedd yn bwysig i ni dynnu sylw at amrywiaeth mewn cynrychiolaeth, adrodd straeon, a chrefft - mae'r tair yn ffilmiau trawiadol ac unigryw sy'n haeddu cael cydnabyddiaeth.'Y ffilmiau a ganmolwyd yn uchel yw: Tank Fairy, cyfarwyddwyd gan Erich Rettstadt 雷利 (Taiwan) Kapaemahu, cyfarwyddwyd gan Hinaleimoana Wong-Kalu, Dean Hamer, Joe Wilson, Daniel Sousa (Cyfarwyddwr Animeiddio) (UDA) A Wild Patience Has Taken Me Here, cyfarwyddwyd gan Érica Sarmet (Brasil)
Y GORAU YM MHRYDAIN Enillydd Gwobr Iris Ffilm Fer Gorau Ym Mhrydain a gefnogir gan Film4 a Pinewood Studios yw Queer Parivaar, wedi'i chyfarwyddo gan Shiva Raichandani
Pan fydd hunanwahoddwr dirgel yn ymddangos yn eu priodas, mae Madhav a Sufi yn cael eu gorfodi i wynebu cyfrinachau'r gorffennol a myfyrio ar yr hyn sy'n gwneud teulu.
Dywedodd Tim Highsted, Channel 4, a Chadeirydd Gwobr Iris Gorau Ym Mhrydain: 'Mae'r ffilmiau byrion Prydeinig eleni yn Iris unwaith eto yn datgelu amrywiaeth o wneuthurwyr ffilmiau talentog – o'r ffilm fer llawen a chynnes, Queer Parivaar, a gyfarwyddwyd gan Shiva Raichandani – i'r holl ffilmiau a oedd ar y rhestr fer. 'Roedd hi'n dasg bron yn amhosib dewis o'r holl ffilmiau, ond teimlai'r rheithgor y dylai canmoliaeth uchel fynd i'r ffilm ffraeth The Rev, a gyfarwyddwyd gan Fabia Martin am ei hiwmor; y ddrama hardd a chynnil A Fox in the Night, wedi'i chyfarwyddo gan Keenan Anwar Blessie a osodwyd yn ne Llundain; a'r Nant hudolus a barddonol, a gyfarwyddwyd gan Tom Chetwode Barton. 'Rwyf hefyd yn falch iawn o gyhoeddi bydd Film4 yn cefnogi Gwobr Iris Ffilm Fer Gorau Ym Mhrydain am dair blynedd arall. Mae Iris yn fudiad unigryw sy'n cyflwyno'r gwaith LHDTQ+ gorau a mwyaf gwreiddiol bob blwyddyn ac fel Channel 4, mae’n arddangos talent a straeon gwreiddiol, y gallwn eu cyflwyno i gynulleidfaoedd drwy All4 wedi i'r ŵyl ddod i ben.’Y ffilmiau a ganmolwyd yn uchel yw:
- A Fox in the Night, cyfarwyddwyd gan Keeran Anwar Blessie
- Nant, cyfarwyddwyd gan Tom Chetwode Barton
- The Rev, cyfarwyddwyd gan Fabia Martin
GWOBRAU PERFFORMIADAU PRYDEINIG GORAU A GEFNOGIR GAN OUT AND PROUD Perfformiad Gorau Mewn Rôl Fenywaidd: Claudia Jolly – am chwarae rhan ‘Lydia Willis’ yn Tommies Perfformiad Gorau Mewn Rôl Wrywaidd: Gary Fannin – am chwarae rhan ‘Jim’ yn Jim
Meddai James Bell a Leo LeBeau, beirniaid Gwobrau Perfformiad Prydeinig Gorau: 'Nid tasg hawdd yw dyfarnu perfformiad, gan fod pob actor yn dod â gwaith anhygoel i'r bwrdd ac mae gennym ein parch mwyaf at yr hyn maent yn ei wneud. ‘Wrth wylio'r Ffilmiau Byrion Gorau Ym Mhrydain roedden ni'n chwilio am yr actorion roedden ni'n credu heb os nac onibai, oedd yn gallu defnyddio'n llawn bob eiliad oedd ganddyn nhw ar y sgrin. 'Roedden ni'n meddwl bod Gary Fannin wedi rhoi perfformiad rhyfeddol yn Jim, gan fynd â ni ar ffigar-ȇt credadwy o emosiynau oedd yn dyrchafu'r stori. 'Rhoddodd Claudia Jolly berfformiad pwerus a realistig yn Tommies. Cododd ei dawn y darn ac roedd yn arbennig i'w gwylio.'
