Iris Prize – here is your Class of 2022!

• Films from 18 countries make the cut to the final 36 international shorts competing for the prestigious £30,000 Iris Prize
• Two films from the UK and three from Ireland make the final shortlist
• Iris welcomes international and domestic filmmakers back to the first face-to-face festival since 2019
• ‘The uniting factor in all 36 films is an exhilarating celebration of lives of LGBTQ+ people across the world’
Iris Prize - Tank Fairy - 2022 Box Office
Organisers of the Iris Prize LGBTQ+ Film Festival are delighted to announce the shortlist of 36 films competing for the prestigious Iris Prize for the best international short film.  This year, the festival returns in person from 11 – 16 October.  The box office opens on 16 September, with full festival passes, day tickets, and weekend tickets available. The shortlist of international filmmakers competing for the £30,000 Iris Prize International Short Film Competition supported by The Michael Bishop Foundation is unveiled today.  This year’s shortlist features films from 18 different countries, including two from the UK and three from Ireland.  Full details of programmes and showtimes can be found here Iris Prize has many international partner festivals who nominated 21 of the shortlisted films, with the remainder chosen by a pre-selection jury.  The shortlisted films are presented in nine separate programmes, with stories ranging from coming-of-age teenage tales, to horror comedies, through a journey encompassing designer babies and the moving stories of people looking for love and companionship in the autumn of their lives.
Berwyn Rowlands, Iris Prize Film Festival Director, said:
'We are pleased to unveil our fantastic shortlist of the best of the best in LGBTQ+ filmmaking.  We have filmmakers from 18 countries, representing full diversity, actively engaging across the LGBTQ+ community. The uniting factor in all 36 films is an exhilarating celebration of lives of LGBTQ+ people across the world. ‘It is especially poignant to be welcoming our domestic and international filmmakers and guests back to Cardiff, for the first in person, since 2019.  We hope you come to enjoy a festival of film and also enjoy the ‘fringe events’ such as the first Iris gig at the legendary Cardiff venues, Clwb Ifor Bach and the other nightly parties during the week.’
Tarnit - Iris Prize shortlist
IRIS PRIZE 2022 INTERNATIONAL SHORTS, sponsored by The Michael Bishop Foundation

You can book tickets for the Iris Prize Film Festival here

2022 Iris Prize Montage can be viewed here


Gwobr Iris - dyma eich Dosbarth 2022!
  • Ffilmiau o 18 gwlad yn cyrraedd y rhestr fer o 36 ffilm fer ryngwladol sy'n cystadlu am Wobr Iris gwerth £30,000
  • Tair ffilm o'r DU a thair o Iwerddon yn cyrraedd y rhestr fer derfynol
  • Iris yn croesawu gwneuthurwyr ffilmiau rhyngwladol a domestig yn ôl i'r ŵyl wyneb-yn-wyneb gyntaf ers 2019
  • ‘Mae'r ffactor uno ym mhob un o'r 36 ffilm yn ddathliad gwefreiddiol o fywydau pobl LHDTQ+ ar draws y byd’
Mae trefnwyr Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris yn falch iawn o gyhoeddi'r rhestr fer o 36 ffilm sy'n cystadlu am Wobr Iris am y ffilm fer ryngwladol orau.  Eleni, bydd yr ŵyl yn dychwelyd wyneb-yn-wyneb rhwng 11 a 16 Hydref.  Mae'r swyddfa docynnau yn agor ar 16 Medi, gyda thocynnau tymor, tocynnau dydd, a thocynnau penwythnos ar gael. Mae'r rhestr fer o wneuthurwyr ffilmiau rhyngwladol sy'n cystadlu am y Gystadleuaeth Ffilm Fer Ryngwladol Gwobr Iris sydd werth £30,000, gyda chefnogaeth The Michael Bishop Foundation yn cael ei dadorchuddio heddiw.  Mae'r rhestr fer eleni yn cynnwys ffilmiau o 18 o wahanol wledydd, gan gynnwys dwy o'r DU a thair o Iwerddon.  Mae manylion llawn y rhaglenni ac amseroedd sioeau i'w gweld yn Rhaglen / programme | Iris Prize (eventive.org). Mae gan Wobr Iris 25 o wyliau partner rhyngwladol a enwebodd 21 o'r ffilmiau ar y rhestr fer, gyda'r gweddill wedi'u dewis gan reithgor cyn dethol.  Cyflwynir y ffilmiau ar y rhestr fer mewn naw rhaglen wahanol, gyda straeon yn amrywio o hanesion pobl ifanc yn eu harddegau yn dod i oed, i gomedïau arswydus, drwy daith sy'n cwmpasu babis cynllunydd straeon ingol a theimladwy am bobl sy'n chwilio am gariad a chwmnïaeth yn hwyrddydd eu hoes.
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Gwobr Iris:
'Rydym yn falch o gyhoeddi ein rhestr fer wych o'r gorau o ran gwneud ffilmiau LHDTQ+.  Mae gennym wneuthurwyr ffilmiau o 18 gwlad, sy'n cynrychioli amrywiaeth lawn, gan ymgysylltu'n weithredol ar draws y gymuned LHDTQ+. Mae'r ffactor uno ym mhob un o'r 36 ffilm yn ddathliad gwefreiddiol o fywydau pobl LHDTQ+ ar draws y byd. 'Mae'n arbennig o deimladwy i groesawu ein gwneuthurwyr ffilmiau a'n gwesteion domestig a rhyngwladol yn ôl i Gaerdydd, am y tro cyntaf wyneb-yn-wyneb, ers 2019.  Rydyn ni'n gobeithio y dewch i fwynhau gŵyl o ffilmiau a hefyd mwynhau'r 'digwyddiadau ymylol' fel y gig Iris cyntaf yn y gigfan chwedlonol Caerdydd, Clwb Ifor Bach a'r partïon nosweithiol eraill yn ystod yr wythnos.'

Gellir gweld montage Gwobr Iris yma


GWOBR IRIS FFILMIAU BYRION RHYNGWLADOL 2022, a noddir gan Sefydliad Michael Bishop
  • Tarneit | Cyf. John Sheedy | Awstralia
  • Muhafiz (The Protector) Cyf. Pradipta Ray | India -
  • Enlightened | Cyf. Nina Bouchaud-Cheva | Ffrainc
  • Breathe | Cyf. Harm van der Sanden | Yr Iseldiroedd
  • Fervor | Cyf. José Manuel Vélez – UDA
  • Beautiful They | Cyf. Cloudy Rhodes | Awstralia
  • Tank Fairy | Cyf. Erich Rettstadt | Taiwan
  • This is Katherine | Cyf. Ida H. Eldøen | Norwy
  • Thot or Not | Cyf. Dylan Glynn | Canada
  • Chaperone | Cyf. Sam Max | UDA
  • Les démons de Dorothy (Dorothy’s Demons) | Cyf. Alexis Langlois | Ffrainc
  • St Jude | Cyf. Pauline Quinonero | Yr Eidal/Ffrainc
  • CANS Can’t Stand | Cyf. Matt Nadel & Megan Plotka | UDA
  • Peach Paradise | Cyf. Shiva Raichandani | DU/UDA
  • Lugar Nenhum (Nowhere) | Cyf. Pedro Gonçalves Ribeiro | Portiwgal
  • Lana Kaiser | Cyf. Philipp Gufler | Yr Almaen / Yr Iseldiroedd
  • Write Here | Cyf. Jake Muñoz Consing | Y Ffilipinas
  • Grown in Darkness | Cyf. Devin Shears | Canada
  • A Wild Patience Has Taken Me Here (Uma Paciência Selvagem me Trouxe Até Aqui) | Cyf. Érica Sarmet | Brasil
  • Hornbeam | Cyf. Mark Pluck | DU
  • Blue Eyes (Blaue Augen) | Cyf.  Alexander Weber | Awstria
  • Successful Thawing of Mr Moro | Cyf. Jerry Carlsson | Sweden
  • Static Space | Cyf. Kate Black Spence and John Klein | UDA
  • Science Around Us | Cyf. Arif Abdillah | Yr Iseldiroedd
  • Oisin | Cyf. Alba Fernandez | Iwerddon
  • Lambing | Cyf. Katie McNeice | Iwerddon
  • Forgiveness Day | Cyf. Derek Ho | UDA / Awstralia
  • How Not to Date While Trans | Cyf. Nyala Moon | UDA
  • Perennial | Cyf. Naomi Cubero | UDA
  • What is a Woman? (Hva er en kvinne?) | Cyf. Marin Håskjold | Norwy
  • Kapemahu | Cyf. Hinaleimoana Wong-Kalu, Dean Hamer, Joe Wilson, Daniel Sousa (Animation Director) | UDA
  • Brutal | Cyf. Sam McConnell | UDA
  • Ripples | Cyf. Yael Nudelman | Israel
  • First Date | Cyf. Clara Planalles | Iwerddon
  • Night Ride | Cyf. Erik Tveiten | Norwy
  • Tommies | Cyf. Brian Fairbairn, Karl Eccleston | DU