GWOBRAU FFILMIAU NODWEDD Dewiswyd y Ffilm Nodwedd Orau eleni gan reithgor o fyfyrwyr o Ysgol Ffilm a Theledu Prifysgol De Cymru Mae'r Rheithgor Ffilm Nodwedd wedi dyfarnu mewn pedwar categori: Gwobr Iris Ffilm Nodwedd Orau a noddir gan Bad Wolf
Metamorphosis, Jose Enrique Tiglao, (Y Ffilipinas) Wedi'i godi'n fachgen, mae Adam, sy'n bymtheg oed, yn cadw cyfrinach: mae ganddo organau cenhedlu gwrywaidd a benywaidd. Yn profi mislif am y tro cyntaf, mae ei holl fywyd yn cael ei daflu i gythrwfl. Wrth iddo drafod y posibilrwydd o ailbennu rhywedd gyda meddygon, mae tensiynau yn dechrau ymddangos rhwng y llanc a'i rieni Cristnogol selog, ond mae'n ffurfio perthynas annisgwyl gydag Angel, myfyrwraig hŷn yn ei ysgol uwchradd sy'n cadw cyfrinach ei hun.Gwobr Iris Perfformiad Gorau Mewn Rôl Wrywaidd a noddir gan Attitude Magazine Giancarlo Commare fel Antonio yn Mascarpone Gwobr Iris Perfformiad Gorau Mewn Rôl Fenywaidd a noddir gan DIVA Magazine Lacey Oake fel Izzy yn Before I Change My Mind Gwobr Iris Perfformiad Gorau Mewn Rôl Y Tu Hwnt I Ddeuaidd a noddir gan Peccadillo Pictures Gold Azeron fel Adam yn Metamorphosis
GWOBR IEUENCTID Enillydd Gwobr Ieuenctid yw Breathe, cyfarwyddwyd gan Harm van der Sanden (Yr Iseldiroedd) Ffilm delynegol dod i oed sy'n dilyn dau gyfaill ysgol o'u plentyndod i fod yn oedolion ifanc, wrth i'w cyfeillgarwch aeddfedu i fod yn rhywbeth mwy rhamantus.
GWOBRAU CYMUNED, noddir gan Mark Williams er cof Rose Taylor
- Ffilm Fer Gymuned: Want/Need, cyfarwyddwyd gan Niamh Buckland
- Ffilm Fer Addysg: The Bed, cyfarwyddwyd gan Thalia Kent-Egan
- Ffilm Fer Feicro: Hold Me Close Please, cyfarwyddwyd gan Max Roberts
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Gwobr Iris: 'Roedd yna egni mawr am yr ŵyl eleni. Roedd cael y gymuned gwneud ffilmiau rhyngwladol yn dychwelyd i Gaerdydd, y ddinas berffaith ar gyfer gŵyl ffilmiau, yn gymorth 'Cafodd y ffilmiau groeso cynnes gan ein cynulleidfa ac mae'r enillwyr yn profi i fod yn ddewisiadau poblogaidd. Er bod yr ŵyl wyneb-yn-wyneb wedi dod i ben gall ein cynulleidfa yn y DU barhau i fwynhau'r rhaglen arlein tan ddiwedd mis Hydref.'Bydd Gwobr Iris yn dychwelyd yn 2023: Dydd Mawrth 10 Hydref – Dydd Sul 15 Hydref 2023, ac arlein tan ddiwedd mis Hydref.